Mae Swyddogion Llwyddiant Myfyrwyr (SLlMau) yn cynnig cyngor ac arweiniad rheng flaen i'ch helpu i oresgyn rhwystrau i'ch astudiaethau. 

Mae'r tîm yn rhoi arweiniad wyneb yn wyneb trwy ddesgiau'r Ardaloedd Cynghori ym mhob llyfrgell campws, yn ogystal â sesiynau galw heibio ac apwyntiadau y gellir eu trefnu ymlaen llaw.  

Mae SLlMau wedi'u trefnu yn ôl meysydd pwnc, ond maen nhw hefyd yn gallu cynorthwyo gydag ymholiadau cyffredinol waeth beth fo’ch pwnc. Mae manylion eich SLlM ar dudalen eich cwrs ar Blackboard. 

Sut i gysylltu â’r Swyddogion Llwyddiant Myfyrwyr: 

I ddechrau, dylai myfyrwyr godi eu cwestiwn trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi. 

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â phwnc yn benodol neu'n un cymhleth, bydd yr ymholiad yn cael ei anfon ymlaen at eich SLlM. 

  • Desgiau’r Ardaloedd Cynghori 

Mae Desgiau’r Ardaloedd Cynghori yn gallu helpu gydag ymholiadau cyffredinol. Maen nhw ar agor Dydd Llun i ddydd Gwener 8:30am i 4:30pm. Mae pob SLlM yn gweithio wrth ddesg mewn Ardal Gynghori am hyd at ddau ddiwrnod yr un yr wythnos. Os oes gennych ymholiad yn ymwneud â phwnc yn benodol neu sy’n un cymhleth, efallai y gofynnir i chi drefnu apwyntiad gyda'ch SLlM. 

Dyma lle mae desgiau'r Ardaloedd Cynghori:  

    • Llyfrgell Campws Trefforest, TR L125
    • Llyfrgell Campws Glyn-taf, Glyn-taf Isaf, GT L001
    • Llyfrgell Campws Caerdydd, CA A008
    • Llyfrgell Campws Casnewydd, NCC CB10C 
  • Sesiynau galw heibio wythnosol 

Mae eich SLlM yn cynnal sesiynau galw heibio wythnosol. Mae'r sesiynau'n ar gael am ddwy awr a gall myfyrwyr alw heibio unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae’r dyddiadau ac amseroedd ar dudalen wybodaeth eich cwrs ar Blackboard.  

Os nad ydych chi’n ansicr o'ch dyddiadau/amseroedd galw heibio, codwch gwestiwn Ardal Gynghori Ar-lein. 

  • Trefnu apwyntiad ymlaen llaw 

Ar gyfer ymholiadau mwy cymhleth, gall myfyrwyr drefnu apwyntiad gyda'u SLlM drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.