BA (Anrh)

Ffotograffiaeth

Mae angen pobl ar y byd sy'n gallu creu argraff gyda delweddau. Mae ein cwrs yn eich helpu i ddarganfod eich angerdd, eich cryfderau a'ch iaith weledol eich hun wrth i chi weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr yn y diwydiant. Byddwch yn datblygu sgiliau sy’n eich gwneud yn werthfawr ym mhob sector, o’r celfyddydau a hysbysebu i’r byd ffasiwn a gwaith fforensig.

Sut i wneud cais Gwneud Cais trwy UCAS Archebu Lle ar Ddiwrnod Agored Siarad â Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Caerdydd

  • Côd y Campws

    B

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Côd UCAS

    PW36

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Caerdydd

  • Côd y Campws

    B

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £15,850*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Dilynwch eich diddordebau i ddod yn ffotograffydd amryddawn sy’n gallu ffynnu mewn unrhyw amgylchedd gwaith.

Cynlluniwyd Ar Gyfer

Mae ffotograffiaeth ym mhob man! Ein nod yw meithrin eich gweledigaeth unigryw a'ch helpu i ddatblygu fel ffotograffwyr ac unigolion. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i'ch helpu i ganfod eich cryfderau, datblygu hyder a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eich dyfodol. Byddwn yn eich helpu i archwilio eich diddordebau a herio'ch rhagdybiaethau yn ystod taith drawsnewidiol i ddarganfod eich hun.

Achredwyd gan

  • Cymdeithas y Ffotograffwyr

Sgiliau a addysgir

  • Sgiliau technegol (crefft camera a goleuo, delweddau symudol a golygu)
  • Cyfathrebu, cyflwyno a rhwydweithio
  • Ffyrdd creadigol a beirniadol o feddwl
  • Datrys problemau
  • Gweithio'n annibynnol

Llwybrau gyrfa

  • Ffotograffydd (Hysbysebu, Celf, Ffasiwn, Pensaernïaeth, Digwyddiadau ac ati)
  • Ffotograffiaeth Feddygol a Delweddu Fforensig
  • Hysbysebu
  • Cyhoeddi
  • Curadu
  • Atgyffwrdd ffotograffau
  • Technegydd neu Gynorthwyydd Ffotograffiaeth
  • Rheoli Stiwdio neu Ffotograffiaeth
  • Addysg

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Yr achrediad uchaf

Yr unig gwrs yng Nghymru sy’n bodloni meini prawf ansawdd llym y Gymdeithas Ffotograffwyr.

Ffocws ar sgiliau

Cewch ddysgu mwy na sgiliau ffotograffiaeth – byddwch yn datblygu llythrennedd gweledol, arbenigedd technegol, a sgiliau personol.

Cyfleusterau blaenllaw

Cewch fanteisio ar ein dwy stiwdio ac amrywiaeth o offer digidol, analog, goleuo, saernïo ac argraffu.

Trochi mewn creadigrwydd

Opsiynau diddiwedd ar gyfer cydweithio ac ymchwilio gyda’n holl addysg ar gyfer y diwydiannau creadigol ar gael mewn un lleoliad.

Boddhad myfyrwyr

Roedd 100% o fyfyrwyr BA (Anrh) mewn Ffotograffiaeth PDC yn fodlon ar eu cwrs. (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2024)

Staff stood in front of a red backdrop in a photography studio

Trosolwg o'r Modiwl

Ar ôl i chi osod y sylfeini technegol a chysyniadol allweddol yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn rhoi eich sgiliau a’ch gwybodaeth ar waith mewn amrywiol brosiectau sy’n berthnasol i’r diwydiant ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol sydd wedi sefydlu eu hunain yn y maes, gan ddod o hyd i’ch hunaniaeth weledol eich hun yn y broses a chreu corff o waith sy’n cefnogi eich dyheadau gyrfa.

Byddwch yn dysgu sgiliau technegol a syniadau allweddol sy'n berthnasol i'r diwydiant ffotograffiaeth gyfoes drwy brosiectau ymarferol difyr a heriol. Bydd aseiniadau diddorol a phrofiadau yn y diwydiant yn meithrin eich creadigrwydd ac yn eich helpu i ddeall a rheoli'r cyfrwng.

Y Byd Go Iawn?

Datblygwch eich sgiliau camera ac amlygiad wrth i chi archwilio perthynas ffotograffiaeth â’r gwirionedd, realiti a’r byd ffisegol.

Sut Rydym yn Adrodd Storïau

Byddwch yn dysgu am ddulliau o adrodd straeon ffotograffig gan ddefnyddio offer naratif allweddol fel golygu delweddau a dilyniannu.

Golygfeydd Ffug

Cyfle i ymchwilio i ffotograffiaeth nad yw’n adlewyrchu’r byd go iawn, gan newid delweddau drwy oleuo a golygu digidol i greu rhithiau.

Beth Ydyn Ni'n ei Gofio?

Deall sut y mae ffotograffau yn siapio atgofion, yn ein cysylltu â'r gorffennol ac yn llywio ein barn am y presennol a'r dyfodol.

Pwy Ydym Ni

Byddwch yn ymchwilio i sut y mae ffotograffiaeth yn siapio hunaniaeth unigolion a hunaniaeth ddiwylliannol, gan greu delweddau yn seiliedig ar yr hyn yr ydych yn pryderu amdano ac yn ymddiddori ynddo.

Allwn Ni Greu Newid?*

Cyfle i ddangos eich hunaniaeth weledol a fydd yn datblygu fwyfwy gyda phrosiect cydweithredol yn ymwneud ag effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol gadarnhaol.

*Mae modd astudio rhan o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg

Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a dysgu sut y mae’r wybodaeth yn berthnasol i'r diwydiant ffotograffiaeth gyfoes a'r gwahanol swyddi posibl sy'n bodoli yn y maes. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ymhellach ac yn meithrin yr hyder i greu hunaniaeth weledol sy’n unigryw i chi.

Y Cyhoedd

Byddwch yn datblygu eich sgiliau technegol wrth i chi greu ymgyrch fasnachol sy'n hysbysu ac yn addysgu set benodol o bobl mewn cynulleidfa gyhoeddus.

Y Cleient

Cyfle i weithio'n uniongyrchol gyda rhywun nodedig yn y diwydiant i gynhyrchu a gwerthuso ymgyrch hysbysebu ffotograffig fasnachol.

Y Syniad

Byddwch yn defnyddio ffotograffiaeth i drin a thrafod cwestiynau mawr ein hoes, gan feddwl am syniadau, ymchwilio iddynt a datblygu deunydd pwnc.

Y Comisiwn

Cyfle i weithio gyda gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant wrth i chi feddwl am syniad, ei ddatblygu a gwireddu’ch prosiect personol mewn ymateb i leoliad penodol.

Dod o Hyd i’ch Lle*

Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o’r diwydiant wrth ymchwilio i lwybrau gyrfa, ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol, ymweld â gweithleoedd a chael adborth gwerthfawr.

*Mae modd astudio rhan o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg

Byddwch yn gwneud penderfyniadau am y math o waith yr hoffech ei wneud, y themâu yr hoffech eu hystyried, a’r gofod y byddwch yn gweithio ynddo o fewn y diwydiant ffotograffiaeth ehangach. Byddwn yn eich cefnogi i feithrin eich hyder fel unigolyn ac yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant.

Gweledigaeth Annibynnol

Byddwch yn datblygu corff uchelgeisiol, perthnasol a chyfoes o waith sy'n dangos eich galluoedd a'ch unigolyddiaeth.

Darn beirniadol

Cewch ddewis un o ddau fodiwl beirniadol lle y byddwch yn datblygu darn academaidd sy'n cyd-fynd â’ch uchelgeisiau.

Naill ai:

Catalog Beirniadol

Byddwch yn diffinio a datblygu catalog gweledol creadigol sy'n casglu delweddau a syniadau gwrthgyferbyniol gan artistiaid presennol.

Neu:

Papur Beirniadol*

Byddwch yn ysgrifennu traethawd yn ymwneud â phwnc sy'n berthnasol i'ch diddordebau ac yn cefnogi eich gwaith ffotograffig ymarferol.

Paratoi

Byddwch yn cyhoeddi eich gwaith i'r safon uchaf bosibl mewn maes penodol o'r diwydiant, a chyflwyno eich hun yn broffesiynol, yn barod ar gyfer y byd gwaith.

*Mae modd astudio rhan o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg

Wedi'i achredu gan

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau UCAS: 96 (neu uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: CCC i gynnwys pwnc celf a dylunio perthnasol (mae hyn yn cyfateb i 96 pwynt tariff UCAS).
  • Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC Lefel A gyda phwnc celf a dylunio perthnasol (mae hyn yn cyfateb i 96 pwynt tariff UCAS).
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol (mae hyn yn cyfateb i 96 pwynt tariff UCAS).
  • Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS.

