Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth i staff a myfyrwyr traws, cydweithwyr a chyd-fyfyrwyr. Mae hefyd yn darparu manylion am y gefnogaeth sydd ar gael ym Mhrifysgol De Cymru ac yn allanol.

  • Os ydych chi'n ystyried trawsnewid, does dim rhaid i chi ddweud wrth unrhyw un os nad ydych chi eisiau, ond mae cefnogaeth fewnol ar gael am gyngor a/neu gymorth cyfrinachol ar unrhyw adeg. 
  • I newid eich enw neu'ch hunaniaeth o ran rhyw ar gofnodion, cysylltwch â'r [email protected].
  • Os ydych chi'n ffrind i rywun sy'n trawsnewid / sydd wedi trawsnewid, mae ein tudalen cynghreiriaid yn cynnig awgrymiadau gwych.
  • Cofiwch y gallai datgelu hunaniaeth rhyw rywun neu ddweud bod rhywun 'allan' heb eu caniatâd gael canlyniadau difrifol, i chi a'r unigolyn. Os ydych chi'n ceisio cymorth/cyngor am rywun rydych chi'n ei gefnogi, heb ganiatâd penodol yr unigolyn, rhaid i chi sôn amdanynt yn ddienw mewn trafodaethau gyda thrydydd parti.
  • Cyfrifoldeb pawb yw amgylcheddau cynhwysol, os ydych chi'n clywed/gweld/profi trawsffobia (gan gynnwys sylwadau rhanddirymol a cham-drin) a'ch bod yn teimlo'n ddiogel i wneud, rydym yn gobeithio y byddwch chi'n dweud rhywbeth. Os na, gallwch siarad â'n Cynghorwyr Urddas yn y Gwaith ac Astudio.

Nid yw bwlio, aflonyddu neu erledigaeth trawsffobig yn cael ei oddef yn PDC; maent yn mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Datganiad Polisi Traws Cydraddoldeb PDC.

Siarad â rhywun am gyngor

Mae gan Brifysgol De Cymru Fodelau Rôl LHDTC+ sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i bob myfyriwr.

Gallwch gysylltu â [email protected] lle bydd un o’r aelodau o’n tîm Ardal Gynghori yn ateb eich ymholiad.

Cysylltwch â’r Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Emma Kwaya-James am ragor o wybodaeth.

Bydd pob cyswllt â'r bobl a enwir yn aros yn gyfrinachol ac eithrio:

  • Pan rydych yn rhoi caniatâd penodol i rannu gwybodaeth
  • Pan fod yna bryder am eich diogelwch chi neu ddiogelwch pobl eraill

Gall myfyrwyr ymuno â'r Gymdeithas Myfyrwyr LHDTC+.

Mae Swyddog LHDTC+ (Traws) penodol ar gyfer UM (yn dibynnu ar y nifer sy'n pleidleisio).

Y swyddogion UM perthnasol eraill yw LHDTC+ (Lle Agored) a LHDTC+ (Lle i Fenywod).

Os nad oes unrhyw Swyddogion Cyngor Myfyrwyr wedi'u hethol, yna dylid cyfeirio ymholiadau myfyrwyr at Is-lywydd Lles UM.

Gall myfyrwyr siarad â Gwasanaeth Lles PDC.

Mae toiledau hygyrch ar gael i bawb eu defnyddio. Mae nifer o gyfleusterau rhywedd-niwtral ar gael yn PDC a rhestrir lleoliadau’r rhain isod. Bydd cyfleusterau pellach yn dod i’n campws yng Nghasnewydd yn haf 2025. Bydd datblygiadau’n cael eu rhannu ar dudalennau Cyswllt a UniLife.

Trefforest

Cynon

Gwaelod

C 0 02

Trefforest

Cynon

Gwaelod

C 0 02A

Trefforest

Cynon

Cyntaf

C 1 121a

Trefforest

Cynon

Cyntaf

C 1 121b

Trefforest

Cynon

Cyntaf

C 1 121c

Trefforest

Glyn-nedd

Seithfed

G 7 02d

Trefforest

Glyn-nedd

Seithfed

G 7 02d

Trefforest

Glyn-nedd

Seithfed

G 7 02d

Trefforest

Porthdy - Diogelwch

Gwaelod

GH 0 01a

Trefforest

Porthdy - Diogelwch

Gwaelod

GH 0 03a

Trefforest

Johnstown

Gwaelod

J 0 02

Trefforest

Johnstown

Gwaelod

J 0 02a

Glyn-taf

Adeilad Alfred Russel Wallace

Gwaelod

AW 0 26

Glyn-taf

Adeilad Alfred Russel Wallace

Gwaelod

AW 0 27

Glyn-taf

Tŷ Anzani (Porthdy Diogelwch)

Gwaelod

AH 0 02

Glyn-taf

Adeilad Elaine Morgan

Gwaelod

EM 0 52

Glyn-taf

Adeilad Elaine Morgan

Gwaelod

EM 0 54

Glyn-taf

Canolfan Adnoddau Dysgu Glyn-taf

Gwaelod

LR 0 09

Parc Chwaraeon

Pafiliwn

Gwaelod

P 0 09

Parc Chwaraeon

Pafiliwn

Gwaelod

P 0 34

Parc Chwaraeon

Parc Chwaraeon

Gwaelod

SC 0 26

Parc Chwaraeon

Parc Chwaraeon

Gwaelod

SC 0 34

Parc Chwaraeon

Parc Chwaraeon

Cyntaf

SC 1 24

Parc Chwaraeon

Parc Chwaraeon

Cyntaf

SC 1 25

Parc Chwaraeon

Parc Chwaraeon

Cyntaf

SC 1 26

Parc Chwaraeon

Parc Chwaraeon

Cyntaf

SC 1 27

Parc Chwaraeon

Parc Chwaraeon

Cyntaf

SC 1 28

Parc Chwaraeon

Parc Chwaraeon

Cyntaf

SC 1 29

Parc Chwaraeon

Parc Chwaraeon

Cyntaf

SC 1 30

Parc Chwaraeon

Parc Chwaraeon

Cyntaf

SC 1 31

Caerdydd

Stiwdio Caerdydd

Gwaelod

CAS 05a

Caerdydd

Stiwdio Caerdydd

Gwaelod

CAS 05b

Caerdydd

Stiwdio Caerdydd

Gwaelod

CAS 05c

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Cyntaf

CA A 1 05

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Cyntaf

CA A 1 06

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Cyntaf

CA B 1 08

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Cyntaf

CA B 1 09

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Cyntaf

CA C 1 12

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Cyntaf

CA C 1 06

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Cyntaf

CA D 1 13

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Cyntaf

CA D 1 14

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Ail

CA B 2 15

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Ail

CA B 2 12

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Ail

CA D 2 11

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Trydydd

CA A 3 04

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Trydydd

CA A 3 05

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Trydydd

CA B 3 12

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Trydydd

CA B 3 09

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Pedwerydd

CA A 4 04

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Pedwerydd

CA A 4 05

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Pedwerydd

CA B 4 13

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Pedwerydd

CA B 4 10

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Pedwerydd

CA D 4 08

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Gwaelod

CA B 0 10

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Gwaelod

CA B 0 07

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Gwaelod

CA C 0 1

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Gwaelod

CA C 0 3

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Gwaelod

CA D 0 12

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Gwaelod

CA D 0 13

Caerdydd

Atrium Caerdydd

Trydydd

CA D 3 10

 

Sefydliadau LHDTC+


Stonewall Cymru
Elusen LHDTC+ sy'n rhoi cyngor ac arweiniad i bobl LHDTC+ a'u teulu a'u ffrindiau ac sy'n gweithio gyda chyflogwyr i'w helpu i fod yn fwy cynhwysol.  Mae PDC yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ac mae'n cymryd rhan yn ei Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle bob blwyddyn.  Gallwch hefyd chwilio am ddigwyddiadau cymunedol lleol a grwpiau cefnogi yn eich ardal.


Galop
Elusen LHDTC+ gwrth-drais, sy'n darparu gwybodaeth a chymorth i unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol neu drosedd casineb.

Gendered Intelligence
Mae'r sefydliad hwn yn darparu gwybodaeth, cymorth ac adnoddau ar gyfer pobl traws, rhieni a theuluoedd.  Maent hefyd yn rhedeg grwpiau ieuenctid ac yn darparu gweithdai ymwybyddiaeth a hyfforddiant i bob sector.

Mermaids
Yn darparu gwybodaeth, canllawiau ac adnoddau i bobl ifanc traws a'u teuluoedd.  Mae ganddynt fforymau preifat y gall pobl ymuno â hwy, un ar gyfer pobl traws ac un ar gyfer rhieni ac aelodau o'r teulu.

Trans Unite
Adnodd ar gyfer darganfod grwpiau cymorth LHDTC+ lleol yn eich ardal.


transEDU
Adnodd ar-lein i staff a myfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch.

Y Gymdeithas Ymchwil ac Addysg Hunaniaeth o ran Rhywedd
Cynnal ymchwil i helpu i hyrwyddo cydraddoldeb traws, gan gynnwys cyfrannu at ddatblygu polisi, a darparu gwybodaeth ac adnoddau i unigolion a theuluoedd.

