Diweddaru eich manylion personol
Pam mae angen i mi gadw fy nghofnod myfyrwyr yn gyfredol?
Defnyddir y manylion personol y byddwch yn eu darparu adeg cofrestru ar ddogfennaeth swyddogol gan y brifysgol, gan gynnwys eich tystysgrif a thrawsgrifiad wrth raddio.
Yn aml, mae angen i'r Brifysgol ohebu â myfyrwyr, drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn, felly mae'n bwysig bod y manylion cyswllt ar eich cofnod myfyriwr yn gywir ac yn gyfredol.
Gallwch ddiweddaru rhywfaint o'r wybodaeth hon eich hun ar-lein, neu efallai y bydd angen i chi gysylltu â'r Brifysgol i wneud hyn.
Sut i ddiweddaru eich manylion cyswllt
- Gwiriwch eich manylion presennol (mae angen mewngofnodi).
- Diweddaru eich manylion (mae angen mewngofnodi). Ar ôl mewngofnodi, dilynwch y ddolen 'Diweddaru Fy Mhroffil'. Cliciwch ar yr eicon pensil wrth ymyl unrhyw fanylion rydych eisiau eu newid.
Gallwch weld a diweddaru eich manylion personol ar unrhyw adeg, ond byddwch yn ymwybodol y gall gymryd hyd at 24 awr i'r newidiadau gael eu dangos ar UniLife.
Os bydd eich rhif ffôn symudol yn newid, a'ch bod yn defnyddio hwn fel rhan o'ch gosodiad Dilysu Aml-ffactor, bydd angen i chi ddiweddaru'r manylion hyn hefyd.
Sut i ddiweddaru'ch Dilysiad Aml-ffactor (MFA)
Gallwch ddiweddaru eich opsiynau MFA ar unrhyw adeg.
Bydd angen i chi wneud hyn os byddwch yn newid eich ffôn symudol, cyn cael gwared a hen ffôn, neu os ydych am ddefnyddio ap Microsoft Authenticator neu Google Authenticator.
Newid manylion personol sydd fel arfer yn barhaol
Os oes angen diwygio eich enw neu newid unrhyw wybodaeth anghywir yng nghronfa ddata'r Brifysgol (e.e. dyddiad geni, enw neu hunaniaeth o ran rhywedd) gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i’r Ardal Gynghori Ar-lein:
- Dewiswch ‘Llwybrau’
- Dewiswch ‘Diweddaru Eich Manylion Personol’
- Darllenwch y wybodaeth ‘Trosolwg – Am y Llwybr Hwn’ a dewiswch ‘Parhau’ i ddechrau’r broses
- Llenwch y ffurflen ar-lein
- Lanlwythwch unrhyw dystiolaeth berthnasol i gefnogi eich cais, yna dewiswch ‘Cyflwyno’ i gwblhau eich cais
Newid enw, teitl neu hunaniaeth o ran rhywedd y mae PDC wedi'i gofnodi ar eich cyfer
Gallwch wneud cais i newid eich enw a'ch hunaniaeth gendreiddiol trwy gyflwyno'r Llwybr 'Diweddaru eich manylion personol' ar Ardal Gynghori Ar-lein (cyfarwyddiadau uchod). Fel rhan o'r Llwybr hwn, gallwch hefyd wneud cais am gerdyn adnabod newydd. Cewch weld y Polisi Newidiadau i Fanylion Personol Myfyrwyr am ragor o wybodaeth a chysylltwch â'r Ardal Gynghori os oes gennych unrhyw gwestiynau. Mae mwy o gyngor, cymorth a hadnoddau ar gael i fyfyrwyr traws a chyfoedion myfyrwyr ar dudalen Cymorth a Hadnoddau Traws.
Cronfeydd data PDC eraill
Pan fyddwch yn diweddaru unrhyw rai o'ch manylion personol, rydych yn diweddaru eich cofnod yng chronfa ddata myfyrwyr canolog y brifysgol.
Os gofynnwyd i chi ddarparu manylion yn flaenorol gan adran neu wasanaeth arall, e.e. y Ganolfan Chwaraeon, Gwasanaethau Llety, Undeb y Myfyrwyr ac yn y blaen, cysylltwch â nhw i'w hysbysu o'r newidiadau.
Er bod y Brifysgol yn ceisio sicrhau bod newidiadau i’r gronfa ddata ganolog yn cael eu cyfleu i adrannau eraill, ni ellir gwarantu hyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â' ch Ardal Gynghori.