Gwasanaeth Datblygu Dysgwyr

Cwrdd â'r Tîm

Mae'r Gwasanaeth Datblygu Dysgwyr yn cynnwys Arbenigwyr Datblygu Dysgwyr, Arbenigwr Datblygu Dysgwyr Mathemateg, a thîm o Diwtoriaid Sgiliau Astudio Arbenigol sy'n cefnogi myfyrwyr anabl. Mae pob un ohonynt yn gymwys iawn i'ch cefnogi gyda'ch astudiaethau.

Gwasanaeth Datblygu Dysgwyr
Group shot of the study skills team

Mae arbenigwyr Datblygu Dysgwyr (DD) yn helpu myfyrwyr i nodi a chyflawni gofynion ysgrifennu academaidd priodol a pharatoi ar gyfer asesiadau ar gyfer Addysg Uwch. Mae'r Tîm o Arbenigwyr DD yn gweithio ochr yn ochr â thîm bach o Fentoriaid Digidol a Hyrwyddwyr Uniondeb Academaidd sy'n fyfyrwyr sefydledig yn PDC.

Cefnogaeth gan Gyfoedion

Cwrdd â’r tîm Arbenigwyr Datblygu Dysgwyr

Cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol

Nod y Tîm Sgiliau Astudio Arbenigol yw lleihau unrhyw anawsterau cysylltiedig ag anabledd y gallech ddod ar eu traws yn eich gwaith academaidd. Mae tiwtoriaid sgiliau astudio arbenigol yn cynnig sesiynau sgiliau astudio 1-1 sy'n galluogi myfyrwyr i adeiladu eu sgiliau academaidd i'w galluogi i astudio a dysgu'n effeithlon. Mae'r sgiliau hyn yn amrywio o hanfodion fel gramadeg ac atalnodi i arddulliau ysgrifennu academaidd, ymchwilio, cyfeirnodi, dadansoddi, myfyrio a rheoli amser.

Ariennir cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol fel rhan o becyn Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).