/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/41-undergraduate-student/profile-ug-photography-rebecca-miles-57352.jpg)
Mae’r staff wir eisiau i chi lwyddo, ac mae cael yr anogaeth honno wedi gwneud byd o wahaniaeth.
Dod o hyd i fy lle yn PDC
Dechreuodd fy llwybr i mewn i Ffotograffiaeth gyda dal plentyndod fy mhlant. Dros amser, esblygodd yr angerdd hwnnw i ffotograffiaeth tirwedd ac yn y pen draw arweiniodd fi at adrodd storïau creadigol trwy ddelweddau. Roeddwn i eisiau ehangu fy sgiliau, yn enwedig mewn agweddau goleuo a thechnegol, ac roedd ffotograffiaeth yn ymddangos fel y llwybr perffaith.
I ddechrau roeddwn yn bwriadu astudio mewn coleg arall, ond pan nad oedd y cwrs hwnnw’n rhedeg, cysylltais â Peter o PDC, a wnaeth fy ngwahodd am sgwrs a thaith. Roeddwn i wrth fy modd â'r campws o’r funud gyntaf - y natur agored, y gwaith celf, a'r awyrgylch cyfeillgar. Roedd cwrdd â myfyrwyr a oedd yn angerddol am eu gwaith yn gwneud i mi deimlo'n groesawgar ac wedi rhoi sicrwydd i mi mai dyma'r lle iawn.
Dewch o hyd i'ch cwrsTwf creadigol ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol
Mae'r cwrs yma yn canolbwyntio'n fawr ar ddiwydiant, gyda phrosiectau byw fel briff hysbysebu masnachol ar gyfer John Wyatt Clark, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Ffotograffiaeth nodedig, Wyatt-Clarke+Jon. Mae wedi bod yn ffordd wych o ddysgu am y diwydiant creadigol yn ymarferol. Fy hoff ran, serch hynny, fu’r rhyngweithio cymdeithasol, rhannu syniadau gyda chyd-fyfyrwyr, a gweld gwahanol lwybrau creadigol - mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.
Mae cydbwyso bywyd teuluol ag astudiaethau wedi bod yn gromlin ddysgu. Gyda chwech o blant, dw i wedi gorfod meistroli rheoli amser, ac mae amgylchedd cefnogol PDC wedi gwneud hynny'n bosibl. Mae'r staff wir eisiau i chi lwyddo, ac mae cael yr anogaeth honno wedi gwneud byd o wahaniaeth. Yn y dyfodol, dw i’n awyddus i archwilio gwahanol feysydd creadigol, boed ym myd ffilm, teledu neu rywbeth arall. I unrhyw un sy'n ystyried ffotograffiaeth, mae fy nghyngor yn syml: os ydych chi'n angerddol, ewch amdani.
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Ffotograffiaeth?
Gyda chyrsiau mewn Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol, mae Prifysgol De Cymru wedi ennill enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ragoriaeth. Fe welwch stiwdios ffotograffiaeth o safon fyd-eang ar y campws a chymuned o bobl angerddol sy'n ymwneud â llunio dyfodol diwylliant gweledol.