Gofynion Ychwanegol:

  • Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
  • Ymgeiswyr yn y DU: Mae'r dewis ar gyfer y cwrs hwn yn seiliedig ar gais addas. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf mynediad, efallai y bydd gofyn i chi hefyd ddarparu portffolio o’ch gwaith i’n helpu i asesu eich addasrwydd ar gyfer y cwrs.
  • Ymgeiswyr sydd tu allan i'r DU: Dewisir ymgeiswyr ar gyfer y cwrs hwn ar sail cais addas a phortffolio o'ch gwaith. Bydd Arweinydd y Cwrs yn cadarnhau bod y portffolio yn addas cyn i’r cynnig cael ei wneud.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£15,850

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Benthyca Offer Cyfryngau

Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.

Benthyca Offer Cyfryngau

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut y byddwch chi'n dysgu

Mae’r asesiadau yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs – nid oes arholiadau ar y cwrs hwn! Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o weithdai, darlithoedd, seminarau a sesiynau tiwtorial ochr yn ochr â dangosiadau, ymweliadau ag orielau, teithiau maes, tasgau go iawn yn y diwydiant, a sgyrsiau gwadd, oll wedi'u cynllunio i gyfoethogi eich profiad a'ch gwybodaeth ymhellach. Mae’r pwyslais ar waith ymarferol, ond mae elfennau damcaniaethol hefyd sy’n rhoi cyd-destun ac yn eich helpu i osod eich gwaith o fewn y byd ffotograffig ehangach. Drwy gydol y cwrs cewch arweiniad a chefnogaeth bwrpasol, ond bydd disgwyl hefyd i chi weithio’n annibynnol a rheoli eich amser eich hun – yn enwedig yn eich blwyddyn olaf pan fyddwch yn creu corff sylweddol o waith.

Staff addysgu

Mae eich tîm addysgu yn cynnwys tiwtoriaid angerddol ac ymroddedig sydd wedi ymroi i'ch datblygiad chi fel ffotograffydd ac unigolyn creadigol. Maen nhw'n rhoi'r gefnogaeth, yr anogaeth a’r rhyddid i chi drafod ac archwilio'r pethau sy'n bwysig i chi. Mae'r holl staff yn ffotograffwyr medrus, yn artistiaid, yn wneuthurwyr ffilm ac yn ysgrifenwyr ar ffotograffiaeth, ac maen nhw wedi ymrwymo i'ch helpu i ddatblygu eich gweledigaeth unigryw mewn ffyrdd sy'n arwain at y canlyniadau gorau i chi. Rydym hefyd yn gwahodd arbenigwyr yn y diwydiant i weithio gyda chi, i roi adborth a chyngor, i siarad am eu gwaith ffotograffig ac i roi mewnwelediad o’u meysydd arbenigol.

Lleoliadau a phrofiad gwaith

Rydym yn ymfalchïo yn y cysylltiadau cryf sydd gennym o fewn y diwydiant ac sy’n cynnig llawer o gyfleoedd i weithio gyda gweithwyr creadigol proffesiynol drwy brosiectau yn y byd go iawn a thrwy fodiwlau sy'n uniongyrchol berthnasol i’r diwydiant. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gydag unigolion a sefydliadau blaenllaw, gan ganolbwyntio ar feysydd o'r diwydiant sy'n eich cyffroi. Mae lleoliadau gwaith mewn stiwdios, digwyddiadau a gweithleoedd yn rhoi dealltwriaeth arbennig i chi o sut mae ffotograffiaeth yn gweithio yn y byd go iawn. Mae gennych hefyd yr opsiwn o gymryd blwyddyn ryngosod rhwng blynyddoedd 2 a 3 lle y gallwch fynd ar leoliad gwaith hirach neu gyfres o leoliadau gwaith mewn meysydd perthnasol o'r diwydiant ffotograffig.

Swyddogion Technegol a Hyfforddwyr

Mae ein cyfleusterau o’r un safon ag a ddefnyddir yn y diwydiant, ac maent yn caniatáu i chi wthio ffiniau gweledol gyda dwy stiwdio broffesiynol, ystafell olygu, ystafell argraffu flaenllaw, ac ystafell dywyll. Gallwch hefyd fanteisio ar fynediad i weithdy saernïo, torri â laser, ac argraffu 3D. Cewch rwydd hynt i ddefnyddio ein storfa o gamerâu, sy'n cynnwys brandiau fel Phase One, Fuji, Canon, Nikon, Hasselblad, a Sony, ynghyd ag offer goleuo gan Profoto, Dracast, ac Aputure. Byddwch wedi eich lleoli yng Nghaerdydd, ac felly byddwch yn agos at dirweddau trefol, gwledig ac arfordirol syfrdanol, a byddwch yn cydweithio â phobl o gefndiroedd a meysydd creadigol amrywiol.

Offer

Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.

