LLB (Anrh)

Y Gyfraith a Throseddeg

Astudiwch yn y brifysgol orau yng Nghymru ar gyfer y gyfraith a bodlonwch eich chwilfrydedd dros fyd y gyfraith a throseddeg.

Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    M1L6

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £15,850*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £785*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Os ydych chi'n angerddol am y system cyfiawnder troseddol neu'n awyddus i archwilio cyfraith droseddol, mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi. Yn canolbwyntio ar gyfiawnder troseddol a throseddeg, mae'n cyfuno arbenigedd cyfreithiol gyda ffocws ar gyfraith droseddol a chyfiawnder, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y maes cyfreithiol. Gan gynnig gradd LLB gynhwysfawr yn y gyfraith, mae'r rhaglen hon yn pwysleisio Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg i roi'r wybodaeth a'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y system gyfreithiol.

Cynlluniwyd ar gyfer

Myfyrwyr chwilfrydig sydd â chwestiynau ac sydd am archwilio'r berthynas rhwng cyfraith droseddol, troseddu a chyfiawnder cymdeithasol. Os ydych chi am ddeall achosion, canlyniadau ac atal troseddu o safbwyntiau cymdeithasol, cyfreithiol a gwleidyddol, yna dyma'r cwrs i chi.

Llwybrau gyrfa:

  • Heddwas 
  • Swyddi Cyfiawnder Troseddol; Gwasanaethau llys a chyfreithiol
  • Gwasanaeth carchardai ac adsefydlu troseddwyr
  • Gwasanaethau dioddefwyr
  • Gwasanaeth Sifil
  • Gweithiwr proffesiynol mewn awdurdod lleol
  • Sarsiant Dalfa 
  • Twrnai
  • Cyfreithiwr
  • Bargyfreithiwr

Mewn partneriaeth â:

  • Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr 
  • Bwrdd Safonau'r Bar

Sgiliau a addysgir:

  • Meddwl yn feirniadol
  • Chwilfrydedd
  • Meddwl yn ddadansoddol
  • Datrys problemau
  • Cyfathrebu cadarn

Uchafbwyntiau'r cwrs

Staff cymwys

Dysgwch gan dwrneiod a chyfreithwyr cymwys sydd â phrofiad sylweddol yn y diwydiant.

Cyfleusterau o'r radd flaenaf

Astudiwch ac ymarferwch yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol, Canolfan Hydra, ac ystafell llys ffug.

Lleoliadau cyfreithiol

Mwynhewch leoliadau gwaith ymarferol mewn cwmnïau cyfreithiol, cwmnïau cyfreithwyr a heddluoedd.

Cyrsiau sydd wedi'u hachredu'n broffesiynol

Enillwch gymhwyster a gydnabyddir gan y cyrff cyfreithiol byd-eang gorau. Rhowch hwb i’ch mantais gystadleuol.

Trosolwg o’r Modiwl

Bydd ein gradd LLB yn y Gyfraith a Throseddeg yn eich trochi i ymarfer y gyfraith o'r eiliad y byddwch yn dechrau, gan roi mynediad uniongyrchol i chi at efelychiadau bywyd go iawn yn ein hystafell llys ffug a'n Canolfan Hydra. Byddwch hefyd yn gallu dewis modiwlau sydd o ddiddordeb mwyaf i chi drwy gydol eich amser yn astudio gyda'n cyfadran.

Blwyddyn un
Sgiliau Cyfreithiol Academaidd a Phroffesiynol 
Cyfraith Droseddol 
Y Gyfraith a'r Wladwriaeth 
Systemau a Dulliau Cyfreithiol 
Cyfraith Contract 
Cyfraith Camweddau 

Blwyddyn dau
Trosedd, Cyfiawnder a Chymdeithas  
Tystiolaeth Droseddol  
Cyfraith Tir  
Y Gyfraith ar Brawf  
Dysgu yn y gweithle  
Mynediad at Gyfiawnder, Eiriolaeth a Moeseg (Dewisol)  
Cyfraith Teulu (Dewisol)  
Y Gyfraith a Thechnoleg Ar Waith (Dewisol)  
Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus (Dewisol)  

