Therapi Siocdon

Shockwave therapy works through the application of mechanical pressure pulses that disrupt the tendon or soft tissue area. The pulses stimulate an increase in blood supply to the damaged area thereby speeding up the recovery process.

Gofyn am Alwad yn Ôl Clinig Ceiropracteg
Shockwave therapy equipment at the chiropractic clinic

Dull therapiwtig, diogel sy'n creu archoll mor fach â phosib a ddefnyddir i drin nifer cynyddol o gyflyrau tendonau, cymalau a chyhyrau yn effeithiol yw therapi siocdon. Mae'r cyflyrau hyn fel arfer yn anafiadau cronig, hir dymor sy'n achosi cryn dipyn o boen megis ysigiad penelin, tendonitis, plantar fasciitis, tendonitis achilles a phwyntiau sbarduno myoffasgol.

student-25

APWYNTIADAU A CHOSTAU

Rhaid bod cleifion yn cael eu hatgyfeirio am gwrs o therapi siocdon gan weithiwr gofal iechyd cymwys, a ddylai drafod y rhesymau dros y therapi gyda'r claf cyn gwneud yr atgyfeiriad.

Mae cleifion fel arfer yn cael eu hatgyfeirio am therapi siocdon os nad yw dulliau triniaeth mwy traddodiadol wedi bod yn llwyddiannus, neu os yw'r gwellhad wedi stopio.

Yn ystod yr ymweliad cychwynnol ar gyfer therapi siocdon, fel arfer bydd rhaid cael sgan uwchsain cyn gallu cychwyn y therapi. Cost y sgan yw £65 ar gyfer cleifion WIOC a £100 ar gyfer cleifion a atgyfeiriwyd gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol allanol i'r WIOC. 

Mae pob sesiwn therapi siocdon yn costio £50 a rhaid talu ar ddiwedd pob ymweliad. Mae mwyafrif y cleifion angen rhwng 3 a 6 ymweliad, fodd bynnag mae hyn yn dibynnu ar sut mae'r claf yn ymateb i'r driniaeth, a gall amrywio. 


TREFNWCH APWYNTIAD

Ffon

Ffoniwch y clinig yn uniongyrchol

01443 48355