Sefydliad Ceiropracteg Cymru
P'un a ydych chi gyda phoen cefn cronig neu'n chwilio am gymorth i ddarganfod a thrin problemau gyda'ch cymalau neu’ch cyhyrau, mae ein gwasanaethau clinigol yn cynnig cyfle i asesu'ch cyflwr a'ch cynghori ar eich opsiynau triniaeth.
Gwasanaethau Ceiropracteg Gofyn am alwad yn ôl
Mae triniaethau ar gael i bawb, ac mae prisiau'n dechrau o £16.
HYSBYSIADAU CLINIG
Cynigir gofal ceiropracteg i gleifion gan fyfyrwyr blwyddyn olaf o dan oruchwyliaeth ceiropractyddion cymwys.
Mae ein Canllaw i Gleifion yn manylu ar weithdrefnau newydd a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ymweld â'r Clinig.
Gwasanaethau sydd ar gael
Mae'r Clinig Ceiropracteg wedi bod yn darparu gwasanaethau clinigol i'r cyhoedd ers dros 26 mlynedd ac mae wedi'i leoli mewn cyfleuster o’r radd flaenaf a lleoliad addysgol hynod drawiadol sy'n darparu triniaeth effeithiol i gleifion a hyfforddiant arbenigol.TREFNWCH APWYNTIAD
Ffôn
Ffoniwch y clinig yn uniongyrchol
01443 483555
Mae'r Clinig Ceiropracteg wedi bod yn darparu gwasanaethau clinigol i'r cyhoedd ers dros 22 mlynedd ac mae wedi'i leoli mewn cyfleuster o’r radd flaenaf a lleoliad addysgol hynod drawiadol sy'n darparu triniaeth effeithiol i gleifion a hyfforddiant arbenigol.
Am Sefydliad Ceiropracteg Cymru
Gall cleifion hunangyfeirio am ofal ceiropracteg ac mae apwyntiadau ar gael ar y rhan fwyaf o ddyddiau’r wythnos rhwng 8.15yb a - 7.30yh. Gweler ein horiau agor.
Rydym yn cynghori pob claf i drefnu ymgynghoriad cychwynnol lle rydym yn canolbwyntio ar ddiagnosis a dewisiadau triniaeth. Bydd unrhyw apwyntiadau pellach mewn perthynas ag unrhyw driniaethau clinigol a gynghorir.
Ar adegau gallwn dderbyn cleifion newydd heb drefnu apwyntiad ymlaen llaw, fodd bynnag mae hyn yn dibynnu ar argaeledd, a byddem bob amser yn cynghori trefnu ymlaen llaw. Fel arfer gallwn gynnig apwyntiad o fewn ychydig ddyddiau.
Yn ystod eich apwyntiad cyntaf byddwn yn cynnal archwiliad sy'n cynnwys gwiriad iechyd cyffredinol, er enghraifft, cymryd eich pwysedd gwaed.
Pris: £30
Bydd triniaethau i leddfu problemau gyda'r esgyrn, cyhyrau a chymalau yn amrywio ac yn cynnwys tylino, therapi pwynt sbarduno neu drin.
Pris: £16.00 (yr apwyntiad)
Mae'r clinig wedi'i leoli ar gampws Trefforest Prifysgol De Cymru, sy'n hawdd ei gyrraedd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae gan y clinig lefydd parcio am ddim i gleifion yn agos at y clinig ar gampws y Brifysgol.
Sefydliad Ceiropracteg Cymru
Prifysgol De Cymru
Trefforest
RCT
CF37 1DL
|
Dydd Llun |
8.30yb – 11.30yb |
3.00yp – 7.30yh |
|
Dydd Mawrth |
8.30yb – 11.30yb |
4.00yp – 7.00yh |
|
Dydd Mercher |
8.30yb – 11.30yb |
2.00yp – 5.00yh |
|
Dydd Iau |
8.30yb – 11.30yb |
2.30yp – 7.00yh |
|
Dydd Gwener |
8.30yb – 11.30yb |
1.30yp – 4.30yp |