Gayanga Shacheni

Anelu'n uchel gyda gradd yn y Gyfraith o PDC

Y Gyfraith
A law student smiles while seated in the moot court

Mae’r cysylltiadau â chwmnïau a sefydliadau cyfreithiol yn darparu digonedd o gyfleoedd interniaeth a rhwydweithio i fyfyrwyr.


Dilyn llwybr gyrfa fy mreuddwydion

Mae Cyfraith Fasnachol Ryngwladol wedi bod yn fy hoff bwnc ers fy ngradd baglor yn Sri Lanka, a thrwy ymchwil darganfyddais fod cynnwys y meistr yn PDC yn cysylltu’n uniongyrchol â’m hastudiaethau blaenorol a byddai’n rhoi’r cyfle i mi wella fy ngwybodaeth. Fy mreuddwyd yw dod yn gyfreithiwr masnachol, a dyma oedd y llwybr cywir i mi. 

PDC yw’r ail brifysgol mwyaf yng Nghymru gydag enw byd-eang rhagorol, yn enwedig mewn astudiaethau cyfreithiol. Mae’r cysylltiadau â chwmnïau a sefydliadau cyfreithiol yn rhoi digon o gyfleoedd interniaeth a rhwydweithio i fyfyrwyr. Dewisais PDC am y rhesymau hyn a’r cyfleusterau o’r radd flaenaf. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

DWI WEDI CAEL Y CYFLE I DDYSGU GAN WEITHWYR PROFFESIYNOL CYFREITHIOL SY’N WEITHGAR YN Y MAES, GAN ROI CIPOLWG GWYCH AR EIN PROFFESIWN.

Gayanga Shacheni

Myfyriwr Y Gyfraith

Hyder drwy brofiad ymarferol

Yn PDC, dwi wedi cael y cyfle i ddysgu gan weithwyr proffesiynol cyfreithiol sy’n weithgar yn y maes, gan roi cipolwg gwych i mi ar ein proffesiwn. Mae cyfleusterau fel y Ffug Lys a’r Clinig Cyngor Cyfreithiol wedi cyfrannu’n sylweddol at ein dysgu, gan wella hyder a sgiliau ymarferol.  

Ar ôl graddio, dwi eisiau arbenigo mewn cyfraith fasnachol ac ymdrin â thrafodiadau trawsffiniol a chymrodeddu rhyngwladol. Fy nghyngor i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n ystyried y gyfraith fasnachol yw peidio ag ofni ei hehangder – mae PDC yn cynnig amgylchedd cefnogol a chyfeillgar, ac mae’r darlithwyr yn dalentog ac yn hawdd mynd atynt. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Y Gyfraith?

Bydd cyrsiau’r gyfraith o Ysgol Busnes De Cymru yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich dyfodol o fewn y diwydiant cyfreithiol a thu hwnt trwy brofiadau byd go iawn.