Gwasanaethau Ceiropracteg yn PDC

Mae'r Clinig Ceiropracteg wedi bod yn darparu gwasanaethau clinigol i'r cyhoedd ers dros 22 mlynedd ac mae wedi'i leoli mewn cyfleuster o'r radd flaenaf a lleoliad addysgol sy'n darparu triniaeth effeithiol i gleifion a hyfforddiant arbenigol.

Clinig Ceiropracteg Trefnu Apwyntiad
female student sat down with stethoscope, testing male student who has his back to the camera

Rydym yn cynnig gofal clinigol amrywiol. Gweler manylion ein triniaethau ceiropracteg isod ynghyd â gwybodaeth bellach a chwestiynau cyffredin. Gall unrhyw un wneud apwyntiad. Nid oes angen i ddarparwr gofal iechyd/meddyg eich atgyfeirio.

Triniaethau

myfyrwraig benywaidd yn ymarfer techneg tylino ar fyfyriwr gwrywaidd, dau fyfyriwr gwrywaidd yn y cefndir yn rhyngweithio
Students surrounding a Chiropractic table.
female and male student using chiropractic techniques on two other students, additional student is observing
Chiropractic student with a model spine.
male student doing a weighted squat, second male student observing the technique, and three students in the background exercising
A Chiropractic student assessing another student.

Y Clinig Ceiropracteg

Mae'r Clinig, sy'n cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn cynnwys 22 ystafell driniaeth, uned uwchsain ddiagnostig, uned sganio DXA, yn ogystal â mynediad at gyfleusterau MRI oddi ar y safle. Cefnogir hyfforddiant myfyrwyr hefyd gan yr ‘Anatomage’ – bwrdd delweddu 3D anatomeg soffistigedig iawn - y cyntaf yn Ewrop ar gyfer Addysg Ceiropracteg.

Gofyn am alwad yn ôl

Cwestiynau Cyffredin

Proffesiwn cyswllt cyntaf yw ceiropracteg sy'n cynnig pecyn gofal yn seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys therapi â llaw, cefnogaeth seicogymdeithasol, cyngor ar ymarfer corff, ailsefydlu a ffordd o fyw ar gyfer nifer o gyflyrau mecanyddol cyffredin y system cyhyrysgerbydol, gan gynnwys poen cronig yng ngwaelod y cefn, poen gwddf a phennau tost.  

Darperir gofal unigol gan fyfyrwyr ceiropracteg flwyddyn olaf dan oruchwyliaeth Ceiropractydd sydd wedi cofrestru gyda'r Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol mewn awyrgylch clinigol, modern fel rhan o gydran hyfforddiant clinigol y radd Meistr Ceiropracteg. 

Ni ddylai triniaeth geiropracteg achosi unrhyw boen fel arfer, er mae mwyafrif y cleifion sy'n ymweld â cheiropractydd eisoes yn dioddef o ychydig anghysur neu boen. Mae rhai cleifion yn dioddef o lid yn dilyn archwiliad a/neu driniaeth, gyda hwn yn para 24-48 awr fel arfer. Fodd bynnag, os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon, dylent geisio cyngor o'u clinigwr dan hyfforddiant er mwyn cael ailasesiad llawn. Bydd eich clinigwr dan hyfforddiant yn esbonio holl agweddau'r driniaeth i chi ynghyd â beth i'w disgwyl. 

Bydd eich clinigwr dan hyfforddiant yn eich cynghori i roi rhywbeth oer ar yr ardal sy'n boenus neu'n anghysurus, a allai helpu, ond dylid rheoli'r defnydd o rew. Dylid rhoi gorchudd tenau o amgylch y pecyn rhew, neu'r bag o bys, cyn ei roi ar y croen. Ni ddylid rhoi rhew yn uniongyrchol ar y croen oherwydd gall losgi. Dylid defnyddio rhew am uchafswm o 10 - 15 munud ar y tro, a dylid ei defnyddio'n rheolaidd (bob ychydig oriau gydag egwyl o leiaf 30 munud o hyd)Os yw'r boen neu'r anghysur yn parhau, dylai'r claf geisio cyngor o'i glinigwr dan hyfforddiant neu un o'r goruchwylwyr clinigol. 