Blwyddyn tri
Ymchwil Gyfreithiol Gyfoes
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaeth
Cyfraith Droseddol Uwch
Rheoleiddio Bancio a Chyllid (Dewisol)
Addysg Gyfreithiol Glinigol (Dewisol)
Atebolrwydd Troseddol Corfforaethol (Dewisol)
Traethawd Hir (Dewisol)
Cyfraith Teulu (Dewisol)
Rhywedd a'r Gyfraith (Dewisol)
Cyfraith Feddygol (Dewisol)
Camweinyddu Cyfiawnder (Dewisol)
Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus (Dewisol)
Y gyfraith sy'n ymwneud â phlant (Dewisol)

Bydd eich blwyddyn gyntaf yn canolbwyntio ar sylfaen y gyfraith a system gyfreithiol y DU sy’n ymestyn ar draws cyflogaeth a chyfraith droseddol a byddwch yn deall rôl y gyfraith yn ein cymdeithas. Byddwch hefyd yn dechrau datblygu sgiliau ehangach fel meddwl yn feirniadol ac yn clywed gan ein siaradwyr gwadd drwy gydol y flwyddyn.

Sgiliau Cyfreithiol Academaidd a Phroffesiynol 
Dechreuwch eich gradd drwy ddysgu'r sgiliau cyfreithiol a fydd yn eich helpu drwy gydol y cwrs. Byddwch yn ymchwilio ac yn cymryd rhan mewn prosiect trochi 6 wythnos.

Cyfraith Droseddol
Dysgwch am reolau ac athrawiaeth cyfraith droseddol mewn cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol a hawliau dynol ac archwiliwch gyfraith droseddol sy'n ymwneud â lladdiadau, troseddau nad ydynt yn angheuol, bwriad ac atebolrwydd.

Y Gyfraith a'r Wladwriaeth
Cewch eich cyflwyno i gyfraith gyfansoddiadol a gweinyddol yr Undeb Ewropeaidd. Byddwch yn darganfod natur cyfraith yr UE a'i pherthynas â chyfraith y DU. 

Systemau a Dulliau Cyfreithiol
Archwiliwch strwythurau, sefydliadau, prosesau a phersonél y system gyfreithiol Eingl-Gymreig. Byddwch yn dysgu am y sefydliadau a rôl gweithwyr cyfreithiol proffesiynol. 

Cyfraith Contract
Byddwch yn cael eich cyflwyno i reolau cyfraith contract, conglfaen atebolrwydd sifil a sylfaen ar gyfer modiwlau eraill ar y cwrs. Byddwch yn deall cytundeb a chaniatâd. 

Cyfraith Camweddau
Darganfyddwch gyfraith camweddau, conglfaen atebolrwydd camweddus preifat a chyhoeddus. Bydd yn eich helpu i ddeall modiwlau eraill ac yn eich dysgu am esgeuluster ac atebolrwydd y meddiannydd. 

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn ymchwilio i droseddu, cyfiawnder a'u heffeithiau ar gymdeithas wrth ddewis modiwlau sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau personol. Byddwch yn datblygu'r sgiliau i gymryd rhan mewn dadleuon rhesymegol am droseddu, erledigaeth, rheoli troseddu, cyfiawnder troseddol a'r gyfraith, gyda'r opsiwn i ymgymryd â lleoliad diwydiant.

Trosedd, Cyfiawnder a Chymdeithas
Mae’r modiwl hwn yn berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfiawnder troseddol a safbwyntiau cymdeithasol-gyfreithiol troseddu a chyfraith droseddol, byddwch yn datblygu dadansoddiad cymdeithasol-gyfreithiol o droseddu. 

Tystiolaeth Droseddol 
Archwiliwch reolau'r gyfraith sy'n ymwneud â thystiolaeth droseddol a chymhwyso effaith y rheolau tystiolaeth mewn achos troseddol. Byddwch yn dysgu trwy ymarfer yn ein hystafell llys ffug a’n canolfan Hydra. 

Cyfraith Tir
Deallwch egwyddorion Cyfraith Tir yng Nghymru a Lloegr a'r materion gyda thir cofrestredig ac anghofrestredig, rhydd-ddaliadol a lesddaliadol yn ogystal â pherthnasoedd landlordiaid a thenantiaid. 

