Gwasanaeth Datblygu Dysgwyr
Ein cenhadaeth
Rydym yn cynnig
CWESTIYNAU CYFFREDIN
Gall y Tîm Datblygu Dysgwyr gefnogi eich astudiaethau academaidd drwy eich helpu i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i lwyddo mewn addysg uwch. Mae'r rhain yn cynnwys ysgrifennu academaidd, cyfeirio, a sgiliau meddwl beirniadol, yn ogystal â chymorth Mathemateg ac Ystadegaeth.
Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys apwyntiadau un-i-un (ar-lein neu ar y campws), sesiynau sgiliau ar-lein rheolaidd (trwy Teams), canllawiau ar-lein, a chanllawiau fideo. Gellir cael mynediad at yr holl wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar y wefan hon.
Mae'r Ganolfan Datblygu Dysgwyr wedi'i lleoli yn Llyfrgell Trefforest, ystafell TRL116. Galwch heibio dydd Llun i ddydd Gwener 10.00 - 16.00 i ofyn i'n Mentoriaid Digidol yn y dderbynfa am ein gwasanaeth, am wybodaeth gyffredinol, neu i ofyn am gymorth digidol.
Os ydych chi am siarad â rhywun ynglŷn â'ch gwaith academaidd, archebwch apwyntiad gydag Arbenigwr Datblygu Dysgwyr. Cliciwch yma i archebu gyda ni.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, gallwch ddefnyddio ein Chatbot.
Mae gan bob myfyriwr yn PDC sydd ag anabledd neu angen dysgu datganedig hawl i Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA).
Unwaith y bydd myfyrwyr wedi mynd trwy asesiad anghenion gyda Thîm Anabledd y brifysgol, efallai y bydd ganddynt hawl i oriau gyda Thiwtor Sgiliau Astudio Arbenigol. Gallant eich cefnogi trwy eich astudiaethau trwy ddarparu cefnogaeth arbenigol. I ddysgu mwy, cliciwch yma.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/12-campus-spaces/campus-spaces-newport-library-27820.jpg)
Uniondeb Academaidd
Fel myfyriwr yn PDC, mae'n bwysig i chi ddeall Uniondeb Academaidd, neu fel arall efallai y byddwch mewn perygl o gael eich cyhuddo o Gamymddwyn Academaidd. Gall y cyhuddiad hwn arwain at orfod ail-wneud modiwl neu, mewn rhai achosion, eich diarddel o'r brifysgol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-staff-learner-development-service.jpeg)
Gwirfoddoli gyda ni
"Mae bod yn Fentor Digidol yn fy ngalluogi i helpu myfyrwyr eraill i ddysgu sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer astudio yn PDC.” - Mentor Cymorth Digidol