Gall unrhyw un wneud apwyntiad i fynychu’r clinig am ofal ceiropracteg. Does dim angen atgyfeiriad gan ddarparwr gofal iechyd arall, gall unrhyw un ffonio i wneud apwyntiad. Gall y clinig gymryd cleifion heb atgyfeiriad gan feddyg teulu. 

Gellir gwneud apwyntiad trwy ffonio'r clinig ar 01443 483555 lle bydd staff y dderbynfa gallu trefnu apwyntiad i chi. 

Gallwn fel arfer cynnig apwyntiad i chi o fewn deuddydd neu dridiau gwaith, a byddwn yn ceisio sicrhau eich bod yn cael eich gweld cyn gynted â phosib ar adeg sy'n gyfleus i chi. Yn aml, gallwn drefnu apwyntiad i gleifion acíwt ar yr un diwrnod. Mae gofal cynnar fel arfer yn gwella canlyniad y cyflw

Mae'r clinig wedi'i leoli ym Mhrifysgol De Cymru, gyferbyn â gorsaf rheilffordd parcio a theithio Trefforest, sy'n golygu bod hi'n hawdd cyrraedd y clinig ar drafnidiaeth gyhoeddus

Sefydliad Ceiropracteg Cymru
Prifysgol De Cymru
Trefforest
RhCT
CF37 1TW

Mae mannau parcio yn benodol i gleifion wrth ymyl y clinig. Mae rhai mannau i'r ochr o'r dderbynfa, gyda rhai ohonynt yn fannau parcio anabl. Mae hefyd maes parcio mwy y gellir ei gyrraedd gan ddefnyddio ramp i ochr chwith adeilad y clinig. 

Mae WIOC yn glinig addysgu, felly mae'r clinigwyr yn cael eu hyfforddi ac fe gyfeirir atynt fel Clinigwyr dan Hyfforddiant. Byddant wedi cwblhau tair blynedd o astudio a hyfforddi yn llwyddiannus cyn iddynt gychwyn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant clinigol yn y clinig cleifion allanol. Maen nhw'n gweithio dan oruchwyliaeth Ceiropractydd cymwys sydd oll wedi cofrestru gyda'r Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol, felly mae'n bosib y byddwch hefyd yn gweld tiwtor goruchwyliol yn yr ystafell driniaeth yn ystod eich asesiad a'ch ymweliadau am driniaeth. 

Yr Athro David Byfield, Pennaeth Gwasanaethau Clinigol a Cheiropractydd cwbl gymwys sy'n goruchwylio'r holl weithgarwch clinigol yn y clinig cleifion allanol. 

Os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth, mae'n ddefnyddiol dod â'r manylion gyda chi i'ch apwyntiad cyntaf. Mae hefyd yn ddefnyddiol dod ag unrhyw belydrau-X, sganiau MRI neu adroddiadau delweddu gyda chi, yn enwedig os ydynt wedi cael eu cymryd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Pan fyddwch yn cyrraedd, ewch i dderbynfa'r clinig. Ar eich ymweliad cyntaf, bydd y derbynnydd yn gofyn i chi gwblhau ychydig o waith papur. Bydd gofyn i chi ddarparu manylion personol megis eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad, manylion cyswllt ac ati.

Bydd y clinigwr dan hyfforddiant sydd wedi cael ei benodi i ofalu amdanoch yn eich casglu o'r dderbynfa ac yn mynd â chi i un o'n hystafelloedd triniaeth, lle byddan nhw'n cwblhau gweddill yr holiadur claf newydd cyn cynnal archwiliad corfforol trylwyr iawn.  

Mae angen yr wybodaeth a'r archwiliad i gynorthwyo gyda gwneud diagnosis gwybodus, ac yn sgil hynny yn penderfynu a yw'n briodol i chi dderbyn gofal ceiropracteg.   

Weithiau, gellir darparu triniaeth ar yr ymweliad cyntaf os yw'r cyflwr yn acíwt iawn, neu os oes angen cychwyn y driniaeth yn syth.  Fodd bynnag, yn y mwyafrif o achosion, bydd y gofal yn cychwyn ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach, wedi i'r myfyriwr gyflwyno'ch achos i un o'r goruchwylwyr clinigol. 

Weithiau, os ydych yn acíwt iawn, gellir darparu ychydig driniaeth ar unwaith yn dilyn yr ymgynghoriad cychwynnol, fodd bynnag, bydd y driniaeth fel arfer yn cychwyn wedi i'r clinigwr dan hyfforddiant ysgrifennu cofnod o'ch achos a'i gyflwyno i un o'r goruchwylwyr clinigol am gymeradwyaeth a chyngor.  Mewn rhai amgylchiadau, bydd angen i chi ddychwelyd am ymweliad dilynol i alluogi i'r clinigwr dan hyfforddiant gwblhau'r gwaith papur perthnasol. Ni chodir tâl ar gyfer yr apwyntiad ychwanegol hwn gan mai estyniad o'r asesiad cychwynnol ydyw.  

Bydd nifer fechan o gleifion hefyd angen archwiliad ychwanegol er mwyn cynorthwyo'r diagnosis; gallai hyn gynnwys cael pelydr-X, uwchsain ddiagnostig, MRI neu DXA. Gellir trefnu'r holl ddelweddau diagnostig hyn trwy'r clinig, ond fe godir tâl amdanynt. Cyfeiriwch at yr adran berthnasol ar y wefan.    

Fel arall, gallwn drefnu atgyfeiriad yn ôl at eich meddyg teulu a allai drefnu delweddau trwy'r GIG i chi. Gallai archwiliad pellach hefyd gynnwys atgyfeiriad yn ôl at y meddyg teulu am brofion eraill, neu atgyfeiriad ymlaen at weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall. Os nad oes angen archwiliad pellach, unwaith bod eich achos wedi cael ei gyflwyno i oruchwyliwr clinigol, a'u bod wedi cytuno ar eich cynllun triniaeth gyda'r clinigwr dan hyfforddiant, byddwn yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi ddychwelyd i'r clinig ar gyfer cleifion allanol am apwyntiad i drafod adroddiad o'r canfyddiadau.

Bydd goruchwyliwr clinigol yno i oruchwylio'r clinigwr dan hyfforddiant, a byddant yn cyflwyno'u canfyddiadau i chi ac yn esbonio beth maen nhw'n ei gredu sy'n achosi eich cyflwr. Byddant hefyd yn esbonio'r cynllun triniaeth arfaethedig, gan gynnwys unrhyw risgiau posib. Gall fod yna adegau pan na fod gofal ceiropracteg yn addas, neu efallai nad yw er eich budd pennaf. Yn yr achos hwn, mae'n debygol y bydd y clinigwr dan hyfforddiant yn ceisio eich caniatâd i'ch cyfeirio at eich meddyg teulu, neu at ddarparwr gofal iechyd arall. Mae'r adroddiad o'r canfyddiadau'n darparu cyfle i benderfynu ar nifer o nodau ac amcanion ynghyd â gweithdrefnau hunan-ofal er mwyn cael y gwellhad gorau posib.  

Fodd bynnag, os nad yw'ch cwyn yn briodol ar gyfer gofal ceiropracteg, bydd gofyn i chi ddarparu cydsyniad ysgrifenedig cyn derbyn unrhyw driniaeth. 

Bydd nifer ac amlder yr apwyntiadau gofynnol yn amrywio o glaf i glaf. Bydd eich gwellhad yn cael ei fonitro'n ofalus iawn ar ôl bob triniaeth er mwyn sicrhau bod y gofal rydych yn ei derbyn yn addas i chi, a'ch bod yn gwneud cynnydd.  

Mae monitro parhaus yn bwysig iawn, a bydd eich clinigwr dan hyfforddiant yn trafod eich achos gyda'r goruchwyliwr clinigol ac yn addasu eich cynllun rheolaeth bersonol os oes angen. Bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi yn yr un modd â'r adroddiad canfyddiadau gwreiddiol, a gall driniaeth bellach barhau gyda'ch caniatâd. 

TREFNWCH APWYNTIAD

Ffon

Ffoniwch y clinig yn uniongyrchol

01443 483555