Y Gyfraith ar Brawf
Darganfyddwch ddamcaniaethau ac athrawiaethau'r gyfraith, y system gyfreithiol a'i heffaith ar werthoedd, dylanwadau a phwysau gwleidyddol cymdeithas. Byddwch yn archwilio astudiaethau achos ac yn cymhwyso damcaniaeth gyfreithiol. 

Dysgu yn y gweithle
Dyma eich cyfle i weithio ar leoliad mewn amgylchedd sydd o ddiddordeb i chi. Byddwch yn gwneud 70 awr o waith i helpu i adeiladu eich profiad gwaith ar ôl graddio.

Mynediad at Gyfiawnder, Eiriolaeth a Moeseg (Dewisol)
Mae’r modiwl hwn yn ddelfrydol os ydych chi'n angerddol am gyfiawnder a moeseg. Byddwch yn cyfweld â chleientiaid ac yn darparu cyngor ar eu rhan. 

Cyfraith Teulu (Dewisol)
Dysgwch am y gyfraith sy'n ymwneud â theulu yn y modiwl rhyngweithiol hwn sy'n archwilio pynciau anodd fel cam-drin domestig, ysgariad, gwahaniad barnwrol a phriodas dan orfod.  

Y Gyfraith a Thechnoleg Ar Waith (Dewisol)
Archwiliwch y defnydd o dechnoleg yn y sector cyfreithiol o broffesiwn, prosesau a sefydliadau i'r systemau. Byddwch yn edrych ar yr effeithiau ac yn trafod tueddiadau. 

Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus (Dewisol)
Diddordeb mewn addysg gyfreithiol gyhoeddus? Mae'r modiwl hwn yn archwilio mynediad at gyfiawnder a darpariaeth addysg gyfreithiol gyhoeddus. Byddwch hefyd yn gweithio gyda grŵp cymunedol. 

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn clywed gan fwy o ddarlithwyr gwadd ysbrydoledig ac yn dechrau ystyried llwybrau gyrfa sy'n cyd-fynd â'ch arbenigedd cyfreithiol. Bydd gennych ddewis o naill ai ysgrifennu traethawd hir ar gyfer eich asesiad terfynol neu fodiwlau sy'n gweddu orau i'ch diddordebau personol.

Ymchwil Gyfreithiol Gyfoes
Dyma eich cyfle i ymchwilio i faes cyfraith sydd o ddiddordeb i chi. Byddwch yn dadansoddi ac yn gwerthuso'r mater mewn Clinig Cyngor Cyfreithiol, aseiniad neu ateb cwestiwn penodol.

Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaeth
Darganfyddwch egwyddorion sylfaenol Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaeth yng Nghymru a Lloegr. Byddwch yn deall ac yn gwerthuso'r gyfraith ac yn ei chymhwyso i sefyllfaoedd cymhleth yn yr ystafell ddosbarth.  

Cyfraith Droseddol Uwch
Adeiladwch ar eich gwybodaeth o’r flwyddyn gyntaf a deall yr agweddau datblygedig a chymhleth ar gyfraith droseddol megis ei natur drawswladol gyda masnachu pobl a chaethwasiaeth. 

Rheoleiddio Bancio a Chyllid (Dewisol)
Archwiliwch reoleiddio cyfreithiol banciau a'r system fancio. Byddwch yn edrych ar eu cwsmeriaid, eu troseddau ariannol a'u harian. 

Addysg Gyfreithiol Glinigol (Dewisol)
Adeiladwch ar y sgiliau cyfreithiol clinigol rydych chi wedi'u dysgu dros y ddwy flynedd ddiwethaf a rhowch gyngor cyfreithiol pro-bono i aelodau'r cyhoedd ar ystod o faterion cyfreithiol. 

Atebolrwydd Troseddol Corfforaethol (Dewisol)
Dysgwch am y gyfraith ar atebolrwydd troseddol corfforaethol ac archwiliwch arwyddocâd troseddau corfforaethol fel llwgrwobrwyo o fewn busnesau a'n cymdeithas fodern.

Traethawd Hir (Dewisol)
Mae’r modiwl hwn yn berffaith os ydych chi'n mwynhau ymchwil ac ysgrifennu’n fanwl. Dewiswch y modiwl hwn i archwilio pwnc cyfreithiol sydd o ddiddordeb i chi ac arddangos eich canfyddiadau.

