PGDip

Ymarfer Dadansoddi Ymddygiad dan Oruchwyliaeth

Mae'r Diploma Ôl-raddedig mewn Dadansoddi Ymddygiad yn cynnig cyfle unigryw i ennill profiad mewn dadansoddi ymddygiad o dan oruchwyliaeth fanwl UKBA (ardystiedig).

Sut i wneud cais Archebu lle ar noson agored Siarad â ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £7,373*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £11,934*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi profiad i chi o ddefnyddio strategaethau asesu ac ymyrryd yn y maes dadansoddi ymddygiad mewn ffordd foesegol ar draws ystod o leoliadau a phoblogaethau.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gwrs meistr mewn Dadansoddi Ymddygiad ar hyn o bryd neu sydd wedi cwblhau cwrs o’r fath ac sy’n ymrwymedig i gael ardystiad fel dadansoddwr ymddygiad yn y DU.

Llwybrau Gyrfa 

  • Gweithio yn y GIG 
  • Gweithio ym maes Addysg 
  • Ymarferydd Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol
  • Ymgynghorydd annibynnol 
  • Ymchwilydd Dadansoddi Ymddygiad 

Sgiliau a addysgir

  • Datrys problemau lefel uwch
  • Canfod datrysiad uwch yn seiliedig ar dystiolaeth – lefel uwch
  • Ymchwil a gwerthuso 
  • Rhesymu gwyddonol lefel uwch 
  • Cyfathrebu proffesiynol 

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cwrs wedi'i ddylunio a'i gyflwyno gan gyfrifwyr gweithredol ac mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu gyrfaoedd.


Uchafbwyntiau'r Cwrs

Dysgu ar Leoliad

Lleoliadau dysgu gwarantedig mewn amrywiaeth o leoliadau sy'n cynnig y cyfle i chi ddefnyddio strategaethau asesu ac ymyrryd amrywiol.

Clinig Dadansoddi Ymddygiad PDC

Cyfle gwarantedig i weithio yn ein clinig ar safle’r Brifysgol, gan ddarparu therapi ymyrraeth gynnar i blant ifanc ag awtistiaeth.

Ymarfer dan Oruchwyliaeth

Byddwch yn cael eich cefnogi a’ch goruchwylio gan UKBA (ardystiedig), a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a myfyrio ar eich ymarfer.

Cysylltiadau a Phartneriaethau Allanol

Mae ein cysylltiadau ag asiantaethau a phartneriaid allanol yn eich helpu i ddod o hyd i leoliadau amrywiol er mwyn cronni’r oriau lleoliad sydd eu hangen ar gyfer ardystiad proffesiynol.

Trosolwg o'r Modiwl

Mae’r cwrs hwn yn un o’r ychydig rai yn y DU i gynnig opsiwn ymarferol ar gyfer ymarfer dan oruchwyliaeth, gan roi cyfle unigryw i feithrin dealltwriaeth soffistigedig, hanfodol o gymhwyso egwyddorion dadansoddi ymddygiad mewn ystod o leoliadau. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn bodloni’r cymwyseddau ymarfer sy’n ofynnol gan Gymdeithas Dadansoddi Ymddygiad y DU (UK-SBA). Drwy gydol eich lleoliadau gwaith, byddwch yn gweithio o fewn tri modiwl sy'n eich helpu i ganolbwyntio ar y cymwyseddau y bydd gofyn i chi eu bodloni ar gyfer ardystiad proffesiynol.

Ymarfer dan Oruchwyliaeth mewn Dadansoddi Ymddygiad
Byddwch yn datblygu eich strategaethau asesu ac ymyrryd sylfaenol ar gyfer dadansoddi ymddygiad, ac yn dysgu sut i ddefnyddio a chyfleu’r strategaethau hyn yn foesegol mewn amrywiol leoliadau a sefyllfaoedd.

Dadansoddi Ymddygiad ar Waith
Byddwn yn edrych ar ddefnyddio strategaethau dadansoddi ymddygiad craidd (a nodir gan safonau cymhwysedd a goruchwyliaeth UKBA [ardystiedig]) ar draws ystod o leoliadau, poblogaethau a phroblemau ymddygiad. 

Profiad Lefel Uwch o Ddadansoddi Ymddygiad
Byddwch yn datblygu cymwyseddau uwch mewn dadansoddi ymddygiad, gan gynnwys strategaethau asesu ac ymyrryd a allai fod yn hynod arbenigol i boblogaethau, lleoliadau neu ymddygiadau penodol. 

 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Fel cwrs sy’n seiliedig ar leoliadau, byddwch yn cymryd rhan mewn detholiad o leoliadau dysgu ar draws lleoliadau amrywiol, gan neilltuo tuag 20 awr yr wythnos i brofiad ymarferol. Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn cael arweiniad a chefnogaeth gan ein goruchwylwyr ar lefel doethuriaeth. Drwy fodloni’r safonau cymhwysedd sefydledig, byddwch yn gymwys i wneud cais am gymhwyster llawn fel dadansoddwr ymddygiad yn y DU.

Mae’r dulliau asesu yn cynnwys adroddiadau clinigol, gwerthusiadau adfyfyriol o brofiadau ar leoliad, adolygiadau achos, a gwerthusiadau ar sail perfformiad yn ystod eich cyfnodau ar leoliad.

Staff addysgu

Byddwch yn cael eich addysgu gan dîm o ddadansoddwyr UKBA (ardystiedig) a Dadansoddwyr Ymddygiad wedi’u Hardystio gan y Bwrdd sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu hymchwil a'u cyfraniadau clinigol yn y maes. Mae eu harbenigedd yn cwmpasu meysydd megis addysg, rheolaeth ystafell dosbarth, datblygiad iaith, a hyfforddiant staff. Gyda thros 30 mlynedd o brofiad cyfunol fel addysgwyr, ymchwilwyr, a chlinigwyr, maent yn dod â chyfoeth o wybodaeth a dealltwriaeth ymarferol i'ch profiad dysgu.

Lleoliadau

Ar y cwrs hwn sy’n seiliedig ar leoliadau, byddwch yn symud i leoliad newydd bob tua chwe mis, a fydd yn eich galluogi i gefnogi pobl ag amrywiaeth o ymddygiadau heriol gyda strategaethau asesu ac ymyrryd ar gyfer dadansoddi ymddygiad. Gall cleientiaid gynnwys unigolion ag anhwylderau neu anawsterau amrywiol, gan gynnwys awtistiaeth, anableddau dysgu, anawsterau cymdeithasol ac emosiynol, ADHD, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall lleoliadau gynnwys ysgolion, Gwasanaeth Anableddau Dysgu'r GIG, a chanolfannau triniaeth preswyl.

Bydd y tîm addysgu yn trefnu eich lleoliadau, gan gynnwys lleoliadau allanol a lleoliad mewnol gwarantedig yng Nghlinig Dadansoddi Ymddygiad y Brifysgol, lle y byddwch yn cynorthwyo i ddarparu therapi ymyrraeth gynnar i blant ifanc ag awtistiaeth. Ni yw’r unig Brifysgol yn y DU sydd â chlinig dadansoddi ymddygiad ar y campws.

Cyfleusterau

Ni yw'r unig Brifysgol yn y DU sydd â Chlinig Dadansoddi Ymddygiad ar y campws. Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i weithio yn y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar. Mae gennym hefyd nifer o leoliadau gwaith oddi ar y campws, gyda lleoliadau presennol a blaenorol yn cynnwys ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Carchar y Parc, a grwpiau ymgynghori arbenigol ar ddadansoddi ymddygiad.

Mae ein Hystafell Niwroseicoleg Gwybyddol yn cynnwys offer seicoleg arbenigol megis offer llwybr llygad, EEG (electroenceffalogram) ac ECG (electrocardiogram).

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae galw cynyddol yn y DU am weithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi mewn dadansoddi ymddygiad, yn enwedig y rhai sydd wedi'u hardystio. Cyflogir dadansoddwyr ymddygiad mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth a/neu anableddau dysgu, y GIG, ysgolion a chyfleusterau triniaeth breswyl ar gyfer pobl ag ymddygiad heriol. Mae rhai dadansoddwyr ymddygiad hefyd yn gweithio fel ymgynghorwyr annibynnol yn eu meysydd arbenigedd.

Llwybrau gyrfa posibl

Bydd cwblhau’r cwrs PGDip Ymarfer Dadansoddi Ymddygiad dan Oruchwyliaeth hwn yn cynnig ffordd unigryw i chi fodloni’r safonau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer ardystiad proffesiynol i weithredu fel dadansoddwr ymddygiad cwbl gymwys yn y DU.

Cymorth gyrfaoedd

Drwy gydol y cwrs, bydd y tîm addysgu yn hwyluso cyflwyniadau i bartneriaid allanol, gan ganiatáu i chi rwydweithio a chreu cysylltiadau proffesiynol yn ystod eich cyfnodau ar leoliad. Mae llawer o raddedigion wedi sicrhau gyrfaoedd drwy'r cysylltiadau hyn, gan weithio mewn lleoliadau fel carchardai, ysgolion, a chanolfannau preswyl ar gyfer triniaeth. Yn ogystal, mae tîm Gyrfaoedd PDC ar gael i'ch cefnogi i ymchwilio i gyfleoedd gyrfa, chwilio am swyddi, a pharatoi ar gyfer cyfweliadau, yn ystod eich astudiaethau ac ar ôl graddio.

Gofynion mynediad

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Rhaid i fyfyrwyr fod wedi cofrestru ar hyn o bryd neu wedi cwblhau cwrs MSc mewn Dadansoddi Ymddygiad i wneud cais am y rhaglen hon. Dylai myfyrwyr heb gymwysterau MSc o'r fath nodi nad yw'r rhaglen hon yn cwmpasu'r gofynion cwricwlwm a addysgir sy'n ofynnol ar gyfer ardystiad UKBA a dylent ystyried ein rhaglen gydymaith MSc Dadansoddi Ymddygiad a Therapi i gyflawni'r gofyniad hwn.

Gofynion ychwanegol 

Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£7,373

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£7,373

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£11,934

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£11,934

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Er bod yr adnoddau hyn yn y rhan fwyaf o achosion yn fwy na digon i’ch cefnogi i gwblhau eich cwrs, mae'n bosib y bydd rhai costau ychwanegol, gorfodol a dewisol, ar gyfer pethau fel teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer. 

*Hanfodol  

 

Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein

Cost: £64.74

Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.

Cost: £16

Mae'r gost yn dibynnu ar le mae'r lleoliad. 

Angen ei adnewyddadwy bob blwyddyn mae'r myfyriwr ar y cwrs. 

Cost: £100

Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gofrestru gyda Chymdeithas Dadansoddi Ymddygiad y DU fel Aelodau Ymarferol cyn dechrau eu hymarfer dan oruchwyliaeth. Dylid adnewyddu’r gofrestriad bob blwyddyn yn ystod y cwrs.

Cost: £50 y flwyddyn

Two psychology students studying at a desk surrounded by books and psychology equipment

Psychology Plus

Mae ein graddau seicoleg yn cynnig profiad ymarferol, ynghyd â chyfleoedd am ddim trwy Psychology Plus i roi hwb i'ch sgiliau a sefyll allan mewn swyddi neu astudiaethau pellach.

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

DRWY GYDOL Y CWRS, CEWCH EICH CEFNOGI GAN NIFER O WEITHWYR PROFFESIYNOL A PHROFIADOL YN Y MAES A CHEWCH GYFLEOEDD I RWYDWEITHIO A MEITHRIN PERTHNASOEDD PROFFESIYNOL.

Samantha Jade Evans

PGDip Ymarfer Dadansoddi Ymddygiad dan Oruchwyliaeth

YR ELFEN ORAU O’R CWRS HWN YW’R FFAITH EI FOD YN CYNNIG MYNEDIAD I LEOLIADAU GWAHANOL AC AMRYWIAETH O ORUCHWYLWYR.

Beth Games

PGDip Ymarfer Dadansoddi Ymddygiad dan Oruchwyliaeth

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.