Shaila Mudhoo

Camu i’r goleudy yn ystod fy astudiaethau

Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Shaila poses for a photo surrounded by lighting equipment. The image is a black and white photograph

Trwy wynebu heriau gwahanol, megis creu perfformiadau, cyfarwyddo a chymeriad, rwyf wedi datblygu fy sgiliau ac wedi paratoi fy hun ar gyfer y byd actio.


Mwynhau pob eiliad fel myfyriwr yn PDC

Y prif beth am astudio BA (Anrh) Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru yw’r rhyddid i greu a’r lle i ehangu eich dychymyg. Trwy wynebu heriau gwahanol, megis creu perfformiadau, cyfarwyddo a chymeriad, rwyf wedi datblygu fy sgiliau ac wedi paratoi fy hun ar gyfer y byd actio.  

Yn PDC, rwyf hefyd wedi gweithio gyda phobl greadigol ac wedi datblygu fy sgiliau gweithio mewn tîm, sy’n bwysig wrth weithio gydag actorion eraill. 

Ers bod gyda PDC, rwyf wedi bod mewn pedair ffilm fer, wedi cael rhan leisiol ar dair rhaglen radio, ac wedi gweithio gyda Theatr Sherman ar gyfer fy lleoliad gwaith. Rwyf hefyd wedi ehangu fy ngallu actio ar lwyfan gyda’r Brifysgol, gan gymryd rhan mewn darn a gyfarwyddwyd gan fyfyrwyr yn y drydedd flwyddyn yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, ac rwyf wedi perfformio yn y sioe ‘CCTA’ am Newid Hinsawdd. 

Mae llawer o gyfleoedd i gydweithio yma – tri o’r ffilmiau byr roeddwn wedi bod yn rhan ohonynt yw ffilmiau myfyrwyr PDC. Wrth weithio gyda myfyrwyr eraill o PDC ar draws gwahanol gyrsiau, rwyf wedi gallu rhwydweithio, ac fe roddodd gyfle i mi ddysgu gyda myfyrwyr eraill.  

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithi ar berfformiad llwyfan gyda’m cwrs, a byddwn yn creu perfformiad o’r trasiedi Groegaidd ‘Electra’, ac rwy’n edrych ymlaen at hynny. 

Y PRIF BETH AM ASTUDIO THEATR A DRAMA YN PDC YW’R RHYDDID I GREU A’R LLE I EHANGU EICH DYCHYMYG.

Shaila Mudhoo

Myfyriwr Theatr a Drama

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol

Un o’r camau cyntaf ar ôl graddio fydd adeiladu fy arddangosfa i’w anfon at asiantau, gan ddefnyddio’r profiadau rwyf wedi’u cael yn ystod fy mlwyddyn olaf. Bydd hyn yn amlygu fy ngallu actio drwy wahanol rolau a genre. 

 Fy nod yw dod o hyd i swydd fel perfformiwr neu fel rhan o’r criw mewn theatr, a fydd yn ehangu fy ngwybodaeth am y proffesiwn o wahanol safbwyntiau. Nid yw’r daith i ddilyn gyrfa actio yn hawdd, ond rwy’n barod i wynebu’r heriau! 

Pe bawn i’n gallu mynd yn ôl amser, fy nghyngor i fy hunan iau yn dechrau’r flwyddyn gyntaf fyddai peidio â rhoi’r ffidl yn y to yn rhwydd ac i beidio ag ofni cymryd risgiau. Mae’n hanfodol ymddiried yn dy allu dy hun, ac o hynny, parhau i addasu a datblygu ymhellach.  

Byddwn i’n dweud wrthyf fy hun nad yw methu a chael rôl yn adlewyrchu dim ar dy allu fel actores. Mae’r gwrthod yn dy baratoi ar gyfer rhywbeth mwy a gwell sy’n addas i ti. Mae’n hawdd teimlo’n siomedig ac anobeithio pan nad wyt ti’n cyflawni’r nod o gael rôl, ond defnyddia hyn fel cymhelliant ac ysbrydoliaeth i dy annog i wella a pharau i ddatblygu fel actores. Mae’n broses o ddysgu ac yn rhan hollbwysig o’r swydd hon.  

Diddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?

Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.