Deall Camymddygiad Academaidd
Mae camymddwyn academaidd yn golygu torri rheolau uniondeb academaidd. Mae'r rheolau hyn wedi'u nodi gan Dîm Uniondeb Academaidd PDC i chi eu dilyn.
Er mwyn deall hanfodion uniondeb academaidd, mae modiwlau ar-lein y dylech eu cwblhau. Ar ôl i chi orffen y modiwlau, byddwch yn derbyn tystysgrif cwblhau.
Ochr yn ochr â deall uniondeb academaidd, mae'n bwysig dysgu am y goblygiadau, y cymorth sydd ar gael a sut i atal camymddwyn academaidd.
Diffinio Camymddygiad Academaidd
Achosion o ddefnyddio adnoddau anawdurdodedig neu geisio cymorth allanol mewn arholiadau neu aseiniadau.
Mae rheoliadau PDC yn nodi:
“Twyllo dan gontract yw pan fydd myfyrwyr yn prynu traethawd neu aseiniad pobl eraill, naill ai ‘yn barod’ neu wedi’i ysgrifennu’n bwrpasol ar eu cyfer, ac yn ei gyflwyno fel eu gwaith eu hunain”.
Er mwyn osgoi twyllo dan gontract:
- peidiwch byth â rhoi eich meini prawf aseiniad ar wefan arbenigol lle bydd pobl yn ceisio ysgrifennu'r traethawd ar eich rhan
- peidiwch byth â chyflwyno darn o waith rydych wedi'i brynu o wefan
Copïo a defnyddio gwaith rhywun arall heb gyfeirio'n briodol neu ofyn caniatâd. Gall llên-ladrad fod yn ysgrifenedig neu'n anysgrifenedig.
Cymerir y drosedd academaidd o lên-ladrad o ddifrif.
Mae rheoliadau PDC yn nodi bod llên-ladrad yn digwydd pan fydd “myfyrwyr yn cymryd gwaith neu syniadau rhywun arall ac yn honni mai eu gwaith neu eu syniadau eu hunain ydynt”.
Ein profiad ni yw bod llên-ladrad fel arfer yn anfwriadol - ac yn deillio o gyfeirio a/neu aralleirio gwael.
Fodd bynnag, hyd yn oed os yw'n ddamweiniol - gall arwain at honiadau o gamymddygiad academaidd ac efallai y cewch eich atgyfeirio at sgiliau astudio i gael help a chymorth gyda chyfeirio a/neu aralleirio.
Er mwyn osgoi llên-ladrad:
- cydnabyddwch ffynonellau a ddefnyddir yn eich gwaith
- cyfeiriwch syniadau, delweddau a gwaith creadigol arall, a ddefnyddir yn eich gwaith
- cydnabyddwch ffynonellau wrth aralleirio/crynhoi syniadau/gwybodaeth
- ni ddylech gyflwyno aseiniad fel eich un chi yn llwyr pan fu ymdrech gydweithredol – dylech bod amser gydnabod cydweithrediad
- peidiwch â thorri a gludo o ffynonellau electronig heb gynnwys yr URL/doi neu'r awdur a/neu heb ddangos bod y testun sydd wedi'i ludo yn ddyfyniad uniongyrchol
Mae cydgynllwynio yn drosedd academaidd.
Mae rheoliadau PDC yn nodi:
Mae cydgynllwynio yn digwydd pan (oni bai bod cymeradwyaeth swyddogol, e.e. fel y byddai ar gyfer prosiectau grŵp): “mae dau neu ragor o fyfyrwyr yn cydweithio i gynhyrchu gwaith a… chyflwyno gwaith, sy’n afresymol o debyg a/neu yr honnir gan y myfyrwyr ei fod yn gynnyrch/gynhyrchion eu hymdrech[ion] unigol. Os bydd un myfyriwr yn rhannu ei waith ei hun â myfyriwr arall, gan arwain at gyflwyno darnau o waith sy’n debyg, ystyrir bod hyn yn gydgynllwynio gan y naill a’r llall, ni waeth beth oedd y bwriad”.
Er mwyn osgoi cydgynllwynio:
- peidiwch byth â chwblhau darn o waith ar y cyd a ddylai fod wedi bod yn ymdrech unigol a'i gyflwyno gyda thebygrwydd sylweddol
- peidiwch byth â gadael i fyfyriwr arall fenthyg eich gwaith
- peidiwch byth â chaniatáu i fyfyriwr arall gaffael gwaith y gellir ei gyflwyno fel ei waith ei hun
Weithiau mae myfyrwyr yn ddryslyd ynghylch pam mae'n rhaid iddynt gydnabod beth yw eu gwaith eu hunain yn y bôn.
Mae rheoliadau PDC yn nodi:
“Ailgylchu, y cyfeirir ato weithiau fel hunan-lên-ladrad, yw pan fydd myfyrwyr yn cyflwyno darn o waith sydd eisoes wedi cael ei ddefnyddio mewn un cyd-destun (e.e. mewn aseiniad) ac yna’n ei ddefnyddio eto mewn cyd-destun arall”.
Yn y pen draw, os byddwch chi'n cyflwyno aseiniad (yn llawn neu'n rhannol sylweddol) ddwywaith, hyd yn oed os gwnaethoch chi gynnal yr ymchwil a’i ysgrifennu eich hun, ac yn methu â chydnabod eich bod wedi defnyddio'r deunydd o'r blaen, yna fe'i hystyrir yn llên-ladrad.
Nid yw hyn yn golygu na allwch gyfeirio'r un ffynonellau gwybodaeth. Er enghraifft, gall damcaniaethau Freud, hierarchaeth anghenion Maslow, neu ganllawiau'r NMC fod yn gwbl berthnasol ar gyfer aseiniad gwahanol, ond dylech newid y ffordd rydych chi'n cyflwyno a/neu'n defnyddio'r wybodaeth honno.
Mae rheoliadau PDC yn nodi:
“Mae ffugio [yn digwydd] pan fydd myfyrwyr yn ceisio cyflwyno data, tystiolaeth, cyfeiriadau, dyfyniadau neu ganlyniadau arbrofol wedi'u ffugio neu eu hystumio a/neu gan wybod eu bod yn defnyddio deunydd o'r fath fel rhan o asesiad”.
Yn y bôn - peidiwch â gwneud pethau i fyny!
Er mwyn osgoi ffugio:
- peidiwch â chyflwyno data yn seiliedig ar ymchwiliadau neu arbrofion rheoledig, gan honni ar gam eich bod wedi cynnal yr ymchwiliadau/arbrofion hyn
- peidiwch â dyfeisio cyfeiriadau a/neu gyflwyno gwybodaeth/hawliadau ffug
- peidiwch byth â chynnwys data/gwybodaeth ffug neu anghywir yn fwriadol
Canlyniadau Camymddygiad Academaidd
Colli graddau, methu aseiniadau, neu ddiarddel o'r rhaglen academaidd.
Camau cyfreithiol posibl, yn enwedig mewn achosion o gamymddwyn difrifol neu dwyll.
Effaith negyddol ar gyfleoedd academaidd a phroffesiynol yn y dyfodol.
Atal Camymddygiad Academaidd
Rhoddir cymorth a chyngor ar gyfeirnodi ac aralleirio i atal camgymeriadau tebyg ac mae atgyfeiriadau yn gyfrinachol. Gellir cyrchu hwn trwy:
Sesiynau tiwtorial un i un
Gall ein Harbenigwyr Datblygu Dysgwyr eich helpu i wella eich dealltwriaeth o:
- sut a phryd i gyfeirio
- trefn dyfynnu
- mewnosod dyfyniadau'n gywir
- defnyddio canllawiau cyfeirio yn effeithiol
- sut i aralleirio
Gall sesiynau gynnwys cwblhau ymarferion cyfeirio, adolygu sleidiau PowerPoint ac adnoddau eraill ar gyfeirio, yn ogystal â dadansoddi gwaith myfyrwyr i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau cyfeirio neu aralleirio. Archebwch sesiwn un-i-un yma.
Gweminarau
Mae'n well gan rai myfyrwyr fynychu gweithdy pan fyddant wedi cael eu cyfeirio am gymorth o ganlyniad i gamymddwyn academaidd. Mae gweithdai Cyfeirio ac Aralleirio yn rhedeg yn rheolaidd trwy gydol tymhorau'r hydref a'r gwanwyn.
Bydd manylion dyddiadau ac amseroedd ar gyfer y rhain ar gael ar ein tudalen bwcio Gweithdy.
Cyrchwch ein canllawiau cyfeirio cynhwysfawr a'n ffynonellau i feistroli technegau dyfynnu, cyfeirnodi ac aralleirio priodol. Mae'r adnoddau hyn wedi'u cynllunio i gynorthwyo gydag ysgrifennu academaidd a sicrhau cywirdeb yn eich gwaith.
Mae'r adnoddau hyn i'w cael ar yr Hwb Sgiliau Academaidd ar Blackboard.
Epigeum yw cyfres o fodiwlau ar-lein PDC i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o bob agwedd ar uniondeb academaidd, y gallwch eu rhoi ar waith yn eich astudiaethau. Bydd y modiwlau hanfodol hyn yn eich arfogi â'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i astudio gydag uniondeb a gonestrwydd tra byddwch yn PDC. Mae'r pedwar modiwl yn cymryd tua 30 munud yr un i'w cwblhau.
Gellir eu cyrchu trwy'r Ganolfan Sgiliau Academaidd ar Blackboard.