Foxxglove

Dod yn adnabyddus yn y diwydiant cerddoriaeth

Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Singer-songwriter Foxxglove smiles for a photo against a brick wall

Mae’r cyfleoedd rhwydweithio yn PDC yn wych – mae’n hyb creadigol!


Hunanhyrwyddo a llwyddo yn y diwydiant cerddoriaeth

Mae'r canwr-gyfansoddwr Foxxglove wedi mynd o nerth i nerth ers graddio o'r cwrs BA (Anrh)Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol yn PDC. Mae hi wedi derbyn cyllid gan BBC Horizons Launchpad ac wedi perfformio yn Focus Wales yn 2021. Mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair i'r artist ifanc yma o'r Rhondda. 

“Ers graddio, rydw i wedi bod yn treulio llawer o amser ar Foxxglove yr artist, yn gweithio ar senglau a deunydd newydd a byddaf yn rhyddhau fideo cerddoriaeth cyn hir. 

Un o'r ffyrdd gorau o hyrwyddo eich hun yw drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Felly, postiwch mor aml ag y gallwch chi, gan ganolbwyntio ar greu cynnwys da." 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

MAE’R CYFLEUSTERAU YN ANHYGOEL! GALLWCH RENTU STIWDIO AM DDIM TRA BYDDWCH CHI’N ASTUDIO.

Foxxglove

Graddedig Cerddoriaeth

Bywyd fel myfyriwr PDC yng Nghaerdydd 

Ar gampws Caerdydd, mae'r cyfleusterau'n anhygoel! Gallwch rentu stiwdio am ddim tra byddwch chi’n astudio. 

Mae’r cyfleoedd rhwydweithio yn PDC yn wych – mae’n hyb creadigol! 

Mae'n werth dod i adnabod pobl a chwrdd â chymaint o bobl â phosibl. Yn enwedig, gan fod y busnes cerddoriaeth yn ddiwydiant pobl. 

Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am y radd Cerddoriaeth a Sain yn PDC, ewch amdani, gan achub ar unrhyw gyfle a ddaw i’ch rhan.” 

Dewch o hyd i'ch cwrs

Diddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?

Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.