Mae PDC yn cynnig cymorth anhygoel, yn academaidd ac mewn sawl ffordd arall, gan sicrhau ei fod yn lle delfrydol i wireddu eich dyheadau.
Pam y dewisais astudio Seicoleg yn PDC
Rwyf bob amser wedi ymddiddori yn y ffordd mae'r meddwl yn gweithio a deall pobl eraill, felly pan astudiais Seicoleg at Safon Uwch A, dyma oedd fy hoff bwnc. Wrth i fi ddechrau ystyried cyrsiau prifysgol a mynd i Ddiwrnodau Agored, cynyddodd fy niddordeb, a sylweddolais y gallwn ddilyn Seicoleg fel gradd a gyrfa. Dyma gadarnhau yr hyn roeddwn i eisoes yn teimlo felly – roedd y cyfan yn teimlo'n iawn.
Dewisais PDC oherwydd ei bod yn cynnig y cyfan roedd ei angen arna i. Mae'n ddigon agos i gartref i gadw’r cysylltiad yn fyw, ond yn ddigon pell i sicrhau annibyniaeth. Roedd gan y campws naws mor gartrefol, ac roedd opsiynau prif bwnc/pwnc atodol Seicoleg wir yn apelio. Roedd astudio Seicoleg eang ochr yn ochr ag anhwylderau datblygiadol yn fy ngalluogi i gyfuno fy angerdd â nodau gyrfa, gan wneud PDC yn berffaith ar fy nghyfer i.
Roedd y diwrnodau agored yn allweddol yn fy mhenderfyniad. Yn yr un cyntaf, fe gwrddais â darlithwyr, gweld y cyfleusterau, a chael dealltwriaeth glir o'r cwrs. Ar yr ail ddiwrnod, fe es i weld y llety a darganfod gweithgareddau allgyrsiol, a oedd yn gwneud i PDC deimlo fel teulu.
Dewch o hyd i'ch cwrsManteisio ar bob cyfle sydd wedi dod i fy rhan
Yn ystod fy nghyfnod yma, rwyf wedi cael cyfleoedd anhygoel, gan gynnwys lleoliad yn y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar yng Nglyn-taf. Yno, cefais brofiad ymarferol mewn dadansoddi ymddygiad a chwrdd ag arbenigwyr y diwydiant sy’n gweithio ar ymchwil arloesol.
Fy hoff ran o'r cwrs oedd ymweld â'r Cyfleuster Hydra, lle chwaraeais rôl seicolegydd addysg yn archwilio anhwylderau datblygiadol—uchafbwynt a ddaeth â phopeth roeddwn i wedi'i ddysgu yn yr ystafell ddysgu yn fyw.
I unrhyw un sy'n ystyried Seicoleg, fy nghyngor i yw ymchwilio i'r cwrs yn drylwyr, gofyn llawer o gwestiynau, a chofleidio pob cyfle. Mae PDC yn cynnig cymorth anhygoel, yn academaidd ac mewn sawl ffordd arall, gan sicrhau ei fod yn lle delfrydol i wireddu eich dyheadau.
Bywyd fel Myfyriwr SeicolegDiddordeb mewn Seicoleg?
Mae seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru yn agor drysau i fwy o yrfaoedd nag yr oeddech chi'n meddwl oedd yn bosibl, gan ganiatáu bod ein graddedigion yn gallu ystyried mwy na'r meysydd traddodiadol yn unig a gwneud gwahaniaeth yn y broses.