Ar gael yn Clirio BSc (Anrh)

Seicoleg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

Bydd y flwyddyn sylfaen hon yn eich helpu i feithrin eich hyder a gosod y sylfeini i chi gwblhau gradd lawn mewn Seicoleg yn llwyddiannus.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Clywch gan y myfyriwr, Anodiwe, am sut beth yw astudio Seicoleg yn PDC.
Clywch gan y myfyriwr, Anodiwe, am sut beth yw astudio Seicoleg yn PDC.

Côd UCAS

C80F

Dyddiad Cychwyn

Medi 2026

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

48

Ffioedd

Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*

Côd UCAS

C80F

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

48

Trosolwg o'r Cwrs

Ewch ati i feithrin yr hyder academaidd a'r sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth lefel prifysgol, wrth ddatblygu sylfaen gref ar gyfer astudiaeth yn y dyfodol a gyrfa mewn seicoleg.

Mae’r Flwyddyn Sylfaen mewn Seicoleg yn rhan o raglen radd integredig pedair blynedd ac fe’i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd heb fodloni’r meini prawf derbyn ar hyn o bryd ar gyfer mynediad uniongyrchol i’r cwrs BSc (Anrh) Seicoleg.


Pam astudio'r cwrs hwn?

Ennill sgiliau allweddol

Datblygu ystod o sgiliau a rhinweddau a fydd yn cyfoethogi eich dysgu ym mlwyddyn un y radd a thu hwnt.

Addysgir gan arbenigwyr

Mae myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd â phrofiad perthnasol yn y diwydiant sy’n gefnogol ac yn ymroddedig i’w helpu i lwyddo.

Cyfleoedd Lleoliad

Bydd myfyrwyr sy’n symud ymlaen i’r radd BSc (Anrh) Seicoleg yn cael y cyfle i ymgymryd â lleoliadau amrywiol, gan roi mantais gystadleuol iddynt ar ôl graddio.

Cyfleusterau Seicoleg Eithriadol

Mae gan ein myfyrwyr fynediad i labordy Seicoleg pwrpasol, clinig dadansoddi ymddygiad, ystafelloedd astudio y gellir eu harchebu a gofod dysgu cymdeithasol.

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Mae Blwyddyn Sylfaen Busnes yn meithrin hyder academaidd a dealltwriaeth fusnes graidd trwy ddysgu ymarferol, myfyrio a chydweithio, gan eich paratoi i symud ymlaen i astudio busnes ar lefel gradd gyda ffocws, gwydnwch a phwrpas.

Am fanylion y modiwlau y byddwch yn eu hastudio ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gweler prif dudalen y cwrs.

Datblygwch sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio ar sail tystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.

Gan ganolbwyntio ar drosedd a chyfiawnder yn y gymdeithas gyfoes, mae'r modiwl hwn yn archwilio dylanwad y cyfryngau, hunaniaeth a barn y cyhoedd. Byddwch yn archwilio dadleuon allweddol ac yn cynnig diwygiadau ar sail tystiolaeth i ddeall cyfiawnder yn y gymdeithas gyfoes.

Archwiliwch sut mae plentyndod wedi newid dros amser, gan archwilio meddylwyr, syniadau a pholisïau allweddol. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a chyflwyno wrth ymchwilio i sut mae cymdeithasau wedi deall a llunio bywydau plant.

Mae’r Her Effaith yn fodiwl prosiect Blwyddyn Sylfaen lle mae myfyrwyr yn gweithio mewn timau i fynd i'r afael â materion y byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, gwaith tîm a datrys problemau’n gyfrifol.

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Mae addysgu yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol, wrth feithrin hyder academaidd, meddwl beirniadol a hunanfyfyrio.

Byddwch chi'n dysgu trwy brofiadau dysgu gweithredol, byd go iawn sy'n annog chwilfrydedd, cydweithio a meddwl annibynnol. Byddwch chi'n gweithio'n annibynnol a chydag eraill trwy drafodaethau, gweithgareddau ymarferol a myfyrio dan arweiniad, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i gydnabod cynnydd a chynllunio'r camau nesaf, gan gefnogi lles, gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer lefel uwch o astudio.

Byddwch chi'n cael eich asesu mewn ffyrdd gwahanol, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau ar sail gwaith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm a chyfathrebu. Byddwch chi hefyd yn myfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau prifysgol ac offer digidol.

Unwaith y byddwch yn symud ymlaen i’r radd Seicoleg , byddwch yn cael cyfleoedd penodol i gymhwyso a deall theori seicolegol i’r gweithle, gyda ffocws ychwanegol ar y cyfleoedd hyn yn y modiwl Ymarfer Proffesiynol a Chyflogadwyedd. Gallwch hefyd ddewis gwirfoddoli am fwy na’r oriau gofynnol yn y lleoliad a ddyrannwyd i chi, neu wirfoddoli i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau ar draws gwahanol leoliadau.

Rydym am eich helpu i wella eich set sgiliau i agor cymaint o ddrysau â phosibl ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Gallwch hefyd ddod o hyd i amrywiaeth o opsiynau ar gyfer hyn trwy eich cynllun Psychology Plus, gan gynnwys gwirfoddoli, interniaethau a chyrsiau byr.

Mae’r cyfleusterau Seicoleg yn PDC yn amhrisiadwy i’n helpu i ddeall ymddygiad dynol. Mae ein labordy Seicoleg pwrpasol yn llawn offer o safon diwydiant y byddwch yn eu defnyddio trwy gydol eich astudiaethau, yn ogystal ag ystafelloedd cyfweld ac arsylwi sy’n caniatáu i chi, fel ymchwilydd, arsylwi ymddygiad dynol mewn modd naturiol trwy sgrin unffordd. Mae rhai o’r offer y byddwch yn eu defnyddio yn cynnwys offer tracio llygaid, peiriannau Electroenceffalograffeg (EEG), a systemau BIOPAC. Fel rhan o’n gofod Seicoleg pwrpasol, byddwch hefyd yn gallu archebu lle ar gyfer astudio tawel a chael mynediad i’r gofod dysgu cymdeithasol pwrpasol gyda chyfrifiaduron a gwerslyfr Seicoleg.

Arweinydd y Cwrs

Emma Wheeler

Emma Wheeler yw Arweinydd y Cwrs ar gyfer y Flwyddyn Sylfaen. Mae gan Emma flynyddoedd lawer o brofiad addysgu, gan weithio gyda myfyrwyr sydd wedi bod allan o addysg ers peth amser. Mae amgylcheddau ystafell ddosbarth yn y Flwyddyn Sylfaen yn sensitif, yn galonogol ac yn ymatebol i ystod eang o anghenion gan ein myfyrwyr, ac yn eich helpu i fynd ymlaen i'r cwrs gradd yn hyderus. 

I gael manylion Arweinydd y Cwrs ar y rhaglen radd, ewch i dudalen y cwrs.

Rhagolygon Gyrfa

Gall gradd mewn Seicoleg fynd â chi i amrywiaeth o yrfaoedd diddorol ar ôl i chi raddio. Byddwn yn rhoi cyfleoedd cyffrous i chi wella’ch sgiliau sy’n edrych yn wych ar eich CV a’ch helpu i sefyll allan wrth chwilio am swydd.

Dy yrfa yn y dyfodol

P’un a oes gennych diddordeb mewn gyrfaoedd Seicoleg traddodiadol, gweithio yn y proffesiwn cymdeithasol a lles, neu ddadansoddi ymddygiad dynol, bydd gennych ddigon o gyfleoedd i wella’ch rhagolygon gyrfa yn y dyfodol a’ch darparu â’r sgiliau i wneud argraff ar ddarpar gyflogwyr. Gallech hefyd symud ymlaen i radd ymchwil Seicoleg fel PhD neu Radd Meistr trwy Ymchwil.

Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:

Iechyd meddwl
Gwaith cymdeithasol
Addysgu
Gwaith ymchwil
Y Gwasanaeth Carchardai

A female psychology students stands confidently in front of the camera whilst smiling

"Mae PDC yn cynnig cymorth anhygoel, yn academaidd ac mewn sawl ffordd arall, gan sicrhau ei fod yn lle delfrydol i wireddu eich dyheadau."

Emily Campbell, Myfyrwraig Seicoleg

Dysgu mwy

Disgwyliadau cyflog

Gall gradd Seicoleg agor cyfleoedd ar draws Seicoleg a'r sector ehangach. Mae gyrfaoedd Seicoleg yn cynnig potensial enillion cryf:

 

Cyflog canolrifol
DU: £30.2k y flwyddyn
Cymru: £29.8k y flwyddyn

 

Cyfanswm y swyddi yn 2025
DU: 273,583
Cymru: 12,937

 

