Theatr a Drama
Pa un ai hoffech actio, ysgrifennu, gynhyrchu yntau greu cynyrchiadau theatr, byddwch yn ymchwilio, yn chwarae, yn creu, yn dychmygu ac yn perfformio yn ystod y cwrs gradd ymarferol hwn. Drwy gyfuno damcaniaeth ac arfer, bydd gennych sawl cyfle i gymryd rhan mewn theatr byw, yn cynnwys perfformiadau stryd.
Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/performance/ba-theatre-drama.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
W403
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Chi sydd pia’r llwyfan ar y cwrs gradd theatr a drama ymdrochol ac eang hwn. Ym mhob un o dair blynedd y cwrs, bydd eich astudiaethau’n seiliedig ar ŵyl theatr ac ar berfformiadau.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Os hoffech ddysgu yn un o ganolfannau creadigol mwyaf y Deyrnas Unedig, ac os oes arnoch angen gwrs ymarferol i’ch cynorthwyo i ddatblygu a hogi eich diddordebau, yna mae’r cwrs BA Theatr a Drama’n berffaith i chi. Gydag ystod o gyfleoedd ymarferol o’r cychwyn cyntaf, byddwch fawr o dro’n creu portffolio bydd yn hwb i’ch gyrfa.
Llwybrau gyrfa
- Actor y llwyfan a'r sgrin
- Gyrfaoedd mewn ffilm a theledu
- Cyfarwyddwr
- Hwylusydd gweithdy
- Athro drama
- Sgriptiwr
- Gwneuthurwr theatr
- Gyrfaoedd amrywiol sy'n cynnwys ymwneud yn hyderus gyda’r cyhoedd
Y sgiliau a ddysgir
- Dyfeisio – bod yn greadigol gyda ffurf a chynnwys
- Actio ar y llwyfan a'r sgrin
- Sgriptio
- Gweithio'n dda gydag eraill
- Hwyluso’r defnyddio o ddrama er mwyn gweithio gydag eraill
- Cyfathrebu’n hyderus
- Meddwl yn feirniadol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Gyda pherfformiad sy’n cynnwys Gŵyl Ymylol fel rhan greiddiol ohono, mae'r cwrs gradd hwn yn cynnig arweinyddiaeth trwy ddatblygu eich sgiliau a'ch diddordebau gyda chyfuniad o waith ymarferol a seminarau er mwyn i chi ddysgu sgiliau theatr a drama hanfodol. Gallwch ymchwilio i gyfres eang o feysydd gan gynnwys drama gymhwysol, cerddoriaeth a pherfformio, adrodd straeon, ysgrifennu sgriptiau, theatr dechnegol, actio, actio ar gyfer camera, cyfarwyddo, cyflogadwyedd, perfformiadau stryd a llawer yn rhagor.
Blwyddyn Un
Y Labordy Ymarferol: Actio
Persbectifau o’r Theatr a Pherfformiad
Cyflwyniad i Ddyfeisio*
Perfformiad, Ysgrifennu ac Ymchwil
Blwyddyn Dau
Cynghroesiadau: Chwedleua Dyfeisgar*
Gŵyl Theatr
Drama Gymhwysol
Blwyddyn Tri
Arferion Proffesiynol a Chyflogadwyedd
Y Theatr ac Addysg
Astudiaethau Arbenigol
Prosiect Ymchwil*
*Mae modd astudio'r modiwlau yma 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Dyma fydd eich cyflwyniad i theatr, drama a chynhyrchu. Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys actio, chwedleua ac ysgrifennu creadigol ac academaidd ar gyfer y theatr. Byddwch yn cynnal cynyrchiadau, yn mynychu perfformiadau ac yn ymchwilio, gyda’r cyfle hefyd i fynychu clyweliadau ar gyfer ffilmiau myfyrwyr.
Y Labordy Ymarferol: Actio
Astudiwch action ar gyfer y llwyfan a’r sgrin yn y modiwl ymarferol hwn sy’n cael ei ddysgu gan arbenigwyr o fewn y diwydiant.
