BA (Anrh)

Perfformio a'r Cyfryngau

Dwysewch eich dealltwriaeth o ffilm, teledu, theatr a’r cyfryngau ar-lein, wrth ddysgu sut i roi bywyd i syniadau newydd o fewn perfformiadau rhyngweithiol ac aml-gyfryngol. Byddwch yn dod i ddeall beth yw eich hunaniaeth greadigol a beth yw eich cryfderau drwy brosiectau ymarferol a thrwy ddod o hyd i’ch llais eich hun o fewn y diwydiant.

Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    W400

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Caerdydd

  • Côd y Campws

    B

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,790*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,800*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Dysgwch sut i greu cynnwys a chynhyrchu perfformiadau byw a chyfryngau wedi eu recordio.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Os ydych wedi eich cyfareddu gan y cyfryngau – pa un ai ffilm a theledu yntau’r theatr a’r byd ar-lein, ac os hoffech ddatblygu’r sgiliau fyddai’n caniatáu i chi ffynnu o flaen y camera yn ogystal â thu ôl iddo, yna dyma’r cwrs i chi. Bydd cyfleoedd i chi ddod i adnabod y diwydiant, i ddod o hyd i’ch lle chi o fewn y diwydiant hwnnw a chreu casgliad o waith fydd yn dal sylw eraill.

Llwybrau gyrfaol

  • Ymchwilydd
  • Cynhyrchydd
  • Fideograffydd
  • Ysgrifenydd
  • Perfformiwr/actor
  • Cyfarwyddwyr artistig
  • Addysgu neu heatre ieuenctid 

Sgiliau a ddysgir

  • Recordiad gweledol a sain
  • Cyflwyno a pherfformio
  • Rheoli prosiect
  • Cydweithio a chyfathrebu
  • Ymchwil a chynhyrchu syniadau 

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cwrs wedi'i ddylunio a'i gyflwyno gan gyfrifwyr gweithredol ac mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu gyrfaoedd.


Uchafbwyntiau'r Cwrs

Creu portffolio a rholyn sioe eich hun

Datblygwch gorff o waith o safon uchel fydd yn cefnogi i’ch dyheadau ac yn sefyll allan i’ch cyflogwyr.

Profiad yn y byd go iawn

Gweithiwch ar brosiectau byw ac ar brofiadau gwaith mewn gwyliau rhyngwladol ochr yn ochr â chwmnïau a phobl broffesiynol o fewn maes y cyfryngau.

Calon y diwydiant

Cyfleoedd helaeth i ymwneud â’r prif leoliadau a chwmnïau cynhyrchu ar stepen eich drws yng Nghaerdydd.

Cyfleusterau o’r radd flaenaf

Datblygwch eich talentau a’ch creadigrwydd wrth ddefnyddio stiwdios, cyfleusterau ac offer diweddaraf y diwydiant.

Trosolwg o'r Modiwl

Dysgwch am y cysyniadau sylfaenol a’r sgiliau sy’n rhan o berfformio a chynhyrchu o fewn amryw feysydd y cyfryngau. Hogwch eich sgiliau gyda’r cyfle i’w harddangos mewn gwyliau rhyngwladol a lleoliadau gwaith o fewn y diwydiant, cyn i chi arbenigo a pharatoi i weithio o fewn y diwydiant yn ystod eich blwyddyn olaf.

Blwyddyn un 

Meddwl drwy Arfer* 
Actio a Chyfarwyddo 
Dadansoddi Cynyrchiadau Stiwdio 
Arferion Proffesiynol: Adnoddau 

Blwyddyn dau 

Perfformiadau’r Cyfryngau Newydd*
Dadansoddi Perfformiad a Beirn
iadaeth Ddadansoddol 
Creu: Astudiaethau Arbenigol 1 
Arferion Proffesiynol: Cydweithio 

Blwyddyn Tri 

Prosiect Ymchwil*
Prosiect Ȏl-raddedig 
Creu: Astudiaethau Arbenigol 1 
Ymarferion Proffesiynol a Chyflogadwyedd*

*Mae modd astudio'r modiwlau yma 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Ymchwiliwch gysyniadau, confensiynau a safbwyntiau perfformio trwy gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol, gwylio perfformiadau byw a ffilmiau. Byddwch yn cynyddu’ch sgiliau creadigol a thechnegol sylfaenol er mwyn datblygu, cynhyrchu, recordio a golygu eich gwaith a'ch perfformiad eich hun ar gyfer y llwyfan a'r sgrin.

