Louis Mills

Adeiladu dyfodol mewn Technoleg Digwyddiadau Byw

Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Louis wearing headphones focusing on his work at a computer

Treuliais yr haf yn gweithio i gwmni cynhyrchu ar ddigwyddiadau mawr fel How The Light Gets In, Tafwyl, a GlastonBarry.


Pam y dewisais PDC a fy mhrofiad hyd yma

Fe wnes i ddewis y cwrs BSc (Anrh) Technoleg Sain, Goleuo a Digwyddiadau Byw oherwydd rwyf bob amser wedi bod â diddordeb yn y dechnoleg y tu ôl i ddigwyddiadau byw ac roeddwn i eisiau troi'r angerdd hwnnw yn yrfa. Cynigiodd PDC y cydbwysedd perffaith o ddysgu ymarferol a theori, gan fy helpu i ddatblygu nid yn unig fy sgiliau technegol ond hefyd fy ngalluoedd proffesiynol. 

Roedd mynychu Diwrnod Agored yn cadarnhau fy mhenderfyniad - roedd gweld y cyfleusterau a chyfarfod â’r tîm addysgu yn gwneud i mi deimlo’n sicr mai PDC oedd y dewis cywir. 

Drwy gyfleoedd rhwydweithio a ddarperir gan y cwrs, treuliais yr haf yn gweithio i gwmni cynhyrchu ar ddigwyddiadau mawr fel How The Light Gets In, Tafwyl, a GlastonBarry. Mae Caerdydd yn ddinas wych ar gyfer astudio digwyddiadau byw oherwydd mae rhywbeth yn digwydd drwy’r amser, ac mae’r diwydiant creadigol yn hygyrch iawn. 

Mae’r profiad a gefais wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer meithrin fy sgiliau a chysylltiadau â diwydiant. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

RWY’N ARBENNIG O FALCH O’R GWAITH WNES I AR GYFER GŴYL IMMERSED, SY’N DOD Â MYFYRWYR O NIFER O GYRSIAU AT EI GILYDD I WEITHIO AR DDIGWYDDIAD AR RADDFA FAWR.

Louis Miles

Myfyriwr Technoleg Sain, Goleuo a Digwyddiadau Byw

Projectau diwydiant ac uchelgeisiau i'r dyfodol 

Rwy’n arbennig o falch o’r gwaith wnes i ar gyfer Gŵyl Immersed, sy’n dod â myfyrwyr o nifer o gyrsiau at ei gilydd i weithio ar ddigwyddiad ar raddfa fawr. Rwyf hefyd wedi darparu cymorth goleuo ar gyfer darllediadau Newyddiaduraeth Chwaraeon yn y stiwdio deledu ac wedi dylunio a gweithio ar sain a goleuadau ar gyfer Beautiful Creatures yn y theatr. Mae'r profiadau hyn wedi fy helpu i fireinio fy sgiliau technegol mewn lleoliadau go iawn. 

Ar ôl graddio, rwy’n gobeithio gweithio ar gynyrchiadau graddfa fawr, gan ddefnyddio’r profiad a gefais yn PDC i symud ymlaen yn y diwydiant. Fy nghyngor i fyfyrwyr y dyfodol? Cymerwch ran ym mhopeth! Mae'r cyfleoedd a'r cysylltiadau a wnewch dros y tair blynedd y byddwch chi yn y brifysgol yn amhrisiadwy. 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?

Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.