Niamh Davies

Ymgysylltu a’r diwydiant a serennu mewn cynhyrchiad ar Netflix

Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Drama student, Niamh, poses for a headshot photo. She is wearing a blue vest and is looking directly at the camera

Rwyf wedi ennill llawer o hyder sydd wedi rhoi’r gallu i mi fanteisio ar gyfleoedd na fyddwn erioed wedi breuddwydio amdanynt cyn mynd i’r brifysgol.


Dewis astudio Perfformio ar Gyfryngau ym Mhrifysgol De Cymru

Dewisais astudio BA (Anrh) Perfformio a’r Cyfyngau ym Mhrifysgol De Cymru oherwydd eu bod yn cynnig cyrsiau amrywiol sy’n cael eu teilwra ar gyfer unigolion creadigol, ac roeddwn i’n hoffi bod y cwrs wedi’i leoli yng Nghaerdydd, lle mae llawer o gyfleoedd gwaith yn y cyfryngau.  

Mae perfformio yn un o’m hangerdd, ond doeddwn i ddim eisiau teimlo’r pwysau i’w ddilyn fel gyrfa gan ei fod yn ddiwydiant anodd i dorri mewn iddo. Mae elfen y cyfryngau ar y cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i chi archwilio agwedd wahanol ar y diwydiant nad yw’n cael llawer o sylw fel arfer. 

Rwy’n hoffi astudio yng Nghaerdydd oherwydd mae cymaint yn digwydd yn y ddinas, yn enwedig yn y diwydiant cyfryngau. Mae bod mewn canolfan greadigol yn golygu y bydd gennych o leiaf un peth yn gyffredin a bron pawb rydych chi’n siarad â nhw. Peidiwch ag ofni sgwrsio a phobl na fyddech chi fel arfer yn siarad â nhw - efallai y gwnewch rai o’ch ffrindiau gorau. 

Diddordeb mewn astudio Perfformio a'r Cyfryngau?

RYDW I’N HOFFI ASTUDIO YNG NGHAERDYDD, OHERWYDD MAE CYMAINT YN DIGWYDD YN Y DDINAS, YN ENWEDIG YN Y DIWYDIANT CYFRYNGAU. MAE BOD MEWN CARFAN GREADIGOL YN GOLYGU Y BYDD GENNYCH O LEIAF UN PETH YN GYFFREDIN A BRON BAWB RYDYCH CHI’N SIARAD Â.

Niamh Davies

Myfyriwr Perfformio a'r Cyfryngau

Ymgysylltu a’r diwydiant a meithrin cysylltiadau  

Bu’n lwcus gen i gael profiad diwydiant yn y sector teledu ar ôl cael fy nghyfweld ar gyfer Cyfres 4 o Sex Education fel cynorthwyydd nodweddiadol. Rwyf wedi bod yn ffilmio er mis Medi ac rwyf wedi cael gweld faint o waith sy’n mynd i mewn i raglenni teledu a pha mor niferus yw’r swyddi a’r rolau sydd ar gael y doeddwn i erioed yn eu hadnabod o’r blaen.  

Mae PDC yn gweithio gyda Maddog 2020, gyda nhw cefais fy nghyfweld, felly ni fyddwn wedi cyrraedd yno heb y brifysgol. Maen nhw hefyd yn cydweithio a Screen Alliance Wales a Bad Wolf, sy’n gweithio ar brosiectau fel Sex Education. Mae’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu ar y cwrs hwn wedi fy helpu i gael prentisiaeth gyda BBC, Its My Shout!, lle byddaf yn gweithio ar ddogfennau fel cynorthwyydd cynhyrchu ac ymchwilydd yn ystod fy hyfforddiant. 

Cawsom y cyfle i ymweld â stiwdios Bad Wolf fwy nag unwaith, lle gwelsom setiau’r cynyrchiadau maen nhw’n gweithio arnynt ac aethom ati i siarad â’r gweithwyr proffesiynol a ddangosodd gyfleoedd gwaith a allai fod ar gael i ni unwaith y byddwn wedi cwblhau ein graddau. Mae’r cyfleoedd hyn wedi rhoi cipolwg i ni ar ba mor aml mae Cymru’n rhan o gynyrchiadau rydym yn eu gweld ar y teledu,  a bod popeth sydd ei angen arnom ar ein stepen drws. 

Ar ddechrau ein gradd, gaethom mynediad i Adobe Creative Cloud, sy’n ganatau i ni lawr lwytho meddalwedd a ddefnyddir yn y diwydiant i’w defnyddio ar ein prosiectau. Y prif feddalwedd rwyf wedi’i defnyddio yw Adobe Premier Pro ac Audition i greu amrywiaeth o brosiectau a all gael eu defnyddio fel rhan o’n harddangosfa i’w dangos i gyflogwyr yn y dyfodol. 

Unwaith rydych yn gwybod sut i ddefnyddio’r meddalwedd hwn, byddwch un cam yn agosach at fod yn broffesiynol yn y diwydiant o ran golygu. Hefyd, cewch fynediad i gamera a stiwdio teledu ar ein cwrs, felly mae gennych yr holl offer sydd ei angen i greu gwaith o safon diwydiant. 

Rwyf hefyd wedi dysgu i beidio byth a gwrthod cyfle i ddysgu rhywbeth newydd, gan y gallech ddod o hyd i rywbeth nad oeddech yn disgwyl ei fwynhau neu fod yn dda ynddo, ac yna troi hynny’n yrfa.  

Rwyf wedi ennill hyder mawr sydd wedi fy ngalluogi i fanteisio ar gyfleoedd na fyddwn erioed wedi breuddwydio amdanynt cyn mynd i’r brifysgol.  

Peidiwch ag oni ceisio pethau newydd. Os ydych chi’n rhy gaeth i’ch arferion, byth fyddwch chi’n gwybod beth rydych chi’n naturiol dda ynddo, a gallech ddod o hyd i gyfle neu sgil a fydd yn arwain at yrfa freuddwydiol i chi.  

Hefyd, mwynhewch y profiad a cheisiwch bethau newydd gyda’ch creadigrwydd, gan mai prin iawn y cewch gymaint o adnoddau a chyfleoedd mor gyfoethog yn y cyfryngau eto.   

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?

Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.