Meddwl drwy Arfer* 
Cyfle i astudio ac ymchwilioperfformiadmewn modd ymarferol a dysgu’r modd y mae gwahanol elfennau perfformiad yn rhyngweithio er mwyn creu ystyr. 

Actio a Chyfarwyddo 
Dysgwch sut i weithio'n effeithiol a sut i gydweithio gydag eraill mewn stiwdio. Bydd cyfle i ddysgu methodoleg hyfforddi fel actorion/ cyfarwyddwyr wrth i chi ddatblygu eich perfformiad eich hun gyda chefnogaeth. 

*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Dadansoddi Cynyrchiadau Stiwdio 
Ymchwiliwch i ystyron ac amcanion mewn theatr gyfoes a ffilm fer wrth i chi archwilio’r defnydd o semioteg, sydd sylfaen o waith ymarferol yn ddiweddarach yn y cwrs. 

Arferion Proffesiynol: Adnoddau 
Ewch i’r afael â thechnoleg cyfryngau yn cynnwys sain-recordyddion digidol a recordyddion fideo, camerâu, technolegau golygu ac ail-chwarae a dealltwriaeth o’r modd y maent yn cefnogi perfformiadau 

Astudiwch yr elfennau newydd, rhyngweithiol a digidol o ffurfiau traddodiadol y theatr a’r cyfryngau a mireiniwch eich prosesau creadigol ar gyfer perfformio'n fyw ac ar gyfer cyfryngau wedi'u recordio.

Perfformiadau’r Cyfryngau Newydd*
Astudiwch berfformiad treiddiol, aml-gyfryngol gan ddefnyddio offer digidol er mwyn cynorthwyo i ddatblygu perfformiadau grŵp. 

Dadansoddi Perfformiad a Beirniadaeth Ddadansoddol 
Ymchwiliwch i mewn i’r rôl y mae’r theatr, perfformiad a’r cyfryngau yn eu chwarae mewn cyd-destunau cymdeithasol, hanesyddol, diwylliannol ac esthetig, yn cynnwys trafodaethau cymdeithasol a gwleidyddol. 

*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Creu: Astudiaethau Arbenigol 1 
Mae'r uned waith hyblyg hon yn rhoi'r cyfle i chi fod yn rhan o brosiect ffilm ar y Teledu neu drwy Gynhyrchiad Rhithwir mewn amrywiaeth o rolau. Datblygir y prosiectau o dan amodau proffesiynol. 

Arferion Proffesiynol: Cydweithio 
Cydweithiwch gyda myfyrwyr a phobl broffesiynol o fewn y diwydiant er mwyn creu cyfres o bodlediadau fideo yn ystod Gŵyl Ffilm Iris, sy’n ddigwyddiad rhyngwladol. 

Paratowch i adael eich hôl ar ddiwydiant y cyfrangau a pherfformiad wrth i chi hogi eich sgiliau arbenigol a chreu portffolio fydd yn dal sylw cyflogwyr. Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfnod o brofiad gwaith gyda stiwdio neu gwmni cynhyrchu ac yn cynyddu’r sgiliau busnes fydd eu hangen arnoch er mwyn ffynnu fel gweithiwr llawrydd creadigol.

Prosiect Ymchwil*
Byddwch yn cynllunio, yn creu ac yn cyflwyno prosiect ymwchil sy’n canolbwyntio ar y modd y mae perfformiad yn berthnasol i gymdeithas fyd-eang megis dosbarth, rhyw, hil, hunaniaeth neu dechnoleg. 

Prosiect Ȏl-raddedig 
Datblygu, cynllunio a chynhyrchu ffilm fer, cynhyrchiad sain, neu berfformiad aml-gyfryngol. Bydd yn gyfle i chi arddangos y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y cwrs. 

Creu: Astudiaethau Arbenigol 1 
Bydd yr uned waith hon yn gyfle i chi gymryd rhan mewn astudiaeth uwch o gynhyrchu o fewn y cyfryngau mewn maes arbenigol gan ddatblygu eich hyfedredd creadigol a beirniadol. 

Ymarferion Proffesiynol a Chyflogadwyedd*
Cynlluniwch ar gyfer bywyd wedi i chi radio wrth i chi benderfynu ar lwybr gyrfaol, ystyried eich cryfderau a’u dyheadau a diweddaru eich CV a’ch portffolio. 