Persbectifau o’r Theatr a Pherfformiad
Mynychwch a beirniadwch ddramâu a pherfformiadau sîn fywiog, greadigol Caerdydd. Dysgwch sut i greu traethodau fideo fel rhan o’ch gwaith academaidd.
Cyflwyniad i Ddyfeisio*
Dysgwch am y rhan allweddol hon o gynhyrchu theatr drwy ddefnyddio testunau clasurol er mwyn adrodd storïau cyfredol.
Perfformiad, Ysgrifennu ac Ymchwil
Defnyddiwch berfformiadau i ddarganfod dulliau newydd o gyflwyno gwaith ysgrifenedig academaidd-greadigol.
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Dewch o hyd i, a dwysewch eich diddordebau yn eich ail flwyddyn, pan fydd yr ŵyl theatr yn greiddiol i'r cyfleoedd ymarferol. Datblygwch eich sgiliau creu er mwyn llwyfannu perfformiad arwyddocaol. Byddwch hefyd yn cynllunio, yn cyflawni ac yn gwerthuso gweithdy drama gymunedol.
Cynghroesiadau: Chwedleua Dyfeisgar*
Mireiniwch eich sgiliau dyfeisio gyda’r uned waith benodol hon. Defnyddiwch waith celf Gymreig glasurol a chwedloniaeth Gymreig er mwyn dyfeisio eich storïau newydd sbon eich hun.
Gŵyl Theatr
Dewch i chwarae rhan yn y broses o lwyfannu’r Ŵyl Ymylol. Byddwch yn gweithio arno o’r foment bydd y llenni’n codi i’r eiliad y byddant yn disgyn eto mewn gwahanol gyd-destunau perfformio a gwahanol gyd-destunau o’r ŵyl ei hun.
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Drama Gymhwysol
Bydd cyfle i chi gynllunio, i gyflwyno ac i werthuso gweithdy drama gymunedol er mwyn datblygu eich sgiliau trefnu a gweld sut y gellir cymhwyso drama a theatr o fewn y gymuned.
Bydd cyfle i chi ymgymryd â lleoliad gwaith o fewn y diwydiant er mwyn sicrhau profiad a chysylltiadau gwerthfawr. Yna daw’r amser i chi ganolbwyntiwch ar eich sgiliau mewn maes o’ch dewis a'u mireinio gydag astudiaeth arbenigol. Bydd hyd yn oed mwy o gyfleoedd i berfformio a chynhyrchu ynghyd â chyfle i ymateb i friff byw.
Arferion Proffesiynol a Chyflogadwyedd
Defnyddiwch eich sgiliau theatr a drama yn y byd gwaith ôl-raddedigion drwy leoliad gwaith ac asesiadau fydd wedi ei selio ar gyflogadwyedd.
Y Theatr ac Addysg
Hogwch eich sgiliau drwy gynllunio, datblygu, a chyflawni gweithdy perfformio ar gyfer ysgolion.
Astudiaethau Arbenigol
Cwblhewch astudiaeth arbenigol mewn maes sydd o ddiddordeb i chi. Mae rhai syniadau’n cynnwys: action i’r camera, cerddoriaeth a pherfformio neu ysgrifennu sgriptiau.
Prosiect Ymchwil*
Datblygwch eich arferion eich hun. Ymchwiliwch a chynhyrchwch dau berfformiad terfynol.
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Byddwch yn ymchwilio’r damcaniaethau, y confensiynau ac ymagweddau’r theatr mewn ffordd academaidd ac ymarferol, a fydd yn gymorth i chi ddatblygu eich sgiliau proffesiynol a galwedigaethol. Bydd yr asesiadau’n cynnwys tasgau ymarferol ac ysgrifenedig gan gynnwys perfformiadau, cyflwyniadau a thraethodau.
