MA

Cynhyrchu Cerddoriaeth a Chyfansoddi Caneuon

Cyflwynir y cwrs MA Cynhyrchu Cerddoriaeth a Chyfansoddi Caneuon a Chynhyrchu yng nghyd-destun y byd cerddoriaeth a diwylliannol cyfoes ffyniannus yng Nghymru.

Sut i wneud cais Archebu Lle Ar Noson Agored Sgwrsio Gyda Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Caerdydd

  • Côd y Campws

    B

Ffioedd

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £17,900*

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Caerdydd

  • Côd y Campws

    B

Ffioedd

Bydd y rhaglen Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu arloesol hon yn eich ysbrydoli i ddatblygu eich llais artistig eich hun a gwneud cysylltiadau parhaol o fewn y byd cyfansoddi caneuon.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Fe’i dyluniwyd ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn crefft caneuon a chynhyrchu mewn stiwdio. Byddwch yn dysgu ystod o ymagweddau cyfansoddi caneuon traddodiadol a chyfoes, ac yn cael mynediad at ein stiwdios, ystafelloedd ymarfer ac ystafelloedd ysgrifennu sydd ag offer da. Yn ogystal â chynnig cyfleoedd niferus i gydweithio, mae’r cwrs yn annog gweithio’n annibynnol.

Llwybrau Gyrfa

  • Darlithydd
  • Gweithio yn y Celfyddydau
  • Cyfansoddwr Caneuon a Chynhyrchwr Llawrydd 
  • Llwybrau tuag at PhD
  • Therapi Cerdd

 

Sgiliau a addysgir

  • Sgiliau Cyfansoddi Cerddoriaeth Uwch
  • Sgiliau Cynhyrchu Cerddoriaeth Uwch
  • Trefnu ac Offeryniaeth
  • Cymysgu a Meistroli
  • Rheoli Prosiectau

 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sgiliau Ysgrifennu Caneuon

Ysgrifennu geiriau, datblygu eich llais eich hun fel cerddor, datblygu sgiliau ar ffurf caneuon, alaw a harmoni.

Sgiliau Cynhyrchu

Datblygu eich sgiliau recordio, trefnu a pherfformio yn ogystal â chymysgu a meistroli.

Partneriaethau Diwydiant

Dosbarthiadau meistr ac adborth gan ymarferwyr perthnasol yn y diwydiant.

Cydweithio

Cyfleoedd i fynd i’r afael â ‘brîff byw’ gyda chyfansoddwyr caneuon proffesiynol ac ymarferwyr creadigol.

Trosolwg o’r Modiwl

Cyfansoddi Caneuon 1: Sgiliau a Strategaethau 
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i seiliau ac egwyddorion celf a chrefft cyfansoddi caneuon. Archwilir ystod eang o dechnegau mewn gweithdai wythnosol, fel strwythur a threfniant, ysgrifennu geiriau, mydryddiaeth alawol a harmonig; yn ogystal ag ymagweddau mwy cysyniadol tuag at fod yn greadigol, a meithrin ac arbrofi â’ch llais artistig.   

Cyfansoddi Caneuon 2: Cyd-ysgrifennu Creadigol 
Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfleoedd wythnosol i fyfyrwyr fynd i’r afael â briffiau ‘byw’ gyda chyfansoddwyr caneuon ac ymarferwyr creadigol proffesiynol; ac i archwilio ystod o ddulliau a thechnegau cyfoes ac enghreifftiol. 

Bydd myfyrwyr yn ymestyn eu gwaith mewn amgylchedd cydweithredol, trwy ymgorffori elfennau fel trefnu, recordio a chymysgu.  

Yn nodweddiadol, bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau o ddau neu fwy, hyd at uchafswm arferol o chwech. 

Cynhyrchu Cerddoriaeth Ddigidol 
Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad trwyadl i fyfyrwyr i recordio, golygu a phrosesu sain a MIDI yn y maes cyfrifiadurol hyd at lefel uwch. 

Cynnwys enghreifftiol: recordio a golygu sain; cyfansoddi curiadau a phatrymau drymiau; recordio, creu a golygu MIDI; creu a golygu trefniannau caneuon; cymysgu; awtomatiaeth; gweithio yn ôl darlun; dadansoddi cynhyrchu. 

Recordio 
Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â thechnegau peirianneg sain a chynhyrchu cerddoriaeth o fewn stiwdio recordio fodern, gan archwilio technegau amlsesiwn ac aml-drac, cymysgu/golygu, systemau cyflwyno, a rheolaeth weithredol.  

Perfformio: Ymarfer a Chyflwyno
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymarfer a pherfformio. Datblygir perfformiad byw trwy ymarfer, arweiniad mewn tiwtorialau a ‘gigiau’. Bydd myfyrwyr yn defnyddio prosesau sefydledig a/neu arbrofol i gyflawni eu nodau. 

Cynnwys enghreifftiol: sut i gael gig – strategaethau a rhwydweithio; persona a golwg; cyflwyniad (delweddau); cynllunio rhaglen (‘y rhestr ganeuon’); rheoli’r lle llwyfan; technegau lleisiol; presenoldeb corfforol.  

Entrepreneuriaeth Greadigol a Diwylliannol 
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr weithio’n unigol ac ar y cyd i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol ac yn greadigol am entrepreneuriaeth ac, yn arbennig, entrepreneuriaeth gymdeithasol. Gosodir briffiau ‘byd go iawn’ gan y diwydiant a rhoddir adborth gan sector y diwydiant ar fentrau entrepreneuriaeth a ddatblygwyd gan y myfyrwyr.  

