Gwasaneth Sganio DXA

Mae sgan DXA yn weithdrefn ddiogel a di-boen sy'n golygu bod yn agored i ddos ​​bach o ymbelydredd ïoneiddio (pelydr-X). Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau IR(ME)R 2000, rhaid i bob claf gael atgyfeiriad y mae cyfiawnhad clinigol amdano gan ymarferydd gofal iechyd.

Gofyn am Alwad yn Ôl Clinig Ceiropracteg
A Chiropractic clinic patient being scanned by the DXA scanner

Fel rhan o'r gwasanaethau diagnostig a gynigir gan Sefydliad Ceiropracteg Cymru, rydym yn cynnig gwasanaeth sganio DXA cyfansoddiad corff llawn a dwysedd esgyrn. Gwasanaeth preifat yw hwn ar hyn y bryd sydd ar gael am bris cystadleuol. Cefnogir y gwasanaeth hwn gan Feddyg Ymgynghorol sy'n arbenigo mewn clefydau esgyrn metabolaidd.

Bydd y canlyniadau fel arfer ar gael i'r ymarferwr a'ch atgyfeiriodd o fewn 5 diwrnod gwaith.  

Apwyntiadau a Chostau

Bydd angen i chi gael eich atgyfeirio ar gyfer y sgan gan ymarferwr gofal iechyd megis Meddyg Teulu, Ceiropractydd, Osteopath neu Ffisiotherapydd. 

Pan fydd WIOC yn derbyn y ffurflen atgyfeirio, bydd yn cael ei hadolygu cyn cael ei phasio i Ysgrifennydd y Clinig a fydd yn eich ffonio i drefnu dyddiad ac amser cyfleus ar gyfer yr apwyntiad.

Mae'r sgan DXA yn costio £150 ac mae'n daladwy ar-lein cyn yr apwyntiad, bydd dolen ddiogel yn cael ei anfon ynghyd â chadarnhad o'r apwyntiad. I unrhyw gleifion na all wneud taliad ar-lein gellir trefnu dulliau talu amgen.


Cwestiynau Cyffredin

Gweithdrefn ddiogel, ddi-boen yw sgan dwysedd esgyrn sy'n cynnwys cael eich amlygu at ddos bach o ymbelydredd ïoneiddio (Pelydrau-X).  Mae'n mesur dwysedd yr esgyrn ar y glun a rhan gwaelod yr asgwrn cefn, ac yn cyfrifo sgôr dwysedd yr esgyrn ar gyfartaledd. Mae sgôr isel yn dynodi bod yr asgwrn yn fregus ac felly'n fwy tebygol o dorri.

Mae'n bosib y bydd eich ymarferwr gofal iechyd yn argymell eich bod yn cael sgan dwysedd esgyrn os yw'n amau bod gennych chi osteopenia neu osteoporosis, neu fod yna risg y byddwch yn ei datblygu. 

Mae osteopenia yn cyfeirio at arwyddion cynnar o golled i ddwysedd mwynau esgyrn a allai arwain at osteoporosis. Ni fydd pawb sydd ag osteopenia yn datblygu osteoporosis.

Clefyd yw osteoporosis lle mae dwysedd ac ansawdd yr esgyrn wedi'u lleihau. Wrth i'r asgwrn ddod yn fwy mandyllog a bregus, mae'r risg o doriad yn cynyddu'n fawr iawn.

Mae'r risg o ddatblygu osteopenia/osteoporosis yn cynyddu gydag oedran gan fod yr esgyrn yn teneuo'n naturiol. Mae dynion a merched yn colli ychydig o ddwysedd eu hesgyrn bob blwyddyn ar ôl 30 oed. 

Ar gyfer menywod, fel arfer mae'r golled o esgyrn yn gyflymach pan mae'r cynhyrchiant o hormon oestrogen yn arafu (fel arfer rhwng 45 - 55 mlwydd oed), felly, ar gyfer menywod sy'n mynd trwy'r cyfnewid yn ifanc neu sy'n cael hysterectomi, mae hyn yn gallu cynyddu'r risg. 

Ar gyfer dynion, mae'r esgyrn yn teneuo'n raddol wrth i'r cynhyrchiant o hormon testosteron arafu, fel arfer pan maen nhw'n cyrraedd 45-50 mlwydd oed. 

Nid yw osteoporosis fel arfer yn effeithio ar bobl tan ar ôl iddynt gyrraedd 60 oed, ac fel rheol mae'n effeithio ar lawer mwy o fenywod na dynion, gan fod esgyrn menywod ar gyfartaledd yn llai ac yn ysgafnach nag esgyrn dynion. 

  • Mae datblygu osteopenia / osteoporosis yn dibynnu ar ddwysedd esgyrn yn gynnar mewn bywyd, yn ogystal ag iechyd, diet a gweithgarwch corfforol. Mae nifer o ffactorau a restrir isod sy'n gallu cynyddu'r risgiau ar gyfer dynion a menywod.
  • Hanes o osteoporosis yn y teulu - os yw'r fam, tad, brawd neu chwarae wedi cael diagnosis o osteoporosis, neu wedi torri esgyrn o anaf, mae yna risg gynyddol o ddatblygu'r clefyd. 
  • Cyflyrau meddygol penodol megis arthritis rhiwmatoid, clefyd coeliac, anorecsia nervosa, hyperparathyroidism, a hyperthyroidism
  • Cymryd meddyginiaethau penodol (er enghraifft, defnyddio steroidau'n hir dymor) 
  • Ffactorau yn ymwneud â ffordd o fyw - mae'r rhain yn cynnwys ysmygu; yfed llawer o alcohol; ffordd segur o fyw heb lawer o ymarfer corff sy'n cynnal pwysau, neu dim o gwbl; bod yn denau neu dan bwysau; camfaethiad; diet heb lawer o galsiwm na fitamin D; yfed llawer o ddiodydd pop sy'n cynnwys asid ffosfforig 

Bydd angen i chi gael eich atgyfeirio ar gyfer y sgan gan ymarferwr gofal iechyd megis meddyg teulu, ceiropractydd, osteopath neu ffisiotherapydd (gellir lawrlwytho ffurflenni atgyfeirio o'r wefan hon). Pan fydd WIOC yn derbyn y ffurflen atgyfeirio, bydd yn cael ei hadolygu gan y gweithredwr cyn cael ei phasio i staff derbynfa'r clinig a fydd yn eich ffonio i drefnu dyddiad ac amser cyfleus ar gyfer yr apwyntiad. 

Os oes rhaid i chi ganslo apwyntiad, dylech roi gwybod i ysgrifennydd y clinig ar 01443 483591 cyn gynted â phosib. 

Ar ôl i chi fwcio apwyntiad, byddwch yn derbyn llythyr o gadarnhad / gwybodaeth a fydd hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau i gyrraedd mewn car, gwybodaeth ar drafnidiaeth leol a mannau parcio am ddim. Yn yr un amlen, byddwch hefyd yn derbyn holiadur a gofynnwn i chi gwblhau'r holiadur a dod ag ef gyda chi ar ddiwrnod eich apwyntiad. 

Gallwch naill ai ffonio ysgrifennydd y clinig ar 01443 483555 neu 01443 483320 a fydd yn trefnu i rywun eich ffonio yn ôl, neu gallwch chi siarad â'r gweithredwr ar ddiwrnod eich apwyntiad.

Dylech roi gwybod i staff y dderbynfa yn Sefydliad Ceirpracteg Cymru  a fydd yn rhoi gwybod i'r gweithredwr eich bod wedi cyrraedd. Byddant yn gofyn i chi eistedd yn yr ardal aros tan i'r gweithredwr eich galw. 

TREFNWCH APWYNTIAD

Ffon

Ffoniwch y clinig yn uniongyrchol

01443 483555

neu

01443 483320