Ar ôl astudio seicoleg yn y coleg, roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau helpu pobl eraill oedd yn wynebu'r un heriau.
Troi cystadlu yn radd
Roeddwn i'n arfer cystadlu mewn ffensio, yn cynrychioli Loegr a Phrydain, ond roeddwn i'n cael trafferth gydag ochr feddyliol perfformio—yn enwedig dan bwysau mewn digwyddiadau i ddethol cystadleuwyr. Byddwn i’n perfformio’n dda gydol y tymor, ond ar yr adeg hollbwysig, byddwn i'n ei chael hi'n anodd. Doedd seicoleg chwaraeon ddim yn cael ei thrafod yn eang bryd hynny, felly dechreuais ddarllen amdano fy hun ac ymddiddori yn y ffordd mae'r meddwl yn effeithio ar berfformiad. Ar ôl astudio seicoleg yn y coleg, roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau helpu pobl eraill oedd yn wynebu'r un heriau.
Ymwelais â sawl prifysgol cyn dewis PDC. Roedd eu diwrnod agored yn rhyngweithiol, ac roedd y staff wir yn gofalu am y myfyrwyr. Roedd hyd yn oed pennaeth yr adran seicoleg chwaraeon yn cofio fy enw, ac fe gredodd hynny argraff fawr arna i. Roedd y gefnogaeth honno i’w theimlo dryw gydol fy ngradd, ac ar ôl cwblhau fy astudiaethau israddedig, gadawais i wneud gradd meistr cyn dychwelyd i wneud PhD, diolch i'r cysylltiadau a gynhaliais gyda fy narlithwyr.
Dewch o hyd i'ch cwrsParatoi at yrfa yn y brifysgol
Yn ystod fy astudiaethau, cefais brofiad ymarferol trwy leoliadau fel mentora myfyrwyr ysgol a gweithio yn y clinig dadansoddi ymddygiad. Gwnaeth y profiadau hyn helpu i ddatblygu fy sgiliau ymwneud â phobl, er nad oedden nhw’n uniongyrchol gysylltiedig â chwaraeon. Roedd gen i fynediad hefyd at gyfleusterau gwych, gan gynnwys labordai seicoleg, a oedd yn cynnig cyfleoedd dysgu ymarferol.
Nawr, rwy'n seicolegydd chwaraeon cymwys sy'n gweithio gyda thimau ac yn gorffen fy PhD. Y wers fwyaf dwi wedi ei dysgu yw gofyn am help—fe wellodd fy ngraddau yn ddramatig wedi i fi wneud hynny. Fe wnaeth y gefnogaeth yn PDC wahaniaeth mawr, a byddwn yn ei hargymell i unrhyw un sy'n chwilio am yrfa mewn seicoleg.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Seicoleg?
Mae seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru yn agor drysau i fwy o yrfaoedd nag yr oeddech chi'n meddwl oedd yn bosibl, gan ganiatáu bod ein graddedigion yn gallu ystyried mwy na'r meysydd traddodiadol yn unig a gwneud gwahaniaeth yn y broses.