Cyfraith Teulu (Dewisol)
Dysgwch am y gyfraith sy'n ymwneud â theulu yn y modiwl rhyngweithiol hwn sy'n archwilio pynciau anodd fel cam-drin domestig, ysgariad, gwahaniad barnwrol a phriodas dan orfod.  

Rhywedd a'r Gyfraith (Dewisol)
Dysgwch am ffeministiaeth a safbwyntiau eraill ar y gyfraith a phrosesau cyfreithiol ynghylch rhywedd. Byddwch yn trafod yr anghydraddoldebau rhwng rhyweddau a'r rhan y mae'r gyfraith yn ei chwarae. 

Cyfraith Feddygol (Dewisol)
Archwiliwch gyfraith feddygol a moeseg, gan werthuso'n feirniadol y dewisiadau cyfreithiol a moesegol mewn senarios meddygol cymhleth. Byddwch yn deall rôl caniatâd a chyfrinachedd.

Camweinyddu Cyfiawnder (Dewisol)
Byddwch yn adolygu ac yn beirniadu’r system cyfiawnder troseddol, gan edrych ar y cysyniad o gamweinyddu cyfiawnder a sut mae’r system cyfiawnder troseddol yn ymdrin ag ef. 

Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus (Dewisol)
Diddordeb mewn addysg gyfreithiol gyhoeddus? Mae'r modiwl hwn yn archwilio mynediad at gyfiawnder a darpariaeth addysg gyfreithiol gyhoeddus. Byddwch hefyd yn gweithio gyda grŵp cymunedol. 

Y gyfraith sy'n ymwneud â phlant (Dewisol)
Archwiliwch y gyfraith sy'n ymwneud â phlant, gan ddeall y cyd-destunau cymdeithasol a gwleidyddol y mae'n gweithredu ynddynt. Byddwch yn edrych ar herwgydio, creulondeb i blant a throseddau rhywiol. 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ddamcaniaeth a dysgu ymarferol trwy gydol eich astudiaethau, gyda lleoliadau gwaith a’n cyfleusterau ar y campws gan gynnwys y Clinig Cyngor Cyfreithiol a chanolfan efelychu Hydra. 

Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, a argymhellir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Bwrdd Safonau'r Bar. Mae ein LLB Ymarfer Cyfreithiol (ACC) yn defnyddio dull deublyg at y cwrs, gan baratoi myfyrwyr i sefyll arholiadau amlddewis ACC1 a'u helpu i ddatblygu'r sgiliau allweddol i ddod yn gyfreithiwr. Bydd hyn yn helpu myfyrwyr sydd eisiau mynd ymlaen i sefyll ACC2 ar ôl graddio. 

Staff addysgu

Mae gan ein holl ddarlithwyr y gyfraith gymwysterau proffesiynol ac mae ganddynt brofiad o weithio fel twrneiod a chyfreithwyr. Byddant yn rhannu eu hymchwil gyfreithiol drwy erthyglau cyhoeddedig, cynadleddau a gwerslyfrau. Mae eu hymchwil yn bwydo'n uniongyrchol i'ch astudiaethau, sy'n golygu y byddwch yn elwa o gwricwlwm esblygol a addysgir gan staff sydd ar flaen y gad yn eu pwnc. 

Mae ein rhaglen o siaradwyr gwadd yn rhoi cipolwg i chi ar ymarfer y gyfraith ac yn eich helpu i ddeall y mathau o lwybrau gyrfa sydd ar gael. Mae cyfle hefyd i ymuno â'n Cymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith, sy’n cynnal rhwydweithio proffesiynol rheolaidd, ac ymweliadau â Dau Dŷ Senedd y DU a'r Goruchaf Lys. 

Lleoliadau a phrofiad gwaith

Mae ein staff yn gweithio gyda chwmnïau gwasanaethau cyfreithiol mawr eu bri sy'n cynnig lleoliadau gwaith gwerthfawr i'ch annog i ymarfer eich sgiliau cyfreithiol newydd a chael profiad o amgylchedd gweithle go iawn. Mae addysg gyfreithiol glinigol wedi'i chynnwys yn ein cyrsiau, gan roi mynediad i chi at gyfiawnder o dan oruchwyliaeth cyfreithwyr gweithredol a darlithwyr yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol pro bono y brifysgol. 

