Fframio eich Dyfodol

Graddau Ffotograffiaeth

Do you see life differently to other people? Can you capture moments and tell stories in a single image? If so, you could join the ranks of our graduates who work as professional photographers and photojournalists worldwide. Study photography and capture the extraordinary in every click.

Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
A lecturer is supervising a lesson, while students set up a professional photoshoot.

Gyda chyrsiau mewn Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol, mae Prifysgol De Cymru wedi ennill enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ragoriaeth. Rydym wedi dysgu Ffotograffiaeth ers dros 100 mlynedd, ac mae ein cyrsiau Ffotograffiaeth / Ffotograffiaeth Ddogfennol yn cael eu hystyried yn eang fel rhai sy’n arwain y byd.


Pam Astudio Ffotograffiaeth?

Cyfleusterau o'r radd flaenaf

Mae gennym ddwy stiwdio ffotograffiaeth fawr, dau labordy digidol a chymorth technegol arbenigol ar y safle gydag arbenigedd mewn goleuo a gosod.

Addysgir gan Arbenigwyr sy'n Arwain y Byd

Cewch eich addysgu gan ffotograffwyr, ffotonewyddiadurwyr, awduron a churaduron sy’n arwain y byd drwy gyfres o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai technegol a fydd yn eich annog i ddatblygu ffyrdd newydd o feddwl am eich ymarfer.

Partneriaethau Eithriadol

Mae ein myfyrwyr ffotograffiaeth a chyn-fyfyrwyr wedi cydweithio â chewri diwydiant fel Wyatt-Clarke+Jones, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Samsung UK.

Fe welwch stiwdios ffotograffiaeth o safon fyd-eang ar y campws a chymuned o bobl angerddol sy'n ymwneud â llunio dyfodol diwylliant gweledol.


Cyrsiau Ffotograffiaeth

Ffotograffiaeth - BA (Anrh)

Dilynwch eich diddordebau i ddod yn ffotograffydd amryddawn sy’n gallu ffynnu mewn unrhyw amgylchedd gwaith.


Ffotograffiaeth Ddogfennol - BA (Anrh)

Gwnewch yr hyn sy’n tanio eich brwdfrydedd gan ddogfennu pobl go iawn a materion pwysig ar y cwrs ffotograffiaeth ddogfennol ymarferol a diddorol hwn.


Ffotograffiaeth Ddogfennol - MA

Mae'r cwrs MA unigryw hwn (sydd ar gael ar-lein ac ar y campws) yn canolbwyntio ar ymgysylltu yn y byd go iawn â materion cymdeithasol a gwleidyddol gan archwilio'r pwnc mewn ffordd archwiliadol a bywiog. Mae'n cynnig dealltwriaeth eang o ffotograffiaeth, ac yn ogystal â ffurfiau ffotograffiaeth ddogfennol mwy traddodiadol, mae'n cynnwys delweddau wedi'u rhwydweithio, data, deunydd archif, sain a delweddau symudol.


Pam PDC?

A person in a red suite, they are standing in front of a factory in a quarry.
  • Roedd 100% o fyfyrwyr BA (Anrh) Ffotograffiaeth PDC yn fodlon ar eu cwrs (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024)

  • Wedi'i achredu'n swyddogol gan Gymdeithas y Ffotograffwyr (AOP)

Pam PDC?

Ar y Brig

yng Nghymru ar gyfer asesu Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024)

  • Roedd 100% o fyfyrwyr BA (Anrh) Ffotograffiaeth PDC yn fodlon ar eu cwrs (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024)

  • Wedi'i achredu'n swyddogol gan Gymdeithas y Ffotograffwyr (AOP)


Astudiwch yng nghanol Caerdydd

Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


Abstract view of the University's Cardiff Campus.

A view of Atrium building in Cardiff

A view of a Cardiff Campus building featuring the University logo.

Exterior view of the University's Cardiff Campus.

A view of the spiral stairwell set in the main foyer of Cardiff Campus.

Diwrnodau Agored i ddod

Communal sofas at the Cardiff Campus.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru