Seicoleg
Eisiau tanio'ch dyfodol trwy ddod o hyd i'ch pwrpas? Mae seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru yn agor drysau i fwy o yrfaoedd nag yr oeddech chi'n meddwl oedd yn bosibl.
Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
Mae ein graddau Seicoleg wedi'u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Byddwch yn cael cynnig profiad clinigol ar y campws a bydd gennych fynediad i ystod o gyfleoedd cyffrous fel rhan o'n cynllun Pscychology Plus.
Dod o hyd i'ch cwrs
Mae’r cwrs hwn yn archwilio egwyddorion gwyddonol dadansoddi ymddygiad a thechnegau therapiwtig, gan eich helpu i ddod o hyd i ymyriadau effeithiol i newid ymddygiad.
Byddwch yn archwilio damcaniaethau seicolegol allweddol plentyndod a llencyndod, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol, yn ogystal ag iechyd meddwl a lles. Mae'r cwrs yn archwilio plant a phobl ifanc o fewn eu cyd-destunau ehangach, gan gynnwys dylanwad adfyd, perthnasoedd a newid cymdeithasol.
Meithrin hyder academaidd a sgiliau astudio craidd wrth ddatblygu sylfaen gref mewn datblygiad plentyndod, gan eich paratoi i symud ymlaen i'r radd lawn a gwaith gyda phlant a theuluoedd yn y dyfodol.
Rydym yn credu bod agor meddyliau yn agor drysau. Dyna pam mae ein gradd arloesol BSc Seicoleg, sydd wedi’i hachredu gan y BPS, yn cyfuno dysgu ymarferol ag amrywiaeth eang o gyfleoedd ar leoliad a phrosiectau mewn bywyd go iawn. Mae’r cyfan yn rhoi’r profiad y mae ei angen ar ein graddedigion Seicoleg i gael dechrau llwyddiannus i’w gyrfaoedd.
Byddwch yn gweithio gyda’n partneriaid allanol ar friffiau byw a phrosiect traethawd hir cymhwysol, gan roi’r cyfle i chi ysbrydoli newid gwirioneddol yn ystod eich astudiaethau.
Ewch ati i feithrin yr hyder academaidd a'r sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth lefel prifysgol, wrth ddatblygu sylfaen gref ar gyfer astudiaeth yn y dyfodol a gyrfa mewn seicoleg.
Cyfunwch brofiad ymarferol gydag ymchwil fanwl i sefyll allan wrth ymgeisio am hyfforddiant proffesiynol neu swyddi lefel cynorthwyydd.
Byddwch yn cwblhau’r holl brif feysydd angenrheidiol mewn seicoleg i gael achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain.
Byddwch yn edrych ar sut mae’r meddwl dynol yn gweithio, ac yn archwilio sut mae hyn yn effeithio ar batrymau ymddygiad troseddol, o’r cymhelliad i droseddu hyd at ddelio â chyhuddiadau anwir a’r effaith ar ddioddefwyr.
Byddwch hefyd yn astudio datblygiad niwroamrywiol ac amrywiaeth o anhwylderau datblygiadol, gan ddysgu sut mae’r rhain yn cael eu hasesu a pha ymyriadau y gallant eu cynnwys.
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi profiad i chi o ddefnyddio strategaethau asesu ac ymyrryd yn y maes dadansoddi ymddygiad mewn ffordd foesegol ar draws ystod o leoliadau a phoblogaethau.
Oeddech chi'n gwybod?
Mae llawer o’n graddau Seicoleg wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
Mae Prifysgol De Cymru yn gartref i amrywiaeth o gyfleusterau seicoleg rhagorol o safon diwydiant
Oeddech chi'n gwybod?
Ar y Brig
YNG NGHYMRU AM ASESU AC ADBORTH (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023)
Mae llawer o’n graddau Seicoleg wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
Mae Prifysgol De Cymru yn gartref i amrywiaeth o gyfleusterau seicoleg rhagorol o safon diwydiant
Astudiwch yng nghanol Pontypridd
Mae ein campws yn Nhrefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.
Diwrnodau Agored i ddod