/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/41-undergraduate-student/profile-ug-photography-elis-jones-57265.jpg)
Mae cyfleusterau PDC, yn enwedig y camerâu o safon diwydiant ac offer stiwdio, wedi bod yn anhygoel ar gyfer dysgu ymarferol.
Dewis PDC a phrofiad Caerdydd
Dewisais Ffotograffiaeth yn PDC ar ôl mynychu Diwrnod Agored gyda fy ngholeg. Ymwelais ag ychydig o brifysgolion eraill, ond roedd cyfleusterau PDC yn sefyll allan, yn enwedig y camerâu o safon diwydiant ac offer y stiwdio - gan olygu mai nhw oedd y ffit orau i mi. Cefais fy nenu hefyd at y lleoliad; ar ôl treulio amser yng Nghaerdydd o’r blaen, roeddwn i’n gwybod ei fod yn lle cyffrous a chefnogol i fyfyrwyr gyda llawer o gyfleoedd.
Mae byw yng Nghaerdydd yn bendant wedi cyfoethogi fy astudiaethau. Mae'r ddinas yn ddeinamig a chreadigol, gan ei gwneud yn amgylchedd gwych i ddilyn cwrs creadigol. Mae cael fy amgylchynu gan sîn gelfyddydol mor ffyniannus wedi rhoi ysbrydoliaeth a chyfleoedd cyson i ddatblygu fy sgiliau.
Dewch o hyd i'ch cwrsProsiectau diwydiant a nodau'r dyfodol
Un prosiect dw i’n falch ohono oedd prosiect ffotograffiaeth gymunedol y llynedd. Tynnais ffotograffau o Fand Pres Prifysgol Caerdydd, grŵp dw i’n rhan ohono, yn dal portreadau unigol a oedd wedi troi allan yn dda iawn. Mae gweithio ar brosiectau go iawn wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau technegol a chreadigol.
Fy hoff brofiad hyd yn hyn yw taith i Berlin gyda myfyrwyr eraill o Ffotograffiaeth, Cyfathrebu Graffeg, a Marchnata Ffasiwn. Buom yn archwilio amgueddfeydd ac orielau, ac roedd yn ysbrydoledig gweld amrywiol arddulliau a thechnegau ffotograffiaeth yn agos. Ar gyfer y dyfodol, dw i’n ystyried TAR, er fy mod yn cadw fy opsiynau ar agor wrth i mi archwilio lle gall ffotograffiaeth fynd â mi.
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Ffotograffiaeth?
Gyda chyrsiau mewn Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol, mae Prifysgol De Cymru wedi ennill enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ragoriaeth. Fe welwch stiwdios ffotograffiaeth o safon fyd-eang ar y campws a chymuned o bobl angerddol sy'n ymwneud â llunio dyfodol diwylliant gweledol.