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Partneriaid Diwydiant

Mae ein partneriaethau allanol yn cael eu trosoli trwy gydol eich astudiaethau, gan roi’r cyfle i chi weithio gyda chleientiaid y byd go iawn a gwneud cysylltiadau a all fod o gymorth gyda’ch gyrfa. Byddwch yn gallu arddangos eich sgiliau i’n partneriaid ar nifer o adegau yn ystod eich gradd a chewch eich annog i ryngweithio’n uniongyrchol â phartneriaid.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

48 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

  • Lefel A: DD i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
  • BTEC: BTEC Diploma Estynedig Pas Pas Pas.
  • Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU mewn Mathemateg/ Gwyddoniaeth gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.
  • Lefel T: P (D neu E)

Gofynion ychwanegol

Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU £ 9,790

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

Ffioedd Dysgu Blwyddyn Sylfaen

Lle bo'n berthnasol, mae'r Ffioedd Dysgu i fyfyrwyr rhyngwladol fel y rhestrir yn adran y ffioedd uchod.

Gwybodaeth Bellach

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.

DBS Manylach *
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein

Cost: £64.74

Gwasanaeth diweddaru’r DBS *
Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.

Cost: £16

Arall: Teithio i'r Lleoliad*
Mae'r gost yn dibynnu ar leoliad y lleoliad.

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 17,200

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

Ffioedd Dysgu Blwyddyn Sylfaen

Lle bo'n berthnasol, mae'r Ffioedd Dysgu i fyfyrwyr rhyngwladol fel y rhestrir yn adran y ffioedd uchod.

Gwybodaeth Bellach

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.

DBS Manylach *
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein

Cost: £64.74

Gwasanaeth diweddaru’r DBS *
Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.

Cost: £16

Arall: Teithio i'r Lleoliad*
Mae'r gost yn dibynnu ar leoliad y lleoliad.

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

#1

Y brifysgol orau yng Nghymru a'r 24ain allan o 123 o brifysgolion yn y DU.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Three USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

10 pwnc wedi'u rhestru yn y 10 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, gan gynnwys dau yn y safle cyntaf.

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

 Ar y brig yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd a'r 7fed yn y DU (HEBCIS)

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Seicoleg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

    • Llawn Amser, 4 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Seicoleg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

    • Llawn Amser, 4 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Straeon Myfyrwyr

Ar ôl gadael yr ysgol heb ddigon o gymwysterau i fynd yn syth ymlaen i radd prifysgol lawn, rhoddodd y cwrs hwn y cyfle i mi adeiladu fy sgiliau hyd at lefel gradd a dilyn maes arall rwy’n frwd drosto, sef seicoleg ac ymddygiad dynol.

Griff Myfyriwr Blwyddyn Sylfaen

Gwelf proffil myfyriwr

Storïau Llwyddiant

"Ymwelais â sawl prifysgol cyn dewis PDC. Roedd eu diwrnod agored yn rhyngweithiol, ac roedd y staff wir yn gofalu am y myfyrwyr. Roedd hyd yn oed pennaeth yr adran seicoleg chwaraeon yn cofio fy enw, ac fe gredodd hynny argraff fawr arna i."

Odette Hornby Myfyriwr Seicoleg

Gweld proffil y myfyriwr

Storïau Llwyddiant

"Fe ddysgodd PDC i mi werth gofyn am gymorth, ac roedd hynny’n newid mawr i mi. Dysgais i ofyn am help pan oedd ei angen arnaf, boed yn gymorth academaidd neu bersonol. Fy nghyngor i bobl eraill sy'n gadael gofal ac yn ystyried addysg uwch? Peidiwch â gadael i'ch cefndir eich dal yn ôl."

Antigone Cooper Graddedig Seicoleg

Gweld proffil y myfyriwr

Straeon Myfyrwyr

Fy hoff agwedd ar astudio Seicoleg oedd yr amrywiaeth. Roeddwn wrth fy modd yn dysgu am y gwahanol feysydd ac yn archwilio'r ffyrdd diddorol yr oedden nhw’n cysylltu â’i gilydd ac weithiau'n mynd yn groes i’w gilydd.

Jack Erasmus Graddedig Seicoleg

Graddedig Seicoleg

Storïau Llwyddiant

“Fe wnes i fwynhau fy ngradd mewn seicoleg yn fawr ac roeddwn i’n meddwl bod y cwrs yn cael ei addysgu'n dda iawn. Yn gynnar yn ystod fy nghwrs Seicoleg, sylweddolais fy mod i eisiau cwblhau Doethuriaeth, felly gofynnais i'r Gyfadran a oedd unrhyw rolau cynorthwyydd ymchwil ar gael."

Robin Myfyriwr Seicoleg

Gweld proffil y myfyriwr

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?