Gwasanaeth Uwchsain Diagnostig MSK

Following appropriate referral, any ultrasound examinations will be carried out by a qualified musculoskeletal sonographer (MSK). The ultrasound room is located on the first floor of the Welsh Institute of Chiropractic outpatient clinic.

Gofyn am alwad yn ôl Clinig Ceiropracteg
Member of Chiropractic clinic staff using the diagnostic ultrasound machine on a patient

Amserau'r Clinig

Dydd Mercher 8.30yb tan 3.30yp

Dydd Iau 4.30yp tan 6.30yp 

Dydd Gwener 2.00yp tan 3.30yp

student-25

APWYNTIADAU A CHOSTAU

Bydd yn rhaid i chi gael eich atgyfeirio ar gyfer y sgan gan ymarferydd gofal iechyd fel Meddyg Teulu, Ceiropractydd, Osteopath, Ffisiotherapydd neu Bodiatrydd.
Unwaith y bydd y ffurflen atgyfeirio yn cyrraedd y clinig, bydd yn cael ei hadolygu gan y gweithredwr.
Mae pris Gwasanaeth Uwchsain Diagnostig MSK yn dechrau o £65 i gleifion y clinig ac o £100 i gleifion a gyfeirir yn allanol.


Cwestiynau Cyffredin

Archwiliad diagnostig yw sgan uwchsain sy'n defnyddio seindonnau amledd uchel i greu delwedd du a gwyn o anatomeg fewnol. Mae'n bwysig nodi nad yw sgan uwchsain yn defnyddio ymbelydredd ïoneiddio (fel Pelydrau-X), felly nid yw'n achosi unrhyw niwed i chi.

Bydd eich sgan uwchsain yn cael ei wneud gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd ag addysg ôl-raddedig bellach a hyfforddiant ym maes uwchsain.

Mae'n bosib y bydd eich ymarferwr gofal iechyd yn eich cynghori i gael sgan uwchsain MSK er mwyn cynorthwyo i wneud diagnosis o gyflyrau / anafiadau'r system cyhyrysgerbydol.

Ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth i baratoi cyn i chi gael eich sgan uwchsain MSK.

Mae Gwasanaeth Uwchsain MSK Prifysgol De Cymru yn rhan o ddarpariaeth addysg y Brifysgol. Mae PDC wedi ymrwymo at ddarparu addysg o'r ansawdd uchaf. Mae Gwasanaeth Uwchsain MSK yn rhan o raglen hyfforddiant uwchsain glinigol, felly mae'n bosib y bydd myfyriwr yn bresennol ac yn rhan o ddarparu'ch sgan uwchsain MSK. Mae'n bwysig cofio bod pob sgan uwchsain MSK yn cael eu goruchwylio gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwys.

Mae cyrff proffesiynol yn parhau i nodi nad yw tystiolaeth o ymchwil gyfredol yn dangos unrhyw ffactorau risg yn ymwneud ag uwchsain MSK.

Bydd angen i chi gael eich atgyfeirio ar gyfer y sgan gan ymarferwr gofal iechyd megis meddyg teulu, ceiropractydd, osteopath, ffisiotherapydd neu podiatregydd (gellir lawrlwytho ffurflenni atgyfeirio o'r wefan hon). Pan fydd WIOC yn derbyn y ffurflen atgyfeirio, bydd yn cael ei hadolygu gan y gweithredwr. Dylai'r clinigwr a atgyfeiriodd y claf gynghori'r claf i ffonio derbynfa'r WIOC ar 01443 483555 i drefnu apwyntiad, pan fyddant yn gwybod bod WIOC wedi derbyn y ffurflen atgyfeirio.

Os oes rhaid i chi ganslo apwyntiad oherwydd amgylchiadau lliniarol, dylech roi gwybod i staff derbynfa WIOC ar 01443 483555 cyn gynted â phosib. Byddant yn gallu eich helpu i drefnu dyddiad arall.

Gallwch naill ai ffonio'r clinig ar 01443 483555, neu gallwch chi siarad â'r sonograffydd ar ddiwrnod eich apwyntiad. 

Dylech roi gwybod i staff y dderbynfa yn WIOC a fydd yn rhoi gwybod i'r gweithredwr eich bod wedi cyrraedd. Byddant yn gofyn i chi eistedd yn yr ardal aros tan i'r gweithredwr eich galw.

Bydd yr adroddiad fel arfer yn barod y diwrnod canlynol a dylai'r atgyfeiriwr ei derbyn o fewn 5 diwrnod gwaith.

TREFNWCH APWYNTIAD

Ffon

Ffoniwch y clinig yn uniongyrchol

01443 48355

Hyfforddiant Ôl-raddedig Uwchsain MSK

Cyfleoedd am Leoliad Clinigol Uwchsain MSK

Mae Uned Gwasanaethau Clinigol, Uwchsain Diagnostig Cyhyrysgerbydol Sefydliad Ceiropracteg Cymru ym Mhrifysgol De Cymru, Pontypridd yn falch o gyhoeddi cyfleoedd am leoliad clinigol ar gyfer unigolion sydd angen profiad mewn clinig er mwyn cwblhau eu cymhwyster MSK US. 

Bydd tîm o uwch-sonograffyddion MSK cymwys gan gynnwys Dr Gareth Slade, Dr Monika Dowbrowolska a Dr Alf Turner yn rheoli'r gwasanaeth gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf. 

Bydd y gwasanaeth yn gweithredu ar ddydd Mercher yn unig ar hyn o bryd gan ddarparu pedwar bloc dysgu o 3.5 awr fesul bloc. Rydym yn bwriadu ychwanegu clinigau pellach yn y dyfodol. 

Cost y gwasanaeth fydd £25 yr awr fesul myfyriwr a bydd disgwyl i ymgeiswyr ymrwymo at fynychu am gyfnod penodol o amser (gellir trafod hwn). Bydd y gwasanaeth yn gallu cymryd dau fyfyriwr fesul bloc dysgu er mwyn gwella'r profiad dysgu. Yn amodol ar argaeledd, codir tâl o £35 yr awr ar sesiynau dysgu â ffocws 1 i 1. 

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Dr David Byfield Pennaeth Gwasanaethau Clinigol ar [email protected]