Zoe

Gwneud y gorau o fy nghyfle profiad gwaith

Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Student Zoe, takes a selife whilst wearing camera equipment during her placement at Storm and Shelter

Roedd yn ddiddorol ac yn gyffrous iawn ennill gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae'r swydd yn cynnwys.


Meddwl ymlaen at gynlluniau ar ôl graddio 

Gan fy mod ar hyn o bryd yn fy nhrydedd flwyddyn o'r cwrs BA (Anrh) Perfformio a'r Cyfryngau, rydw i wedi bod yn meddwl mwy am ba fath o faes hoffwn i weithio ynddo. Ar ôl rhoi cynnig ar lawer o wahanol fathau o gyfryngau yn ystod fy nghwrs, rwyf wedi bod â diddordeb arbennig mewn cynhyrchu a sinematograffeg felly dechreuais chwilio am rywfaint o brofiad gwaith mewn cwmnïau cynhyrchu. 

Wrth siarad â fy nghynghorydd gyrfa, fe wnaethon nhw awgrymu Storm and Shelter a phan edrychais ar eu cyfryngau cymdeithasol a'u gwefan roedd yn ymddangos fel lle gwych i dreulio wythnos, felly fe wnes i gais! 

Oherwydd bod fy nghwrs mor amrywiol, rydyn ni wedi rhoi cynnig ar ychydig o bopeth ond yr hyn sydd wedi fy nenu fwyaf yn bersonol oedd gweithio ar ffilmiau mwy dogfennol yn ystod fy modiwl creu ffilmiau byrion. Er y byddwn i wrth fy modd yn gwneud rhywbeth gyda naratif mwy sefydlog ar ryw adeg, rwy'n arbennig o hoff o raglenni dogfen fel cyfrwng i adrodd stori. 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Y PRIF BETH YR OEDD YN DDIDDOROL IMI OEDD PA MOR AGOS MAE PAWB YN GWEITHIO GYDA'I GILYDD A PHA MOR DDI-DOR YW HI RHWNG ADRANNAU.

Zoe

Myfyriwr Perfformio a'r Cyfryngau

Dysgu gan yr arbenigwyr 

Pan es i mewn, doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl a'r prif beth yr oedd yn  ddiddorol imi oedd pa mor agos mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd a pha mor ddi-dor yw hi rhwng adrannau gan fy mod i'n meddwl y byddai pethau wedi'u gwahanu’n fwy na hynny. 

Treuliais y rhan fwyaf o'r wythnos yn cysgodi fy nghydweithwyr Lewis a Liam gan fy mod wedi sôn bod gen i ddiddordeb mewn sinematograffeg. Roedd yn ddiddorol iawn ac yn gyffrous cael gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae'r swydd yn ei olygu yn ogystal â rhai awgrymiadau ar Cinetracer a rhai triciau yn ymwneud â’r camera. 

Roedd pawb yn brysur iawn gan fod llawer o brosiectau yn mynd ymlaen, ond roeddwn i'n gwerthfawrogi bod pobl yn cymryd yr amser i drafod pethau gyda mi a fy nghroesawu! 

Diddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?

Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.