Kayode Aseweje

Gwella fy ngyrfa gyfreithiol yn PDC

Y Gyfraith
Law student Brandon, smiles away from the camera in the Moot courtroom

Un o’m cyfnodau mwyaf balch yn PDC oedd cymryd rhan mewn rhaglen allgymorth Cyfraith Stryd yn Nhribiwnyls Cyflogaeth Caerdydd.


Pam y dewisais PDC a’r Gyfraith

Dewisais astudio LLB (Anrh) Y Gyfraith (Llwybr Carlam) oherwydd ei fod yn gwrs diddorol sy’n rhyngweithio â llawer o agweddau ar fywyd ac yn cynnig her ddeallusol ysgogol. Roedd PDC yn arbennig o apelgar oherwydd ei fod yn cynnig cwrs cyflym, yn berffaith i mi gan fy mod wedi astudio o’r blaen. Roedd y lleoliad yn ddelfrydol – yn ddigon agos at Gaerdydd ond hefyd yn agos at gefn gwlad, ac roedd i weld i fod yn amgylchedd cyfeillgar iawn. 

Er fy mod heb fynychu Diwrnod Agored, archwiliais yr ysgol gyfraith trwy fideos ar-lein. Roedd y cyfleusterau trawiadol, fel y Ffug Lys a’r gallu i gymryd rhan yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol, wedi fy mherswadio mai PDC oedd y dewis cywir, ac mi oedd, gyda llawer o gyfleoedd i gyflwyno achosion ffug yn y llys a chynnal gwaith achos go iawn yn y clinig. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

DWI’N GWEITHIO O FEWN TÎM GWASANAETHAU CYFREITHIOL GIG CYMRU AR HYN O BRYD, GAN GYMHWYSO’R SGILIAU YMARFEROL A’R WYBODAETH A GEFAIS YN PDC.

Kayode Aseweje

Graddedig Y Gyfraith

Profiadau ymarferol a luniodd fy ngyrfa 

Un o’m cyfnodau mwyaf balch yn PDC oedd cymryd rhan mewn rhaglen allgymorth Cyfraith Stryd yn Nhribiwnlys Cyflogaeth Caerdydd. Helpodd fy nghyfoedion a minnau bobl heb gynrychiolaeth gyfreithiol i ddeall proses y tribiwnlys. Roedd gweld effaith yr addysg rydym yn ei chael a’r profiad rydym yn ei gael ar fywydau pobl yn rhywbeth arbennig.  

Graddiais yn 2021 a dwi’n gweithio o fewn tîm gwasanaethau cyfreithiol GIG Cymru ar hyn o bryd, gan gymhwyso’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth a gefais yn PDC. Y profiad a gefais yma a roddodd y cymhelliant i mi ddilyn gyrfa yn y gyfraith. Mae fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried astudio’r gyfraith yn syml: ewch amdani. Mae’n gwrs diddorol iawn, rydych hi’n dysgu cymaint, ac mae’r gefnogaeth yn PDC yn anhygoel – mae rhywun bob amser yn eich cefnogi. 

 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Y Gyfraith?

Bydd cyrsiau’r gyfraith o Ysgol Busnes De Cymru yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich dyfodol o fewn y diwydiant cyfreithiol a thu hwnt trwy brofiadau byd go iawn.