Mae’r pynciau yr ymdrinnir â nhw’n cynnwys: cyd-destunau ar gyfer mentrau creadigol a diwylliannol a dadleuon ynglŷn â nhw; hunanwerthuso entrepreneuraidd, dadansoddi adnoddau a datblygu rhwydweithiau; cynllunio busnes, cyllid a gweithrediadau; contractau, hawliau ac eiddo deallusol. 

Prosiect Mawr 
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â phrosiect portffolio manwl mawr, gan ganiatáu iddynt fanteisio ar wybodaeth o fodiwlau’r cwrs. Rhoddir adborth ar Brosiectau Mawr gan Lysgennad ein cwrs, sef Prif Weithredwr Libertino Records, Gruff Owen.  

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch yn dysgu

Addysgir y cwrs gan gyfansoddwyr caneuon, cynhyrchwyr, ac academyddion cyhoeddedig sy’n ymarfer, a chaiff ei gyflwyno trwy gyfres o ddosbarthiadau meistr gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.

Rhoddir pwyslais ar weithgareddau ymarferol a’ch annog i ganfod eich llais eich hun wrth ddatblygu deunydd. Cynhelir sesiynau addysgu mewn amgylchedd cefnogol, lle mae’r myfyrwyr yn rhoi adborth ar eu gwaith ei gilydd. Mae sesiynau ymarferol wedi’u seilio ar ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth o ddamcaniaethau arfer gorau wrth gyfansoddi caneuon a chynhyrchu.

Gellir astudio’r radd trwy ddysgu o bell, hefyd; gallai myfyrwyr yn y Deyrnas Unedig a myfyrwyr rhyngwladol ddewis astudio gan ddefnyddio eu stiwdio a’u hoffer eu hunain.

Staff addysgu

Matthew Evans, Arweinydd y Cwrs
Stuart Jones, Uwch Ddarlithydd
Dr Rob Smith, Uwch Ddarlithydd
Alun Tomos, Darlithydd
Yasmine Davies, Darlithydd Gwadd
Matt Callanan, Darlithydd Gwadd

Cyfleusterau

Offer

Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.

Gyrfa a chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Yn ogystal â gweithio’n broffesiynol fel cyfansoddwr caneuon neu ym maes cynhyrchu caneuon, gallai gyrfaoedd posibl i raddedigion y cwrs hwn gynnwys gweithio fel hwyluswyr mewn gweithgareddau allgymorth cymunedol a chelfyddydol, fel addysgwyr mewn lleoliadau addysgu ffurfiol, ac fel ymarferwyr fel perfformwyr, cynhyrchwyr ac ysgrifenwyr.

Mae cyfleoedd hefyd fel ymchwilwyr, gweinyddwyr/rheolwyr sefydliadau, gwyliau a digwyddiadau cerddoriaeth, neu ym maes newyddiaduraeth gerddoriaeth a chyhoeddi, artistiaid a repertoire (A&R), radio, cynhyrchu llawrydd, hyrwyddo cerddoriaeth, neu fel rhan o dimau cynhyrchu cyfryngau eraill fel hysbysebu, rheoli digwyddiadau a gemau.

Cymorth Gyrfa

A chithau’n fyfyriwr Prifysgol De Cymru, gallwch gael cyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio.

Mae hyn yn cynnwys: apwyntiadau un i un gyda Chynghorwyr Gyrfaoedd o’r gyfadran, wyneb yn wyneb, ar y ffôn neu hyd yn oed ar Skype a thrwy e-bost trwy’r gwasanaeth “Gofyn Cwestiwn”. Mae gennym adnoddau ar-lein helaeth hefyd i’ch helpu i ystyried eich opsiynau gyrfa a’ch cyflwyno’ch hun yn dda i gyflogwyr. Mae’r adnoddau’n cynnwys profion seicometrig, asesiadau gyrfa, adeiladwr CV, efelychwr cyfweliad a chymorth gyda cheisiadau. Mae ein cronfa ddata cyflogwyr yn cynnwys  mwy na 2,000 o gyflogwyr cofrestredig sy’n targedu myfyrwyr Prifysgol De Cymru, a gallwch dderbyn negeseuon e-bost wythnosol am swyddi.

Mae gan ein gwasanaeth gyrfaoedd dimau penodol: tîm profiad gwaith canolog i’ch helpu i ddod o hyd i leoliadau perthnasol; tîm datblygu cyflogadwyedd sy’n cynnwys rhaglen gyflogadwyedd o’r enw Grad Edge; a thîm menter sy’n canolbwyntio ar syniadau busnes newydd ac entrepreneuriaeth.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Gradd Anrhydedd yn nosbarth 2:2 neu'n uwch mewn cerddoriaeth neu bynciau celfyddydol cysylltiedig eraill.

Gofynion Ychwanegol:

Croesewir ceisiadau hefyd gan y rhai sydd â chymwysterau cyfatebol eraill, neu'r rheini sydd â phrofiad ymarferol/proffesiynol blaenorol sylweddol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£17,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Benthyca Offer Cyfryngau

Mynediad at gamerâu, cyfarpar goleuo, sain a recordio o safon y diwydiant, gyda chefnogaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim a thechnegwyr profiadol. Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu i arbrofi, mireinio a gwireddu eich gwaith yn hyderus.

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.