Joe Ridgeway
Cydweithrediad myfyriwr Cynhyrchu Cerddoriaeth yn cyrraedd yr aur yn siartiau’r DU
Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Mwynhau llwyddiant yn y siartiau fel myfyriwr
Mae Joe Ridgway, myfyriwr BA (Anrh) Cynhyrchu Cerddoriaeth, yn profi llwyddiant mawr yn y siartiau cenedlaethol.
Mae ei gydweithrediad â Central Cee, sef “Pinging”, o’r albwm mixtape Wild West, wedi cyrraedd yr aur yn siartiau cenedlaethol y DU. Cyrhaeddodd yr albwm rif 2 yn y Siart Albymau a rhif 1 yn Siart Ffrydio'r DU, ac mae eisoes wedi cyrraedd bron i chwe miliwn o wrandawyr.
Mae Joe, sy’n hanu o Raglan, wedi bod yn datblygu ei broffil fel cynhyrchydd ar Instagram, gan gydweithio ag artistiaid ar draws yr Iwerydd yng Nghanada ac UDA, gan gynnwys y sêr rap newydd Kam Nasty a LowKeyytm.
Mae’r cwrs BA (Anrh) Cynhyrchu Cerddoriaeth yn PDC yn annog cynhyrchwyr ifanc fel Joe i ymchwilio i agweddau creadigol a chydweithredol ar gynhyrchu cerddoriaeth, gan helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr, gwneuthurwyr bît a DJs.
Dewch o hyd i'ch cwrsDiddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?
Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.