Ffotograffiaeth Ddogfennol
Gwnewch yr hyn sy’n tanio eich brwdfrydedd gan ddogfennu pobl go iawn a materion pwysig ar y cwrs ffotograffiaeth ddogfennol ymarferol a diddorol hwn.
Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
7G84
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Caerdydd
Côd y Campws
B
Pwyntiau UCAS
104
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*
Trosolwg o'r Cwrs
Dewch o hyd i'r straeon sydd angen eu hadrodd ar y cwrs ffotograffiaeth ddogfennol pwrpasol hwn.
Byddwch yn dysgu’r sgiliau ymarferol nid yn unig i gynhyrchu’r delweddau, ond i reoli pob elfen o’r broses, gan ddefnyddio ein hystafelloedd cynhyrchu, ein hystafelloedd tywyll a’n stiwdios saernïo o’r radd flaenaf.
Mae ffotograffiaeth ddogfennol yn ymwneud â bywyd go iawn ac ysbrydoli newid. Cewch archwilio’r byd, wedi eich ysgogi gan chwilfrydedd ac angerdd tuag at deithio. Dysgwch sut i wneud print manwl, llyfrau ffotograffau, creu arddangosfeydd, adrodd straeon digidol, creu ffilmiau dogfen, a mwy.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Mae ein modiwlau’n canolbwyntio ar ffotograffiaeth ddogfennol o’r cychwyn cyntaf, er mwyn rhoi cyfle i chi archwilio pob agwedd ar y maes cyffrous hwn.
Byddwch yn gwneud gwaith ymarferol o'r diwrnod cyntaf, gyda chynnwys ymarferol i'ch helpu i ddysgu'r sgiliau angenrheidiol i allu adrodd straeon yr ydych yn teimlo’n angerddol amdanynt. Yn y flwyddyn gyntaf, bydd dosbarthiadau bach, teithiau maes a chymorth unigol i roi’r dechrau gorau i’ch gyrfa.
Byddwch yn archwilio ffotograffiaeth ddogfennol ar deithiau maes ac yn cymryd rhan mewn prosiectau cydweithredol, gan gynnwys hyfforddiant technegol gan ddefnyddio amrywiaeth o gamerâu a chyfleusterau argraffu.
Byddwch yn archwilio materion cymdeithasol o'ch dewis chi wrth ddysgu sut i greu a dethol delweddau gydag eglurder ac effaith.
Byddwch yn ymchwilio i'ch pwnc eich hun ac yn mynd allan i gymryd ffotograffau. Byddwch yn arbrofi gyda fformatau a chamerâu wrth ddysgu dilyniannu, golygu a strwythuro straeon dogfen yn eu ffurf hir.
Byddwch yn arbrofi gydag arddulliau, yn amrywio o ddogfennu newyddiadurol i greu ffilmiau arbrofol, gan ddysgu delweddau symudol, recordio sain, technegau cyfweld, a sgiliau golygu.
Byddwch yn defnyddio ein casgliad rhagorol yn y llyfrgell i ddarganfod y ffotograffwyr mwyaf cyffrous a phwysig. Byddwch yn archwilio’r dadleuon a'r heriau sy'n llywio ffotograffiaeth.
Byddwch yn meithrin eich sgiliau ymchwil drwy archwilio rôl ffotograffiaeth ddogfennol mewn newid cymdeithasol ac eiriolaeth. Byddwch yn ystyried potensial ffotograffiaeth i amlygu pynciau fel hil, yr argyfwng amgylcheddol a rhywedd.
Mae modd astudio rhan o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg
Bydd arbenigo mewn ffotograffiaeth ddogfennol ‘ffurf hir’ yn rhoi’r cyfle i chi weithio ar syniadau yr ydych yn teimlo’n angerddol amdanynt dros gyfnodau estynedig.
Mae prosiectau byw a gweithdai yn cynnwys dylunio a chreu arddangosfeydd proffesiynol, dylunio llyfrau ffotograffau a goleuo lleoliadau.
Cewch ddewis eich pwnc a'ch proses i greu eich llwybr nodedig chi fel ffotograffydd cyfoes. Byddwch yn creu, dylunio, fframio a gosod arddangosfa broffesiynol.