Byddwch yn cael profiad o weithdai ac yn cymryd rhan mewn cynyrchiadau ac ymarferion a gyfeirir gan staff a than arweiniad myfyrwyr ar ein campws yng Nghaerdydd, gan feithrin eich sgiliau wrth fynd ymlaen. Yn y pen draw, byddwch yn creu ac yn cynhyrchu gwaith dan gyfarwyddyd myfyrwyr mewn grwpiau i’w berfformio yn yr Ŵyl Ymylol a Gŵyl Trochi.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/14-cardiff-facilities/GettyImages-1133752368.jpg)
Y Staff Dysgu
Dysgwch gan ein tîm o weithwyr proffesiynol sy’n brofiadol o fewn y diwydiant ac sy'n dod o gefndiroedd sy'n cwmpasu ysgrifennu sgriptiau, actio ar gyfer y llwyfan a'r sgrin, cerddoriaeth a pherfformio, dyfeisio ac ysgrifennu academaidd a pherfformio. Rydym yn dod ag arbenigwyr diwydiant i’r cwrs ar gyfer dosbarthiadau meistr ac yn gweithio'n agos gyda chi er mwyn eich helpu chi i ddatblygu eich diddordebau.
Bydd y tîm yn eich cynorthwyo i fynegi eich hunaniaeth mewn amgylchedd cynhwysol trwy arferion creadigol, gan dynnu ar eu cyfoeth o brofiad.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-drama-and-performance.png)
Lleoliadau gwaith a Phrofiad gwaith
Byddwch yn gwneud o leiaf un lleoliad gwaith o fewn y diwydiant fel rhan o'ch cwrs gradd, a bydd yn amrywio o 30 i 70 awr. Y bwriad yw eich cynorthwyo i greu cysylltiadau gwerthfawr a rhoi hwb i'ch gyrfa greadigol. Mae yno gynllun menter sy’n darparu cymorth os ydych am ddatblygu gyrfa lawrydd.
Mae ein perthynas agos â sîn greadigol, fywiog Caerdydd yn golygu ein bod yn adnabod llawer o’r enwau mawr. Mae myfyrwyr blaenorol wedi treulio amser gyda Hijinx a Theatr y Sherman. Hefyd, mae’r brifysgol yn cynhyrchu Menter Gŵyl Ymylol Caerdydd ac yn cefnogi Gŵyl Trochi, gan roi cyfle i fyfyrwyr greu perfformiadau proffesiynol anhygoel fel rhan o’u hastudiaethau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/12-campus-spaces/campus-spaces-cardiff-lecture-theatre-38475.jpg)
Cyfleusterau
Mae’r Atrium yn gartref i theatr 160 sedd ynghyd ag ystafelloedd ymarfer a stiwdios o safon broffesiynol ar y campws yng nghanol Caerdydd. Mae ein labordai arloesi yn cefnogi rhith-gynhyrchu a theatr drochi – sydd ar flaen y gad o ran arfer broffesiynol gyfredol.
Mae yna lyfrgell a Pharth Cynghori wedi’u hadnewyddu, gyda digon o ddewisiadau bwyd a diod ac undeb myfyrwyr, y Zen Bar.
Hefyd, byddwch yn cael eich trwytho o fewn un o fannau creadigol mwyaf bywiog y Deyrnas Unedig. Mae ardal Caerdydd wedi bod yn gartref i amrywiaeth o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys Sex Education, Dr Who a His Dark Materials ac mae ganddi sîn perfformiad byw lewyrchus iawn, rhywbeth sy’n hyfryd i fyfyrwyr ei wylio a chymryd rhan ynddo.
Offer
Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/11-campus-exterior-shots/campus-exterior-cardiff-main-building-in-full-50355.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
pwynt tariff UCAS: 96
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: CCC i gynnwys pwnc perthnasol
- Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC ar gyfer Lefel A men pwnc perthnasol
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 o bwyntiau tariff UCAS.
Gofynion ychwanegol
TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£15,850
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Bydd myfyrwyr yn cyfrannu at gost rhai ymweliadau â'r theatr a gweithgareddau cyfoethogi eraill
Cost: £100
Rydym yn awgrymu bod myfyrwyr yn buddsoddi mewn gliniadur a ffôn clyfar. Gellir benthyg gliniaduron dros dro gan y Brifysgol os nad oes gennych chi'ch hun.
Cost: I fyny at £1000
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.