Lleoliadau

Rydym yn ymfalchïo yn ein cysylltiadau da â'r diwydiant ac yn darparu llawer o gyfleoedd i'n myfyrwyr weithio gyda gweithwyr proffesiynol creadigol trwy brosiectau byw a modiwlau sy'n berthnasol i'r diwydiant. Mae ymgysylltiad uniongyrchol ag unigolion a sefydliadau yn y diwydiant, gan gynnwys lleoliadau posibl, yn rhan bwysig o'r ail flwyddyn, ac mae'n gallu eich helpu i archwilio meysydd y diwydiant sydd o ddiddordeb i chi. Hefyd, gallwch ddewis Blwyddyn Rhyngosod rhwng blynyddoedd 2 a 3 er mwyn ymgymryd â lleoliad am gyfnod hirach yn un o feysydd perthnasol y diwydiant.

Cyfleusterau

Yn PDC, gallwch fanteisio ar ein holl gyfleusterau rhagorol o safon y diwydiant. Mae'r cyfleusterau hyn yn efelychu'r diwydiant ac yn cynnwys dwy stiwdio ffotograffig broffesiynol, ystafell olygu, ystafell argraffu o'r radd flaenaf, ystafell dywyll, siop offer â stoc dda yn ogystal â gweithdy gwneuthuriad, offer torri laser a pheiriant argraffu 3D. Mae ein siop yn cynnwys camerâu o bob fformat gan wneuthurwyr blaenllaw megis Phase One, Fuji, Canon, Nikon, Hasselblad a Sony. Hefyd, gallwch ddefnyddio offer fflach a goleuadau parhaus a gynhyrchir gan Profoto, Dracast ac Aputure. Gallwch fenthyg offer o'n siop heb unrhyw gost ychwanegol. Mae pob un o'n lleoedd ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Ar y brig yng Nghymru ar gyfer asesu Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024).

Roedd 100% o fyfyrwyr BA (Anrh) Ffotograffiaeth PDC yn fodlon ar eu cwrs. (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024).


Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd i raddedigion

Mae’r llythrennedd gweledol, y ddealltwriaeth ddiwylliannol, yr hyder creadigol a’r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu meithrin ar y cwrs yn eich paratoi ar gyfer nifer fawr o lwybrau gyrfa ar draws y sectorau artistig, masnachol a chyhoeddus. Gallech ddod yn ffotograffydd medrus neu’n artist annibynnol, ond gall y sgiliau y byddwch yn eu meithrin hefyd eich paratoi ar gyfer cynhyrchu celf, rheoli stiwdio, ffotograffiaeth feddygol a fforensig, curadu, ysgrifennu a chyhoeddi, addysgu, marchnata a’r cyfryngau. Mae'r posibiliadau'n enfawr. Mae'r radd BA mewn Ffotograffiaeth hefyd yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig mewn meysydd creadigol mewn sefydliadau nodedig.

Cefnogaeth gyda’ch gyrfa

Bydd staff y cwrs, sydd â phrofiad ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau creadigol, yn cefnogi eich dyheadau o ran gyrfa gan ddefnyddio eu cysylltiadau â diwydiant. Mae’r cwrs yn cynnwys modiwlau penodol at ddibenion rhoi’r offer a'r wybodaeth am y diwydiant sydd eu hangen arnoch i ddilyn eich breuddwydion. Mae lleoliadau gwaith, tasgau yn y byd go iawn, a chydweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn darparu profiad gwirioneddol ac yn ehangu eich rhwydwaith. Byddwch hefyd yn cael aelodaeth pedair blynedd o Gymdeithas y Ffotograffwyr i gael arweiniad a chymorth gyda’ch gyrfa. Bydd ein tîm gyrfaoedd ymroddedig yn eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd ac yn eich helpu i farchnata eich hun yn effeithiol.

Partneriaid yn y diwydiant

Rydym yn falch o’n rhwydwaith eang, sy’n cynnwys unigolion blaenllaw fel yr asiant enwog John Wyatt Clark a chyn-fyfyrwyr blaengar fel Harry Rose, sylfaenydd Darwin Studios. Mae ein cysylltiadau â chyrff fel Cymdeithas y Ffotograffwyr a Ffotogallery, a phartneriaethau gyda G.F.Smith, Taylor Brothers, a Blurring the Lines, yn cynnig manteision sylweddol. Yn aml mae ein myfyrwyr yn rhagori mewn cystadlaethau fel Portrait of Britain, yr Eisteddfod Genedlaethol, a Gwobrau Myfyrwyr Cymdeithas y Ffotograffwyr, lle enillodd un myfyriwr wobr ‘Y Gorau o’r Gorau’ yn ddiweddar. Mae ein cysylltiadau rhyngwladol yn golygu y gellir mynd ar deithiau creadigol i Budapest, Berlin, ac Amsterdam.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.