Prosiect Gorsaf i Orsaf yn rhoi cipolwg ar fywyd yn y cymoedd

14 Mawrth, 2024

Grŵp mawr o bobl y tu allan i orsaf drenau

Mae myfyrwyr Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi teithio ar ddwy o reilffyrdd mwyaf adnabyddus Cymru i gipio portreadau o fywyd bob dydd yng nghymoedd De Cymru.

Fel rhan o’r prosiect Gorsaf i’r Orsaf, mewn cydweithrediad â Trafnidiaeth Cymru, treuliodd y grŵp o fyfyrwyr drid diwrnod yn teithio ar linellau trên Cwm Rhymni a Merthyr, yn cyfarfod â phobl yn y cymunedau cyfagos ac yn dogfennu eu gweithgareddau.

Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, nod y prosiect yw adrodd straeon trwy luniau, gan gynnig cipolwg ar fywyd cyfoes yn y cymoedd – o olygfeydd stryd a thirweddau i bortreadau a chloeon, gwead a manylion. Y gobaith yw y bydd y delweddau eleni yn cael eu cynnwys mewn cylchgrawn digidol ac arddangosfa, a gynhelir ym mhencadlys Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd.

Cafodd y myfyrwyr eu mentora gan y ffotograffwyr dogfennol profiadol Janire Najera a Sebastian Bruno, a aeth pob un â grŵp i wahanol leoliadau ar hyd y llinellau trên a rhoi arweiniad ar ddod o hyd i bynciau diddorol i dynnu lluniau ohonynt.

Mae Leo De Salis, 21, o Croydon, yn fyfyriwr Ffotograffiaeth Dogfennol yn ei ail flwyddyn sy'n cymryd rhan yn y prosiect.

Meddai: “Mae fy ngwaith presennol yn archwilio crefydd a chred, felly rydw i wedi bod yn canolbwyntio ar bobl ysbrydol, cyltiau, eglwysi, a’u mannau addoli gwahanol.

“Rwyf wrth fy modd gyda ffotograffiaeth portread. Gallwch chi adrodd stori rhywun o'u portread. Mae wedi bod yn brofiad gwych teithio ar reilffordd Cwm Rhymni a chwrdd â chymaint o bobl wych.

"Mae’r cymunedau wedi bod mor groesawgar a pharod i’n gadael ni i mewn i’w bywydau.”

Mae Katy Morton, 20, o Morayshire, yr Alban, yn fyfyrwraig Ffotograffiaeth Ddogfennol yn ei thrydedd flwyddyn a theithiodd hefyd ar reilffordd Cwm Rhymni ar gyfer y prosiect.

Meddai: “Rwyf wrth fy modd yn tynnu lluniau o bobl yn eu hamgylchedd eu hunain, felly mae hwn yn gyfle gwych i ychwanegu at fy mhortffolio a gwneud cysylltiadau â phobl mewn gwahanol leoedd.

“Rwy’n dueddol o gael fy nenu at y rhai sy’n malio am natur, cadwraeth, cynaladwyedd – unrhyw beth sy’n dangos adfywiad ein cymunedau. Rwy’n edrych ymlaen at arddangos rhai pynciau gwych yn y prosiect hwn.”

Ychwanegodd Karin Bareman, ymchwilydd a darlithydd mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol yn PDC: “Ar gyfer y prosiect Gorsaf i’r Orsaf eleni, buom yn gweithio’n agos gyda Trafnidiaeth Cymru sydd wedi ein cefnogi’n hael trwy eu rhodd hael o docynnau trên, a wnaeth y prosiect yn llawer mwy hygyrch i’n myfyrwyr gymryd rhan. Roeddent hefyd yn darparu briff byw i fyfyrwyr weithio iddo, a oedd yn cynnig profiad diwydiant gwerthfawr iddynt.

“Roedd staff yn y gorsafoedd trên ar hyd y ddwy reilffordd yn hynod o gymwynasgar, yn cynghori myfyrwyr ar faterion teithio yn ogystal â sefyll am rai ffotograffau, a helpodd i greu portread crwn o gymunedau cymoedd De Cymru a phwysigrwydd llinellau trên yn y rhanbarth.”