Robin

Sylweddolais yn gynnar fy mod i eisiau cwblhau Doethuriaeth

Seicoleg
Psychology student, Robin, smiles for a selfie

Roeddwn i’n hapus i aros yn PDC oherwydd yr amgylchedd dysgu cadarnhaol a chefnogol.


Troi gradd israddedig yn ymchwil 

Astudiodd Robin Seicoleg yn PDC cyn symud ymlaen i gwblhau Doethuriaeth, sy’n cael ei hariannu gan brosiect KESS. 

“Fe wnes i fwynhau fy ngradd mewn seicoleg yn fawr ac roeddwn i’n meddwl bod y cwrs yn cael ei addysgu'n dda iawn. Yn gynnar yn ystod fy nghwrs Seicoleg, sylweddolais fy mod i eisiau cwblhau Doethuriaeth, felly gofynnais i'r Gyfadran a oedd unrhyw rolau cynorthwyydd ymchwil ar gael. Gweithiais ar brosiect seicoleg gymdeithasol gyda Dr Dan Bowers a chyd-ysgrifennu papur ymchwil gyda Dr Phil Tyson. Phil Tyson a argymhellodd y prosiect Doethuriaeth KESS i mi, gan wybod bod gennyf ddiddordeb yn yr agweddau seicolegol ar iechyd atgenhedlol menywod. Roeddwn yn hapus i aros yn PDC oherwydd yr amgylchedd dysgu cadarnhaol a chefnogol.” 

Mae fy mhrosiect yn ymwneud â gwerthuso traciwr symptomau ar-lein ar gyfer menywod â symptomau menopos. Rwyf wedi cofrestru ar gwrs Doethuriaeth KESS sy’n golygu bod fy mhrosiect yn cael ei gefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n gydweithrediad rhwng PDC a phartner sy’n gwmni, sef www.healthandher.com. 

Mae wedi bod yn braf gweithio gyda thîm ehangach y cwmni, yn ogystal â sefydliadau allanol. Rwy'n gobeithio y bydd fy ymchwil yn dangos y gall ymyriadau syml, ar-lein fod yn fuddiol ac yn gost effeithiol o ran gwella canlyniadau iechyd i fenywod sy’n mynd drwy’r menopos. 

Ar ôl fy noethuriaeth, rwy’n awyddus i barhau ag ymchwil ym maes iechyd atgenhedlol menywod, o bosibl mewn swydd ôl-ddoethurol. Drwy gydol fy noethuriaeth, rwyf hefyd wedi gweithio fel darlithydd sy’n cael tâl fesul awr, ac rwy’n awyddus i barhau â hyn a gweld i ble y gall fy arwain.” 

Ymcwhil yn PDC

Diddordeb mewn Seicoleg?

Mae seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru yn agor drysau i fwy o yrfaoedd nag yr oeddech chi'n meddwl oedd yn bosibl, gan ganiatáu bod ein graddedigion yn gallu ystyried mwy na'r meysydd traddodiadol yn unig a gwneud gwahaniaeth yn y broses.