Matteo Depares
Rwyf wedi gwireddu fy mreuddwyd o weithio yn y celfyddydau
Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Yn araf bach, daeth yn amlwg i mi mai dyna roeddwn i eisiau ei wneud am weddill fy oes.
Troi angerdd gydol oes yn yrfa
Mae Matteo Depares, sydd â gradd MA mewn Ysgrifennu a Chynhyrchu Caneuon, bellach yn gynhyrchydd cerddoriaeth llawrydd llawn amser. Mae'n gweithio gydag artistiaid i droi eu syniadau cerddorol yn gynyrchiadau cwbl barod ar gyfer y radio.
Mae gwaith Matteo wedi cael ei enwebiadau ar gyfer gwobrau ac mae nifer o’i ganeuon wedi ymddangos ar y siartiau. Bellach yn byw yn Llundain, mae wedi symud i herio ei hun a datblygu ei yrfa ymhellach:
Cyn astudio yn PDC, roeddwn i ym Malta yn astudio Datblygu Meddalwedd, lle y daeth cerddoriaeth yn rhywbeth yr oedd i’n ei wneud am hwyl ar ôl darlithoedd. Cefais fy magu yn gwrando ar roc - mae'n debyg mai llais Freddie Mercury oedd y cyntaf i mi ei glywed erioed.
Yn fy arddegau, roedd gen i obsesiwn â Green Day, ond fel cynhyrchydd pop, rwyf wedi gorfod ehangu fy ngorwelion yn sylweddol.
Rwy'n mwynhau gwrando ar artistiaid pop sy'n glyfar gyda'u cerddoriaeth.
Yn araf bach, daeth yn amlwg i mi mai cerddoriaeth oedd yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud am weddill fy oes.
Dewch o hyd i'ch cwrsDysgu sgiliau amhrisiadwy ar y cwrs
Roedd y modiwl Cyd-ysgrifennu Creadigol yn hynod o bwysig, yn enwedig oherwydd bod fy maes gwaith yn gofyn i mi gydweithio’n greadigol ag eraill.
Drwy’r modiwl, datblygais sgiliau hanfodol sy’n fy helpu i ddeall cydweithwyr yn well—yn hytrach na brwydro barhaus i hyrwyddo fy syniadau fy hun, rwyf wedi dysgu sut i fabwysiadu syniadau pobl eraill a’u datblygu ymhellach.
Gwers hynod werthfawr a ddysgais yn ystod fy amser yn PDC oedd bod angen i chi weithiau aberthu eich syniadau gorau - hyd yn oed y rhai rydych chi'n fwyaf balch ohonynt - er lles y gân!
Mae bob amser yn bwysig edrych ar y darlun ehangach.
Mae'r stiwdios yn yr Atrium yn wych! Rwy'n colli gallu cael mynediad i'r stiwdios, y cyfarpar a'r ystafelloedd ymarfer.
Y peth gwych yw bod digonedd o le, felly roedd hi bob amser yn hawdd dod o hyd i ystafell neu stiwdio rydd.
Os ydych chi am droi cerddoriaeth yn yrfa amser llawn, y cwrs meistr hwn yw’r cwrs i chi. Nid yw'n gwrantu y gallwch chi gael gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth, ond byddwch yn dysgu llawer o sgiliau a fydd yn rhoi mantais fawr i chi.
I mi, rhoddodd y cwrs gyfle i mi ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar gerddoriaeth am y tro cyntaf.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?
Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.