*Mae modd astudio'r modiwlau yma 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Mae’r cwrs hwn yn rhoi hwb i’ch ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac yn eich paratoi ar gyfer diwydiant y cyfryngau a pherfformiad. Byddwch yn gweithio ar brosiectau ymarferol yn ein stiwdios a bydd yr asesiadau’n bennaf yn digwydd o amgylch perfformiadau wedi eu ffilmio neu berfformiadau aml-gyfryngol. Byddwn yn dysgu’r damcaniaethau i chi’n bennaf drwy seminarau rhyngweithiol a thrwy ddarlithoedd gan siaradwyr gwadd o’r diwydiant. Yn lle arholiadau, byddwch yn cael eich marcio am eich perfformiadau, eich cynnwys cyfryngol, eich traethodau, eich blogs, eich syniadau a’ch cyflwyniadau. Mae’r dull ymarferol hwn o ddysgu yn cynorthwyo i’ch paratoi chi at fywyd wedi i chi raddio.  

Staff addysgu

Mae gan ein staff amrywiaeth helaeth o brofiad o’r byd theatr, y cyfryngau a pherfformiad. Mae arweinydd eich cwrs yn goreograffydd a chyfarwyddwr artistig adnabyddus a chanddynt brofiad o gyhoeddi ac o ddysgu’n fyd-eang. Mae aelodau eraill o’n tîm yn gweithio fel cyfarwyddwyr, sgriptwyr, cynhyrchwyr a phobl camera ac yn gweithio gyda sefydliadau megis y BBC, ITV, a’r Theatr Genedlaethol. Mae’r arbennigedd helaeth hwn yn sicrhau bod safon y dysgu’n uchel iawn. Maent yn defnyddio’i profiad o’r diwydiant i’ch cynorthwyo chi i ddod o hyd i’ch cryfderau a’ch llwybr gyrffaol. Ac mae ei rhwydweithau’n cynnig cyfleoedd ar gyfer profiadau gwaith, siaradwyr gwadd, tripiau a phrosectau byw. 

Cyfleusterau

Yn fyfyrwyr perfformiad a’r cyfryngau, byddwch yn defnyddio stiwdios, ystafelloedd ac offer sydd o safon ddiwydiannol, ac sy’n cael eu hadnewyddu’n aml. Byddwch yn defnyddio awditoriwm 140 sedd gyda llwyfan ac iddo lawr arbennig ar gyfer dawns ac ymsymud. Mae yno hefyd rig goleuo llawn, a stiwdios drama. Mae ein campws yn cynnwys pedair theatr blwch du, stiwdios ffilm proffesiynol gyda sgrin werdd a system dal symudiadau, ystafelloedd podledu a radio, ac ystafelloedd golygu gyda'r meddalwedd diweddaraf. Mae gennym hefyd offer ffilmio a sain blaengar, gan gynnwys camerâu FX3 a FX6 a ddefnyddir yn y diwydiant. 

Offer

Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.

Lleoliadau gwaith a Phrofiad gwaith

Byddwch yn ennyn profiad yn y byd go iawn drwy gydol y cwrs, pa un ai drwy roi cymorth i Brifysgol De Cymru gyda digwyddiadau neu drwy weithio gyda chwmnïau allanol. Mae ein staff a’n tîm gyrfaol yma i’ch cynorthwyo chi i ddod o hyd i bob math o gyfleodd fydd yn cefnogi eich amcanion gyrfaol. Mae ein myfyrwyr wedi gweithio fel negeswyr, ymchwilwyr, cynhyrchwyr cynorthwyol, dynion a menywod camera cynorthwyol, neu o fewn celfyddydau’r ieuenctid, neu radio a theatr gymunedol. Mae lleoliadau gwaith blaenorol wedi cynnwys y canlynol: Theatr Hijinx, Bad Wolf Studios, Netflix, Mad Dog Casting a Made in Cardiff TV. Byddwch hefyd yn chwarae rôl allweddol yng ngŵyl Immersed adnabyddus Prifysgol De Cymru. Byddwch yn cydweithio gyda myfyrwyr creadigol eraill wrth i chi ein cynorthwyo i gyflawni’r gwaith. 

Storïau Myfyrwyr

Niamh Davies

Myfyriwr Perfformio a'r Cyfryngau

Zoe

Myfyriwr Perfformio a'r Cyfryngau

Foxxglove

Graddedig Cerddoriaeth

Louis Miles

Myfyriwr Digwyddiadau Byw

Shaila Mudhoo

Myfyriwr Theatr a Drama

Matteo Depares

Graddedig Ysgrifennu a Chynhyrchu Caneuon

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd i Raddedigion

Arweinia’r cwrs gradd hwn at amryw lwybrau gyrfaol. Mae ein hôl-raddedigion yn gweithio fel ymchwilwyr, cynhyrchwyr, fideograffwyr, awduron, perfformwyr, actorion ffilm a chyfarwyddwyr artistig. Cyflogir ein hôl-raddedigion gan stiwdios teledu, theatrau a chwmnïau megis Bad Wolf sy’n adnabyddus am y gwaith His Dark Materials, A Discovery of Witches, a Doctor Who. Mae eraill yn dilyn gyrfa fel athrawon er mwyn ysbrydoli perfformwyr y dyfodol. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy o fewn meysydd rheoli prosiect a chyfathrebu, sy’n sgiliau defnyddiol ar gyfer nifer o yrfaoedd y tu hwnt i fyd y cyfrangau a pherfformiad. 

