Cysylltu â’r Ardal Gynghori
Mae yna sawl ffordd i gysylltu â'r Ardal Gynghori.
Ardal Gynghori Ar-Lein
Gofyn Cwestiwn
Gallwch ddefnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein ar unrhyw adeg i 'Ofyn Cwestiwn', a bydd yn anfon neges atom.
Byddwn yn ymateb cyn pen 5 diwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener) ac anfonir hysbysiad i’ch cyfeiriad e-bost myfyriwr, felly gwiriwch y cyfeiriad e-bost hwnnw'n rheolaidd.
Apwyntiadau
Defnyddiwch yr Ardal Gynghori Ar-lein i drefnu apwyntiadau gyda gwasanaethau cymorth arbenigol PDC. Os nad ydych yn siŵr pa apwyntiad sydd ei angen arnoch, neu os nad ydych yn gallu cael mynediad i'r Ardal Gynghori Ar-lein, cysylltwch â'r Ardal Gynghori a fydd yn gallu trefnu apwyntiad ar eich rhan.
Dros y ffôn
01443 482540 9.00am - 4.00pm, Llun - Gwener.
Mewn Person / Ardaloedd Cynghori ar y Campws
Mae Ardal Gynghori ar y Campws ar bob un o bedwar prif gampws y Brifysgol. Galwch heibio i siarad ag aelod o staff.