Jack Erasmus

Rwyf wedi tyfu fel person yn ystod fy nhair blynedd yn PDC

Seicoleg
Graduate Jack wearing his graduation cap and robe

Pan gyrhaeddais y flwyddyn olaf, roeddwn yn gwneud pethau a fyddai wedi codi ofn arnaf yn fy mlwyddyn gyntaf!


Dewis astudio Seicoleg yn PDC 

Graddiodd Jack Erasmus o’r cwrs BSc (Anrh) Seicoleg gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf. 

"Ar ôl mynychu Diwrnod Agored yr Adran Seicoleg, roeddwn i'n gwybod mai dyma lle yr oeddwn i eisiau astudio. Roeddwn i'n hoff iawn o’r ffaith bod y campws yn eithaf bach, oherwydd ei fod i gyd yn agos at ei gilydd a’i bod hi’n hawdd dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas. Hefyd, roedd yn ymddangos fel amgylchedd diddorol a chefnogol. 

Fy hoff agwedd ar astudio Seicoleg oedd yr amrywiaeth. Roeddwn wrth fy modd yn dysgu am y gwahanol feysydd ac yn archwilio'r ffyrdd diddorol yr oedden nhw’n cysylltu â’i gilydd ac weithiau'n mynd yn groes i’w gilydd. 

Roedd y cwrs tair blynedd wedi’i drefnu’n glyfar iawn. Wnes i erioed deimlo fy mod yn cael fy ngwthio'n rhy bell - rydych chi'n symud ymlaen yn naturiol ac yn dod yn fwy cymwys wrth i'r cwrs fynd yn ei flaen. Pan gyrhaeddais y flwyddyn olaf, roeddwn yn gwneud pethau a fyddai wedi codi ofn arnaf yn fy mlwyddyn gyntaf! 

Roedd y gefnogaeth i fyfyrwyr yn anhygoel. Roedd y darlithwyr yn gymwynasgar iawn ac yn gwneud yn siŵr bod pawb yn gwneud eu gorau glas. Os oeddech chi ar ei hôl hi gyda rhywbeth, roedden nhw’n eich helpu chi i ddal i fyny." 

Dewch o hyd i'ch cwrs

ROEDD Y GEFNOGAETH I FYFYRWYR YN ANHYGOEL. ROEDD Y DARLITHWYR YN GYMWYNASGAR IAWN AC YN GWNEUD YN SIŴR BOD PAWB YN GWNEUD EU GORAU GLAS.

Jack Erasmus

Graddedig Seicoleg

Fy nhair agwedd orau ar astudio Seicoleg yn PDC  

  • Mae’ gefnogaeth i fyfyrwyr heb ei ail. 
  • Darganfod y maes roeddwn i'n ei garu fwyaf a chael cipolwg ar sut beth yw bod yn Seicolegydd Clinigol. 
  • Y cyfleoedd a gynigir drwy Psychology Plus. Roedd fy nghyfnod ar leoliad yn y Clinig Dadansoddi Ymddygiad ar gyfer plant ag Awtistiaeth wedi helpu'n sylweddol o ran fy ngyrfa a’m datblygiad personol - yn ogystal â bod yn bleserus a rhoi boddhad personol i mi. 
Bywyd fel Myfyriwr Seicoleg

Diddordeb mewn Seicoleg?

Mae seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru yn agor drysau i fwy o yrfaoedd nag yr oeddech chi'n meddwl oedd yn bosibl, gan ganiatáu bod ein graddedigion yn gallu ystyried mwy na'r meysydd traddodiadol yn unig a gwneud gwahaniaeth yn y broses.