Byddwch yn datblygu sgiliau adrodd straeon wrth i chi ddylunio, gosod graddfa a dilyniannu eich delweddau i'w cyhoeddi. Byddwch yn dysgu sut i argraffu, cyfansoddi a rhwymo llyfrau ffotograffau.
Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch profiad o ddiwydiant, ac yn datblygu sgiliau sy'n hanfodol i farchnata a hyrwyddo'ch gwaith yn y modiwl hwn sy’n canolbwyntio ar fusnes a gyrfa.
Mae modd astudio rhan o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg
Byddwch yn cysylltu theorïau beirniadol o ffotograffiaeth, ffasiwn, ffilm, celf a hysbysebu â sut yr ydych yn creu, yn disgrifio ac yn rhesymoli eich gwaith ymarferol.
Byddwch yn rhoi damcaniaethau ar waith yn broffesiynol yn eich blwyddyn olaf, pan fydd llawer o fyfyrwyr yn teithio'n rhyngwladol i gynhyrchu eu portffolios.
Byddwch yn creu un neu ddau bortffolio uchelgeisiol o waith ac yn ymateb i friff proffesiynol byw i’ch paratoi ar gyfer gyrfa ddisglair yn y diwydiant ffotograffiaeth.
Byddwch yn dechrau datblygu syniad o bwys ar gyfer eich portffolio prosiectau. Byddwch yn defnyddio eich holl sgiliau a'n cyfleusterau i weithio ar dasg fyw gan osod amserlenni, a mireinio eich sgiliau proffesiynol.
Byddwch yn dilyn eich angerdd i greu eich portffolio terfynol i'w arddangos yn ein digwyddiadau graddio, arddangosfeydd a/neu i’w cyhoeddi.
Cewch ehangu eich dealltwriaeth o brif sylfeini arferion busnes, strategaethau creadigol, marchnata a rhwydweithiau dosbarthu drwy gynnal gwaith ymchwil yn y diwydiant.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Mae ein cwrs yn un o'r cyrsiau ffotograffiaeth ddogfennol a ffotonewyddiaduraeth mwyaf blaenllaw yn y byd. Mae ein tîm amrywiol wedi gweithio yn y diwydiant a’r byd academaidd, gan rychwantu agweddau proffesiynol a damcaniaethol ar ffotograffiaeth ddogfennol. O wneuthurwyr ffotograffiaeth ddogfennol ryngwladol i bobl sydd â phrofiad o ran curadu a ffotograffiaeth cylchgronau, mae gennym brofiad ym mhob agwedd ar ffotograffiaeth ddogfennol a byddwn yn cysylltu hyn â sut rydych chi'n dysgu.
Mae dysgu'n cyfuno darlithoedd, gweithdai, teithiau maes a ffotograffiaeth annibynnol, gan eich annog i archwilio straeon y byd go iawn.
Byddwch yn cynhyrchu portffolios, llyfrau lluniau a gwaith arddangosfa, ochr yn ochr ag aseiniadau ysgrifenedig a myfyriol sy'n cefnogi eich ymarfer. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i fireinio'ch syniadau a'ch dull technegol.
Mae'r asesiad yn seiliedig yn gyfan gwbl ar waith cwrs, heb arholiadau. Byddwch yn cael eich gwerthuso trwy brosiectau ffotograffiaeth ymarferol, o ymchwil gychwynnol a datblygu cysyniadau i ddelweddau terfynol, cyhoeddiadau ac arddangosfeydd.
Mae briffiau byw a phrosiectau sy'n canolbwyntio ar y diwydiant yn rhan o'ch asesiad, tra bod eich blwyddyn olaf yn canolbwyntio ar brosiect portffolio mawr sy'n arddangos eich steil personol ac yn eich paratoi ar gyfer ymarfer proffesiynol.
Gweithiwch mewn stiwdios ffotograffiaeth proffesiynol a labordai digidol gyda mynediad at offer safonol y diwydiant a chymorth technegol arbenigol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau trwy weithgarwch ymarferol mewn saethu, golygu a chynhyrchu gwaith gweledol.
