Gŵyl Ymgolli
Gŵyl gelfyddydol amlgyfrwng a byw yw Gŵyl Ymgolli, wedi'i churadu a’i chyflwyno gan ein myfyrwyr. Mae'n ŵyl go iawn gyda chynulleidfaoedd go iawn, lleoliadau go iawn a chyfranogiad go iawn gan y diwydiant, gan roi'r cyfle i chi gamu i mewn i'r diwydiannau creadigol wrth i chi astudio.
Gweld ein cyrsiau creadigol Archebu diwrnod agored
Bob blwyddyn, mae ein myfyrwyr Diwydiannau Creadigol yn cynhyrchu Gŵyl Ymgolli, gŵyl gyhoeddus sy'n dwyn ynghyd gerddoriaeth, ffilm, celf, dylunio a theatr, gyda chefnogaeth Dinas Gerdd Caerdydd, UK Music a Music Declares Emergency, ac yn cynnig profiad diwydiant go iawn gyda chynulleidfaoedd a lleoliadau byw.
Yn PDC, nid yn unig ydych chi'n dysgu am y diwydiant, rydych chi'n ymgolli ynddo.
Mae Gŵyl Ymgolli’n brosiect cydweithredol lle mae gwahanol sgiliau'n dod at ei gilydd, ac mae eich rôl yn adlewyrchu'r cwrs rydych chi'n ei astudio, felly gallwch gyfrannu mewn ffordd sy'n adeiladu ar eich cryfderau.
Efallai eich bod chi'n curadu ac yn archebu'r perfformwyr, yn cefnogi perfformiadau byw, yn cynnal ymgyrchoedd marchnata neu'n rheoli cynhyrchu. Gallech chi hefyd helpu i raglennu a chydlynu elfennau ar draws yr ŵyl, o arddangosfeydd a dangosiadau i osodiadau a digwyddiadau ymylol, neu fod yn rhan o dîm Immersed TV, gan gynhyrchu a darlledu cynnwys byw drwy gydol yr ŵyl.
Ffair Gyrfaoedd a Fforwm Unigolion Creadigol y Dyfodol
Yn ein Ffair Gyrfaoedd Diwydiannau Creadigol a Fforwm Unigolion Creadigol y Dyfodol, byddwch yn cysylltu â chyflogwyr o bob cwr o'r sector, o leoliadau, theatrau a gwyliau i gwmnïau cynhyrchu, labeli recordio, asiantaethau creadigol a sefydliadau cyfryngau, yn ogystal ag addysgwyr a manwerthwyr.
Gallwch gymryd rhan mewn gweithdai a thrafodaethau, ac ymgysylltu'n uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol y diwydiant trwy sesiynau arddull mentora.
Gyda'i gilydd, mae'r profiadau hyn yn eich helpu i adeiladu eich rhwydwaith, archwilio llwybrau gyrfa posibl, a chael dealltwriaeth ddyfnach o'r materion allweddol sy'n llunio dyfodol y diwydiannau creadigol.
Creu Argraff gyda Music Declares Emergency
Rydym am i'n myfyrwyr greu gwaith o bwys. Drwy ein partneriaeth â Music Declares Emergency, gallwch chi helpu i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd ac archwilio sut y gall y diwydiannau creadigol gefnogi dyfodol mwy cynaliadwy. Byddwch chi'n rhan o fudiad byd-eang ac yn defnyddio'ch creadigrwydd i wneud gwahaniaeth.