Partneriaid o fewn y diwydiant

Rydym yn gweithio gydag ystod o gwmnïau a chyrff o fewn y diwydiant er mwyn sicrhau bod ein cwrs yn parhau’n berthnasol ac yn gyfoes. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Ffilm Cymru yn ein cynorthwyo ni i ffurfio ein cwricwlwm mewn modd sy’n ymateb i ofynion y diwydiant. O fewn Ysgol Ffilm a Theledu Cymru, byddwch yn manteisio ar siaradwyr a digwyddiadau rhwydweithio o gyrsiau eraill. Rydym wedi ein lleoli yng Nghaerdydd ac felly rydym yn ymyl busnesau’r cyfryngau a pherfformiad megis Theatr Hijinx Bad Wolf Studios, Netflix, Mad Dog Casting, a Made in Cardiff TV, sy’n cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith, gwibdeithiau a chydweithio.

Cymorth Gyrfaoedd

Mae’r cwrs yn eich cynorthwyo chi i ddod o hyd i’ch lle o fewn maes y cyfryngau a pherfformiad a sut i adael eich ôl arno. Bydd ein staff profiadol yn rhoi cyfarwyddyd i chi yn ôl yr hyn y mae cwmnïau’n chwilio amdano, a bydd cyfle i chi gyfarfod cyflogwyr. Bydd ein tîm gyrfaoedd yn eich cefnogi chi i ddod o hyd i gyfleoedd. Gan fod cymaint o’r gwaith yn y maes hwn yn waith llawrydd, rydym yn rhoi’r wybodaeth i chi, y sgiliau a’r hyder i’ch galluogi chi i lywio’ch ffordd drwy’r diwydiant. Byddwn yn eich dysgu chi sut i ddod o hyd i waith a sut i ddelio a’r ochr fusnes megis treth a hunan-farchnata.  

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau UCAS: 96 (neu uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: CCC i gynnwys pwnc celf a dylunio perthnasol (mae hyn yn cyfateb i 96 pwynt tariff UCAS).
  • Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC Lefel A gyda phwnc celf a dylunio perthnasol (mae hyn yn gyfwerth â 96 pwynt tariff UCAS).
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol (mae hyn yn gyfwerth â 96 pwynt tariff UCAS).
  • Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS.
  • Lefel T: P (C ac uwch)

Gofynion Ychwanegol:

  • Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
  • Mae'r dewis ar gyfer y cwrs hwn yn seiliedig ar gais addas. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf mynediad, efallai y bydd gofyn i chi hefyd ddarparu portffolio o’ch gwaith i’n helpu i asesu eich addasrwydd ar gyfer y cwrs.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,790

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,800

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

* Rhwymedig

Deunyddiau Sioe Graddedigion Blwyddyn 3

Cost: £50

Ymweliadau â Theatr / Perfformiad. Pob blwyddyn academaidd

Cost: £50

O bryd i'w gilydd, gofynnir i fyfyrwyr gyfrannu at gost gweithgareddau cyfoethogi (e.e. digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol, ymweliadau cynhyrchu, presenoldeb mewn gwyliau)

Cost: I fyny at £100

Rydym yn awgrymu bod myfyrwyr yn buddsoddi mewn SSD 1TB allanol ar gyfer storio ffilmiau, a phrosiectau sydd wedi eu cwblhau

Cost: I fyny at £100

Rydym yn awgrymu bod myfyrwyr yn buddsoddi mewn gliniadur a ffôn clyfar. Gellir benthyg gliniaduron dros dro gan y Brifysgol os nad oes gennych chi eich un eich hun.

Cost: I fyny at £1000

Mae myfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliadau gwaith yn gyfrifol am eu costau teithio a'u costau byw eu hunain 

Cost: Amrywiol

Efallai y bydd disgwyl i fyfyrwyr deithio i ddosbarthiadau meistr / cynadleddau ar eu cost eu hunain.

Cost: £11

Benthyca Offer Cyfryngau

Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.

Benthyca Offer Cyfryngau

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.