Arweinydd y Cwrs
David Barnes
David Barnes yw Arweinydd y Cwrs BA Ffotograffiaeth Ddogfennol ac mae'n dod â mwy na 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant i'r ystafell ddosbarth. Yn ffotograffydd dogfennol a gwneuthurwr ffilmiau arobryn, mae wedi gweithio i gylchgronau blaenllaw'r DU, wedi cynhyrchu ffilmiau a enwebwyd am BAFTA, ac wedi datblygu prosiectau arddangosfa mawr. Ers ymuno â'r cwrs yn 2006, mae wedi helpu i lunio gyrfaoedd graddedigion sydd wedi mynd ymlaen i fod yn ffotograffwyr dogfennol a ffotonewyddiadurwyr blaenllaw ledled y DU ac Ewrop. Yn frwd dros adrodd straeon ym mhob ffurf, mae David yn cyfuno gwybodaeth arloesol am y diwydiant, rhwydweithiau proffesiynol helaeth, a mentora ymarferol i helpu myfyrwyr i droi eu huchelgeisiau creadigol yn waith effeithiol sy'n diffinio gyrfa.
Gofynion Mynediad
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni104 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
BCC i gynnwys pwnc celf a dylunio perthnasol
Bagloriaeth Cymru:
Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C/B yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC - CC Lefel A gyda phwnc celf a dylunio perthnasol
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Rhagoriaeth mewn pwnc perthnasol
Mynediad i AU:
Pasio Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 104 pwynt tariff UCAS
Safon T:
P (C ac uwch)
Ffioedd a Chyllid
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Pecyn (Gwisg ac Offer)
Camera SLR Digidol neu heb Ddrych gydag opsiwn lens cydgyfnewidiol - hwn i ddechrau'r flwyddyn academaidd ac i'w ddefnyddio fel prif gamera ar gyfer cynhyrchu
Cost: £250-£1000
Teithiau Maes
Digwyddiadau Rhwydwaith Blwyddyn 02
Cost: £300-£400
Teithiau Maes
Taith ryngwladol (Gall pob taith fod yn agored i newid ac ymarferoldeb o ran nifer y myfyrwyr)
Cost: £300 - £400
Deunyddiau *
Cost argraffu papurau / ffilm ac ati dros gyfnod o dair blynedd
Cost: £1000 - £1500
Cyfrifiadur PC neu MAC
Cyfrifiadur PC personol neu MAC sy'n gallu golygu a delweddau a fideo a storio / prosesu delweddau
Cost: £400 - £1500
Arall
Costau cynhyrchu cyhoeddiad blwyddyn olaf a saernïo gwaith sioe graddedigion - y gost yn dibynnu ar natur y gwaith a bwriad y myfyriwr o ran y cam nesaf mewn gyrfa / cyflogadwyedd
Cost: £0 - £600
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Pecyn (Gwisg ac Offer)
Camera SLR Digidol neu heb Ddrych gydag opsiwn lens cydgyfnewidiol - hwn i ddechrau'r flwyddyn academaidd ac i'w ddefnyddio fel prif gamera ar gyfer cynhyrchu
Cost: £250-£1000
Teithiau Maes
Digwyddiadau Rhwydwaith Blwyddyn 02
Cost: £300-£400
Teithiau Maes
Taith ryngwladol (Gall pob taith fod yn agored i newid ac ymarferoldeb o ran nifer y myfyrwyr)
Cost: £300 - £400
Deunyddiau *
Cost argraffu papurau / ffilm ac ati dros gyfnod o dair blynedd
Cost: £1000 - £1500
Cyfrifiadur PC neu MAC
Cyfrifiadur PC personol neu MAC sy'n gallu golygu a delweddau a fideo a storio / prosesu delweddau
Cost: £400 - £1500
Arall
Costau cynhyrchu cyhoeddiad blwyddyn olaf a saernïo gwaith sioe graddedigion - y gost yn dibynnu ar natur y gwaith a bwriad y myfyriwr o ran y cam nesaf mewn gyrfa / cyflogadwyedd
Cost: £0 - £600
Benthyciadau Cyfryngau
Mynnwch fynediad at gamerâu, offer goleuo, sain ac offer recordio o safon y diwydiant, gyda chymorth gan ein gwasanaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim a thechnegwyr profiadol. Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu i arbrofi, mireinio a dod â'ch gwaith yn fyw'n hyderus.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Ffotograffiaeth Ddogfennol
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Caerdydd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion