MSc

Seiciatreg Glinigol

Mae iechyd meddwl yn dod yn fwyfwy heriol ac amlddisgyblaethol yn ymarferol, felly mae'n hanfodol gallu ymdrin yn hyderus â sefyllfaoedd cymhleth y gallech eu hwynebu fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Caiff y cwrs meistr hwn ei gynnal ar y cyd â'n Diploma MSc partner cydweithredol, ac mae'n ddilyniant o'r Diploma Ôl-raddedig mewn Seiciatreg Glinigol, ac ar ôl cwblhau'r cwrs byddwch yn derbyn gradd Meistr mewn Seiciatreg Glinigol gan Brifysgol De Cymru.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Bydd y cwrs hwn yn galluogi'r rheini sy'n gweithio mewn gofal sylfaenol neu unedau arbenigol i gymryd diddordeb arbenigol mewn seiciatreg glinigol ac, yn y pen draw, i wella eu gofal i gleifion sy'n arddangos symptomau seiciatrig.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Llwybrau Gyrfa

  • Seiciatrydd Clinigol 

Sgiliau a addysgir

  • Asesu cleifion
  • Diagnosis
  • Ymchwil

Trosolwg o'r Modiwl

Modiwl Un - Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol 

Byddwch yn dysgu mewn ffordd debyg i sut y gwnaethoch chi ddysgu ar y Diploma Ôl-raddedig; fodd bynnag, mae'r modiwl hwn yn cael ei gynnal dros 12 wythnos. 

Modiwl Dau - Prosiect Proffesiynol 

I gynhyrchu'r prosiect proffesiynol, byddwch yn parhau i astudio ar-lein; fodd bynnag, mae llawer o'r gwaith yn hunangyfeiriedig. Bydd gennych diwtor ymroddedig y bydd disgwyl i chi ryngweithio ag ef bob wythnos. Byddwch yn dewis prosiect penodol ac yn cyflwyno crynodeb/cynnig prosiect o oddeutu 1,200 o eiriau. 

Mewn partneriaeth â

Gofynion mynediad

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol.

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.

I astudio dros flwyddyn bydd angen i chi fod wedi cwblhau'r Diploma Ôl-raddedig mewn Seiciatreg Glinigol yn llwyddiannus - naill ai gyda Diploma MSc neu brifysgol arall yn y DU wedi cwblhau modiwlau tebyg. Gallwn drafod hyn gyda chi fel rhan o'ch cais.

 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Disgwylir i fyfyrwyr ryngweithio â'u tiwtor yn wythnosol yn yr 8 wythnos gyntaf. Yna byddwch yn dewis prosiect penodol ac yn cyflwyno crynodeb/cynnig prosiect (tua 1,500 o eiriau).

Ar ôl i'r cynnig gael ei gymeradwyo, cwblheir y prosiect proffesiynol (10,500 o eiriau) ei hun trwy arweiniad a goruchwyliaeth ar-lein a gynigir gan y tiwtor.

Cyfleusterau

Cyflwynir y cwrs Seiciatreg Glinigol drwy Moodle – ein platfform dysgu rhithwir. Byddwch yn cael arweiniad llawn ar sut i wneud y gorau o Moodle, gan gynnwys y fforymau trafod a'r fforwm cymdeithasol.

Bydd gennych fynediad at holl ddeunyddiau dysgu'r Brifysgol, gan gynnwys cyfnodolion a chyhoeddiadau ar-lein.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cymorth gyrfaoedd

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna