Seicoleg Glinigol
Rhowch sbardun i’ch rhagolygon drwy ein gradd MSc Seicoleg Glinigol, sy’n cynnig sylfaen gref i chi mewn dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl, anhwylderau seicolegol, a phroblemau ymddygiad.
Sut i wneud cais Archebu Lle ar Noson Agored Sgwrsio â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/psychology/msc-clinical-psychology.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Cyfunwch brofiad ymarferol gydag ymchwil fanwl i sefyll allan wrth ymgeisio am hyfforddiant proffesiynol neu swyddi lefel cynorthwyydd.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Wedi'i dylunio ar gyfer graddedigion Seicoleg neu Gydanrhydedd, bydd y rhaglen feistr a addysgir hon mewn Seicoleg Glinigol yn cryfhau eich ceisiadau am swyddi Seicolegydd Cynorthwyol a Chynorthwyydd Ymchwil mewn lleoliadau clinigol, tra'n darparu sylfaen gref ar gyfer astudio tuag at ddoethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol.
Llwybrau Gyrfa
- Rhaglenni doethurol mewn seicoleg glinigol
- Seicolegydd cynorthwyol
- Cynorthwyydd ymchwil
Y sgiliau a addysgir
- Cyfathrebu
- Ymholi a Dadansoddi
- Datrys Problemau Creadigol
- Myfyrio Beirniadol
- Sgiliau Ymchwil
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r cwrs hwn yn tynnu ar ymchwil ac arbenigedd cymhwysol seicolegwyr ym meysydd seicoleg glinigol, iechyd, chwaraeon a fforensig. Byddwch yn dysgu am ystod eang o anhwylderau seicolegol, materion dibyniaeth fel caethiwed alcohol a chaethiwed gamblo, a'r ymyriadau sy’n cael eu defnyddio i helpu pobl. Caiff y cwrs ei addysgu dros flwyddyn (amser llawn) neu ddwy flynedd (rhan-amser).
Blwyddyn Un
Dulliau Ymchwil mewn Seicoleg Glinigol: Mesur a Materion Proffesiynol
Hanes, Cysyniadau a Phynciau Llosg mewn Iechyd Meddwl
Ymyriadau
Safbwyntiau ar Anhwylderau Seicolegol
Caethiwed, Dibyniaeth, a Gwyredd
Traethawd hir mewn Seicoleg Glinigol
Bydd myfyrwyr amser llawn yn cwblhau'r holl fodiwlau sydd wedi’u rhestru yn ystod blwyddyn un, gan gynnwys eu prosiect ymchwil traethawd hir a fydd yn dechrau yn y tymor cyntaf. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cwblhau'r modiwlau canlynol ym mlwyddyn un: Safbwyntiau ar Anhwylderau Seicolegol; Hanes, Cysyniadau a Phynciau Llosg mewn Iechyd Meddwl; Caethiwed, Dibyniaeth, Gwyredd; Ymyriadau.
Dulliau Ymchwil mewn Seicoleg Glinigol: Mesur a Materion Proffesiynol
Byddwch yn dysgu i ddylunio astudiaethau Seicoleg Glinigol, gan gynnwys dylunio astudiaethau trawstoriadol, hydredol ac un achos. Cewch edrych ar ddulliau ymchwil ansoddol allweddol, materion mesur, a moeseg broffesiynol, gyda ffocws ar godau ymddygiad Cymdeithas Seicolegol Prydain ac ystyriaethau moesegol.
Hanes, Cysyniadau a Phynciau Llosg mewn Iechyd Meddwl
Yn y modiwl hwn, byddwch yn edrych ar safbwyntiau hanesyddol a chyfredol ar iechyd meddwl, yn ogystal â thriniaethau ar gyfer problemau iechyd meddwl amrywiol, gan ganolbwyntio ar arferion moesegol a sut i gymhwyso'r wybodaeth hon i'ch gyrfa yn y dyfodol.
Ymyriadau
Byddwch yn ymdrin ag ystod o ymyriadau iechyd meddwl yn y modiwl hwn, gan gynnwys triniaethau a therapïau ffarmacolegol, biolegol, seicolegol ac ymddygiadol, ac yn edrych ar sut i gymhwyso'r wybodaeth hon mewn cyd-destunau go iawn.
Safbwyntiau ar Anhwylderau Seicolegol
Byddwch yn dysgu am ystod o anhwylderau seicolegol o ystod o safbwyntiau, gan gynnwys anhwylderau datblygiadol, ffobiâu, anhwylderau bwyta, seicosis, anhwylderau hwyliau, anhwylderau cwsg, ac anhwylderau personoliaeth.
Caethiwed, Dibyniaeth, a Gwyredd
Byddwch yn datblygu gwybodaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol o ystod o ymddygiadau gorfodaethol a chaethiwed, gan gynnwys y rhesymau pam mae rhai pobl yn methu â hunan-reoleiddio ac effaith caethiwed.
Traethawd hir mewn Seicoleg Glinigol
Byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol ar bwnc o ddiddordeb, gan ddatgelu tystiolaeth newydd, syniadau a goblygiadau proffesiynol yn eich dewis faes mewn seicoleg glinigol.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Caiff cwrs MSc Seicoleg Glinigol ei gyflwyno drwy amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, astudio unigol, a goruchwylio traethawd hir un-i-un neu mewn grŵp bach. Byddwch hefyd yn dysgu trwy sesiynau dan arweiniad myfyrwyr a bydd rhai elfennau yn cael eu cyflwyno ar-lein. Mae'r addysgu yn cael ei gynnal ar 2 ddiwrnod yr wythnos.
Gall asesiadau gynnwys traethodau, adolygiad llenyddiaeth systematig, adroddiadau ymchwil, a dadansoddi astudiaeth achos, yn ogystal â thraethawd hir 15,000 o eiriau. Bydd yr amrywiaeth o ddulliau addysgu ac asesu a ddefnyddir yn meithrin ystod o sgiliau sy'n drosglwyddadwy i'r gweithle a/neu hyfforddiant proffesiynol pellach.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/71-study-spaces/student-life-study-spaces-treforest-psychology-44478.jpg)
Staff addysgu
Mae'r staff addysgu, athrawon gwadd ac arbenigwyr allanol ar y cwrs MSc Seicoleg Glinigol yn ymchwilwyr gweithredol yn eu meysydd ymarfer clinigol a byddwch yn elwa o'u harbenigedd mewn ystod o bynciau perthnasol gan gynnwys caethiwed, anhwylderau bwyta, straen, iechyd atgenhedlu, iechyd meddwl, a hunanladdiad. Mae gan y tîm addysgu brofiad o gyhoeddi a gallant roi gwybodaeth uniongyrchol i chi am seicoleg glinigol broffesiynol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/psychology/subject-psychology-staff-44541.jpg)
Lleoliadau
Cewch eich annog a'ch cynorthwyo i gymryd rhan yn y nifer o gyfleoedd lleoliad gwaith gwirfoddol sy’n cael eu cynnig drwy ein cynllun Seicoleg a Mwy, gan gynnwys lleoliadau clinigol gwirfoddol trwy ein Clinig Dadansoddi Ymddygiad ar y safle. Lle bo nhw ar gael, byddwn yn eich cynorthwyo i gael lleoliadau gwaith drwy ein cysylltiadau ag ymddiriedolaethau’r GIG yn lleol, gan ychwanegu elfennau gwerthfawr at CV y sawl sydd ag uchelgais i fod yn Seicolegydd Clinigol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/psychology/subject-psychology-students-robin-andrews-44343.jpg)
Cyfleusterau
Mae ein labordy seicoleg pwrpasol yn llawn o offer o safon y diwydiant y byddwch yn eu defnyddio drwy gydol eich astudiaethau, yn ogystal ag ystafelloedd cyfweld ac arsylwi sy'n caniatáu i chi, fel ymchwilydd, arsylwi ymddygiad dynol mewn modd naturiol trwy sgrin unffordd. Mae rhai o'r offer y byddwch chi'n eu defnyddio yn cynnwys offer olrhain llygaid, peiriannau Electro-enseffalograffeg (EEG), a systemau BIOPAC. Fel rhan o'n mannau Seicoleg pwrpasol, byddwch hefyd yn gallu archebu lle tawel i astudio a chael mynediad i'r gofod dysgu cymdeithasol pwrpasol sydd â chyfrifiaduron a gwerslyfrau seicoleg.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/psychology/Psychology-_44401.jpg)
Gofynion mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd Anrhydedd 2: 2 o leiaf mewn Seicoleg neu Seicoleg anrhydeddau mawr / ar y cyd.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£1,200
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
*Rhwymedig
Ni fydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar fyfyrwyr er mwyn cwblhau unrhyw fodiwlau'n llwyddiannus. Bydd angen gwiriad DBS os bydd myfyrwyr yn dewis cwblhau lleoliad yn ein Clinig Ymyrraeth Gynnar, neu os ydynt yn cwblhau prosiect traethawd hir sy'n cynnwys cyswllt â phlant a phobl ifanc neu oedolion sy'n agored i niwed. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post, a’r ffi weinyddol ar-lein.
Cost: £64.74 y flwyddyn ac os oes angen i’r gwasanaeth diweddaru ddiweddaru DBS ar ôl iddo ddod i ben, y gwasanaeth diweddaru yw £16.
Mae hyn yn ddewisol, ond gall fod o fudd i fyfyrwyr sy'n bwriadu cwblhau lleoliadau neu weithio mewn maes lle mae gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol. Noder, rhaid ymuno â'r gwasanaeth o fewn 19 diwrnod o dderbyn tystysgrif gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cost: £16
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr sy'n gwneud traethawd hir gyda sefydliad allanol dalu costau sy'n gysylltiedig â theithio.
Cost: Amrywiol
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.