Apwyntiadau
Sut i drefnu apwyntiad gan ddefnyddio Ardal Gynghori Ar-lein.
Mae'r dudalen hon yn esbonio sut i drefnu apwyntiad gydag un o wasanaethau cymorth myfyrwyr Prifysgol De Cymru.
Eich manylion cyswllt
Dylech bob amser gadw’ch manylion cyswllt yn gyfredol rhag ofn y bydd angen i'r Brifysgol gysylltu â chi.
Myfyrwyr coleg partner
Os ydych chi'n astudio mewn coleg partner yn PDC, cysylltwch â'ch coleg.
Apwyntiadau trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein
Gellir archebu trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein
Darllenwch y nodiadau isod ac ewch i wefan y gwasanaethau cyn archebu.
Tîm Iechyd PDC
Mae'r Tîm Iechyd PDC yn ategu gwasanaethau eich meddyg teulu a'r GIG. Rhaid i chi gofrestru gyda’r Tîm Iechyd PDC cyn archebu'ch apwyntiad cyntaf.
Gwasanaeth Datblygu Dysgwyr
Trefnwch apwyntiad Sgiliau Astudio i siarad â thiwtor sgiliau academaidd neu fathemateg ar sail un i un.
Llyfrgell
Trefnwch apwyntiad gyda llyfrgellydd sy'n arbenigo yn eich maes pwnc.
Tîm Cynghori Ariannol i Fyfyrwyr
Ydych chi'n profi anawsterau ariannol neu broblemau gyda'ch cyllid myfyrwyr? Gall y Tîm Cynghori Ariannol i Fyfyrwyr helpu.
Swyddogion Llwyddiant Myfyrwyr
Archebwch apwyntiad gyda'ch Swyddog Llwyddiant Myfyrwyr i drafod unrhyw beth sy'n effeithio ar eich gallu i astudio neu os ydym wedi cysylltu â chi i gynnig cefnogaeth.
Cyngor Iechyd Meddwl a Llesiant
Os ydych chi'n cael trafferthion gyda'ch iechyd meddwl a hoffech siarad â rhywun am y cymorth sydd ar gael i chi, trefnwch Apwyntiad Asesiad Iechyd Meddwl a Lles.
Archebu apwyntiad
Ewch i'r Ardal Gynghori Ar-lein i gychwyn y broses archebu.
O fewn yr Ardal Gynghori Ar-lein dewiswch yr apwyntiad rydych chi ei eisiau o'r rhestr, neu chwiliwch gan ddefnyddio allweddair.
Mae gwasanaethau'n cynnig apwyntiadau trwy ystod o ddulliau cyswllt, e.e. dros y ffôn, Microsoft Teams neu ar y campws (wyneb yn wyneb). Gofynnir i chi ddewis dull cyswllt o'r rhai sydd ar gael wrth archebu.
Rhowch wybod i ni adeg archebu os oes angen yr apwyntiad trwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg. Sylwch, efallai y bydd angen trefnu bod cyfieithydd ar y pryd yn bresennol.
Canslo apwyntiad
Os na allwch gadw eich apwyntiad am unrhyw reswm, dywedwch wrthym ar unwaith, bydd hyn yn rhyddhau'r amser i fyfyriwr arall.
I ganslo apwyntiad, mewngofnodwch i apwyntiadau yn yr Ardal Gynghori Ar-lein ac yn 'Archebion i ddod’ dewiswch yr apwyntiad yna 'Canslo archeb'.