Mae gennym gysylltiadau cryf â'r diwydiant ac rydym yn cynnal ystod o siaradwyr gwadd arbenigol a fydd yn darparu cyd-destun ac enghreifftiau go iawn sy'n ymwneud â'r pynciau rydych chi'n eu hastudio. Rydym hefyd yn cynnig cinio i drafod gwaith a chyfleoedd rhwydweithio i'n myfyrwyr. 

Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau cyfraith gwych ar gampws Pontypridd yn darparu profiad dysgu ymarferol. Byddwch yn ymarfer yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol arobryn, yn gweithio ar achosion go iawn, ac yn mireinio eich sgiliau yn ein hystafell llys ffug. Mae canolfan efelychu Hydra yn eich galluogi i wneud penderfyniadau allweddol mewn sefyllfaoedd amrywiol, gan eich paratoi'n ymarferol ar gyfer ymarfer cyfreithiol. Cynhelir y rhan fwyaf o ddarlithoedd a sesiynau ar Gampws Pontypridd yn Nhrefforest, dim ond 20 munud o Gaerdydd. Mae'r adnoddau hyn yn sicrhau eich bod yn barod ar gyfer gyrfa gyfreithiol lwyddiannus ar ôl y brifysgol. 

Gofynion mynediad

Pwynt UCAS: 104 (neu'n uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Safon Uwch: BCC
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC gyda Rhagoriaeth Teilyngdod Teilyngdod
  • Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC yn y Safon Uwch
  • Mynediad i AU: Llwyddo yn y Diploma Mynediad i AU a chael o leiaf 104 pwynt tariff UCAS.
  • Lefel T: P (C ac uwch)

Additional Requirements:

TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cymorth gyrfaoedd

Mae ein cyfadran yn falch o'u polisi drws agored, sy’n helpu i gefnogi myfyrwyr trwy gydol eu hastudiaethau. Bydd ein tîm yn helpu gydag ysgrifennu CVs, gwneud cais am swyddi, hyder mewn cyfweliadau a llywio'r broses recriwtio. 

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd PDC wrth law i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau, gydag arweiniad ar ysgrifennu eich CV, gwneud cais am swyddi, meistroli cyfweliadau a llywio'r broses recriwtio. Rydym yn cynnal gweithdai sgiliau a ffeiriau gyrfaoedd yn rheolaidd i'ch cysylltu â chyflogwyr yn y dyfodol a rhoi’r offer i chi ddatblygu. 

Partneriaid diwydiant

Cewch gyfle i wneud cais am leoliad gwaith yn ystod eich ail flwyddyn astudio, a all fod gydag un o'n lleoliadau partner dibynadwy neu rywle sydd o ddiddordeb i chi'n bersonol. Mae lleoliad gwaith yn ddewis gwych os ydych chi eisiau cymysgedd o ddysgu, addysgu ac asesu academaidd ac ymarferol. 

Rydym yn gweithio gyda'r sector gwasanaethau cyfreithiol i ddarparu lleoliadau gwaith gwerthfawr i'n myfyrwyr LLB y Gyfraith, gan gynnwys yn y Senedd, Cyngor ar Bopeth, Cyngor RhCT a Hugh James. 

Gyrfaoedd graddedigion

Mae llawer o'n graddedigion o'r cwrs LLB yn mynd ymlaen i astudiaeth ôl-raddedig wrth iddynt geisio datblygu eu haddysg gyfreithiol ymhellach. Os ydych chi'n ystyried ymuno â'r Bar, gallwch symud i Gwrs Hyfforddiant y Bar, neu os ydych chi am orffen Diploma Lefel 6 CILEX mewn Ymarfer Cyfreithiol, gallwch chi wneud hynny hefyd. 

Os ydych chi'n ystyried cael swydd, gallwch symud ymlaen i gymhwyso fel cyfreithiwr gyda'r cwrs LLM Ymarfer Proffesiynol a pharatoi ar gyfer yr Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (ACC). Mae llawer o'n graddedigion yn y gyfraith yn dewis rolau mewn technoleg gyfreithiol, gwaith cymdeithasol, yr heddlu, sefydliadau'r trydydd sector, busnes, cyllid ac AD i enwi dim ond rhai. 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£785

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£15,850

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.