Constellations
Pobl ifanc 18–25 oed, gyda chwnsela a chymorth am ddim

Impact LGBT+ -
Grŵp 18-25 yng Nghaerdydd

GWIR
Grŵp 11-25 yng Nghasnewydd

FFLAG
Cefnogi teuluoedd a'u hanwyliaid sy’n rhan o’r gymuned LHDTC+.

Trans Actual

Umbrella Cymru
Darparu cefnogaeth a chyngor i bobl ar restr Gwasanaeth Rhywedd Cymru, ond mae croeso i chi gysylltu â nhw os nad ydych chi ar y rhestr.

Y Samariaid
Llinell gymorth i drafod unrhyw fater y gallech fod yn ei wynebu.
Ffoniwch 116 123 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)

Mindline Trans+
Llinell gymorth iechyd meddwl gyfrinachol i bobl sy'n nodi eu bod yn draws.
Ffoniwch 0300 330 5468 (dydd Llun a dydd Gwener 8pm-hanner nos)

Galop
Llinell Gymorth Cam-drin Domestig LHDTC+ Genedlaethol.
Ffoniwch 0800 999 5428 (dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Gwener 10am – 5pm, dydd Mercher a dydd Iau 10am – 8pm)

Llinell gymorth LGBT Cymru
Cyngor ac arweiniad gan gynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau/grwpiau cymdeithasol.  Gwasanaeth cwnsela dros y ffôn ac e-bost am ddim ar gael.
Ffoniwch 0800 840 2069 (dydd Mercher 7pm – 9pm)

Sefydliad LGBT
Cyngor a chanllawiau ar unrhyw beth sy'n ymwneud â LGBT.
Ffoniwch 0345 330 3030 (Llun – Gwener 9am – 9pm, dydd Sadwrn 10am – 6pm)

Mermaids
Llinell gymorth i bobl sy'n uniaethu fel traws a'u teulu neu ffrindiau.

Ffoniwch 0344 344 0550 (Llun – Gwener 9am – 9pm)

Canllawiau ECU (Equality Charter Unit) ar wella profiadau staff a myfyrwyr mewn AU (Bydd angen i chi greu cyfrif i lawrlwytho hwn, defnyddiwch eich e-bost PDC fel eich enw defnyddiwr).

Mae tudalennau Trawsnewid Stonewall yn rhoi arweiniad a chyngor i bobl draws, teuluoedd a ffrindiau ac addysgwyr.

Mae Trans101 yn darparu adnoddau fel pecyn cychwynnol i gefnogi pobl draws o'ch cwmpas.

Mae 53 questions about being non-binary yn rhannu cyngor am bobl anneuaidd mewn Cwestiynau Cyffredin cynhwysfawr.

Gendered Intelligence Guide - ar gyfer rhieni ac aelodau teulu pobl draws. Mae ganddynt adnoddau gwych wedi'u teilwra i amgylcheddau addysg/gweithio.

Trans Aid Cymru - fe welwch gasgliad mawr o adnoddau o dan amrywiaeth o wahanol gategorïau. Mae adnoddau i rieni plant traws yma hefyd.

Mae Gender Diversity in Indigenous Cultures yn darparu gwybodaeth am ddiwylliannau byd-eang sydd ag amrywiaeth hanesyddol o ran rhyw a'r rolau amrywiol y maent yn eu chwarae yn eu treftadaeth, gyda rhai cyfeiriadau at elfennau o wahanol ffydd hefyd.

Mae Trans Student Educational Resources yn sefydliad a arweinir gan bobl ifanc sy'n creu adnoddau ac yn lledaenu ymwybyddiaeth o bobl draws.

Gender Unicorn

Rhagenwau a sut i'w defnyddio

Diffiniadau

Trans Equality Supporting the Transgender People in Your Life: A Guide to Being a Good Ally.

Aelodau Humanequin (TansForm, Ieuenctid Cymru) yn disgrifio eu profiadau fel pobl traws ifanc yng Nghymru ac yn rhoi cyngor i eraill.

Pethau i Beidio â Dweud wrth berson traws (sylwch, mae'r fideo hwn yn cynnwys iaith heb ei sensro y gallai rhai pobl ei chael yn dramgwyddus):

Pethau i Beidio â Dweud wrth berson anneuaidd (sylwch, mae'r fideo hwn yn cynnwys iaith heb ei sensro y gallai rhai pobl ei chael yn dramgwyddus):

'Pwy sy'n cael bod yn ddioddefwr?' Mae Travis Albanza yn sôn am effeithiau adweithiau pobl:

Staff o'r Gender Spectrum yn trafod hunaniaeth anneuaidd ac yn rhoi cyngor i rieni: