Seicoleg gyda Throseddeg
Mae ein gradd BSc (Anrh) Seicoleg gyda Throseddeg, sydd wedi’i hachredu gan y BPS, yn cyfuno dau faes sy’n cyd-fynd â’i gilydd yn dda i roi cefndir traws- ddisgyblaethol i chi a fydd yn hwb i’ch gyrfa yn y dyfodol.
Sut i wneud cais Gwneud Cais trwy UCAS Archebu Lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/psychology/bsc-psychology-with-criminology-and-criminal-justice.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
C9M7
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Côd UCAS
C8M7
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£785*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Byddwch yn edrych ar sut mae’r meddwl dynol yn gweithio, ac yn archwilio sut mae hyn yn effeithio ar batrymau ymddygiad troseddol, o’r cymhelliad i droseddu hyd at ddelio â chyhuddiadau anwir a’r effaith ar ddioddefwyr.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
I Bwy Mae’r Cwrs Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn seicolegydd troseddol sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol. Mae’r dull traws-ddisgyblaethol yn eich galluogi i edrych ar ymddygiad troseddol drwy lens seicolegol er mwyn deall y cymhellion sy’n sail i droseddau a chymhellion y bobl sy’n cyflawni troseddau, ynghyd â deall goblygiadau hynny a’r camau ataliol posibl.
Achredwyd gan
- Cymdeithas Seicolegol Prydain
Llwybrau Gyrfa
- Seicoleg fforensig
- Y Gwasanaeth Carchardai
- Y Gwasanaeth Prawf
- Cymorth i ddioddefwyr
Y sgiliau a addysgir
- Meddwl yn feirniadol
- Cyfathrebu
- Datrys problemau’n greadigol
- Cyfweld gwybyddol
- Gwaith ymchwil
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Byddwch yn dilyn 80 credyd o fodiwlau seicoleg ynghyd â 40 credyd o fodiwlau troseddeg. Byddwch yn dechrau edrych ar brif feysydd seicoleg ac yn cael profiad o waith ymchwil seicolegol o lygad y ffynnon. Byddwn hefyd yn eich cyflwyno i’r system cyfiawnder troseddol ac yn edrych ar batrymau troseddu ac ymddygiad troseddol ac effaith hynny ar gymdeithas.
Safbwyntiau mewn Troseddeg: Troseddeg Ddatblygiadol
Yn canolbwyntio ar ganfod ffactorau risg/ffactorau gwarchodol a pham mae pobl yn cyflawni troseddau (rhesymau datblygiadol, biolegol, seicolegol a chymdeithasol), gan ystyried dulliau o ymyrryd er mwyn atal pobl rhag aildroseddu.
Y Tu Mewn i’r System Cyfiawnder Troseddol
Awn ar daith drwy’r system cyfiawnder troseddol, o arestio, y llys a’r ddalfa i ryddhau a pharôl. Byddwn yn ystyried y prosesau cyfreithiol ym mhob cam ac yn edrych ar sut gall gwahaniaethau unigol effeithio ar sut bydd pobl yn cael eu trin.
Safbwyntiau Beirniadol mewn Seicoleg
Cyflwyniad i brif safbwyntiau’r BPS ynghylch seicoleg (yn y meysydd biolegol, gwybyddol, cymdeithasol a datblygiadol) ac effaith gwahaniaethau unigol ar ymddygiad, gyda phwyslais ar y prif ddulliau damcaniaethol a sut mae’r rhain yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth.
Dulliau Ymchwilio a Thystiolaeth mewn Seicoleg*
Byddwn yn edrych ar y broses o wneud gwaith ymchwil moesegol mewn seicoleg a dadansoddi’r data a gynhyrchir. Byddwn yn edrych ar ddulliau meintiol ac ansoddol ill dau, gan eich paratoi i wneud gwaith ymchwil seicolegol yn y dyfodol.
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Gan barhau â’r rhaniad o 80 a 40 credyd fel yn y flwyddyn gyntaf, byddwn yn parhau i edrych ar brif feysydd seicoleg, gan eich cyflwyno hefyd i rai o’r prif faterion a thrafodaethau sy’n ymwneud â charchardai a phlismona, ailsefydlu ar ôl rhyddhau pobl, a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Carchardai a Charcharu
Byddwn yn canolbwyntio ar y prif faterion a’r prif drafodaethau ynghylch carchardai. Er enghraifft, pam ein bod yn eu defnyddio a’r hanes y tu ôl iddynt. Byddwch hefyd yn edrych ar faterion ehangach sy’n gysylltiedig â system y carchardai, fel ailsefydlu carcharorion.
Deall Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar drais yn erbyn menywod (cam-drin domestig a thrais rhywiol), pa mor gyffredin yw hyn, a materion sy’n gysylltiedig â rhoi gwybod am drais o’r fath. Byddwn yn gwahodd siaradwyr allanol yn rheolaidd i’ch helpu i ddysgu yn y modiwl hwn.
Ymarfer Proffesiynol a Chyflogadwyedd
Bydd cyfle i chi gael profiad gwaith, yn ogystal â meithrin sgiliau trosglwyddadwy a thrafod sut i ddod o hyd i waith.
Tystiolaeth a Dulliau Datblygedig mewn Seicoleg
Byddwn yn edrych ar ddadansoddiadau ystadegol ac ansoddol manylach, gan ddatblygu ar y dulliau a gafodd sylw ym mlwyddyn gyntaf eich gradd.
O Gelloedd i Ymwybyddiaeth
Byddwn yn datblygu ar safbwyntiau beirniadol seicoleg a gafodd sylw yn eich blwyddyn gyntaf, gan edrych ar sut mae bioleg a’r ymennydd yn dylanwadu ar ymddygiad (e.e. sylw, cof, gwneud penderfyniadau), gan ystyried gwahaniaethau rhwng unigolion.
Datblygiad dros Rychwant Oes yn y Cyd-destun Cymdeithasol
Byddwn yn datblygu eich safbwyntiau beirniadol mewn seicoleg, gan edrych ar y ffactorau cymdeithasol a datblygiadol sy’n dylanwadu ar ein hymddygiad (e.e. agweddau a phriodoli), a chan ystyried ffactorau unigol.
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gwneud traethawd estynedig gorfodol sy’n werth 40 o gredydau, yn ogystal â modiwl seicoleg fforensig penodedig am 20 credyd a modiwl troseddeg penodedig am 20 credyd, gan edrych ar ymchwiliadau troseddol. Bydd hynny ochr yn ochr â dau fodiwl dewisol o’ch dewis chi, un mewn seicoleg a’r llall mewn troseddeg.
Ymchwiliadau Troseddol Cymhwysol (Penodedig)
Awn ar daith o leoliad y drosedd i’r llys barn gan edrych ar wahanol fathau o droseddau, fel trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a lladdiadau. Dyma gyfle i archwilio sut gallwn feddwl yn feirniadol am y broses ymchwilio gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn.
Deall Lladdiadau (Dewisol)
Byddwn yn edrych ar ystyron cymdeithasol a chyfreithiol gwahanol fathau o laddiadau (gwrthdaro, dial, corfforaethol ac ati), gan roi sylw i achosion troseddau, y broses ymchwilio, ac atal troseddu.
Materion Cyfoes sy’n Ymwneud â Phobl Ifanc a Throseddu (Dewisol)
Byddwn yn datblygu eich gwybodaeth am y system cyfiawnder troseddol gyda phwyslais ar bobl ifanc a throseddu, gan ganolbwyntio ar faterion cyfoes a dylanwad y cyfryngau/gwleidyddiaeth ar bobl ifanc. Edrychir ar enghreifftiau fel gangiau ifanc, bwlio a’r cyfryngau cymdeithasol.
Terfysgaeth, Diogelwch ac Eithafiaeth (Dewisol)
Esblygiad terfysgaeth a’r broses radicaleiddio. Byddwn yn edrych ar sut i fynd i’r afael ag eithafiaeth a sut i atal radicaleiddio, yn ogystal ag edrych ar drafodaethau am hawliau unigolion ochr yn ochr â chadw gwyliadwriaeth.
Traethawd Estynedig Seicoleg
Byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol, gan ddatblygu ar y sgiliau y gwnaethoch eu dysgu drwy gydol eich gradd. Byddwch yn edrych ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi, a chithau wedi’i ddewis gyda chymorth eich goruchwylwyr, sy’n arbenigo mewn amrywiaeth o feysydd.
Seicoleg Iechyd dros Rychwant Oes (Dewisol)
Byddwn yn edrych ar effaith bioleg, seicoleg a ffactorau cymdeithasol ar iechyd corfforol (afiechyd, gofal iechyd ataliol a lles) ac yn ystyried sut mae hyn yn amrywio dros rychwant oes ac yn unol â lefelau cyfrifoldeb unigolion.
Seicoleg Addysg a Gwaith (Dewisol)
Byddwn yn canolbwyntio ar gymhwyso seicoleg yn ymarferol i addysg gyfoes, gan edrych ar dechnegau sy’n hybu llwyddiant academaidd a chan ystyried iechyd a lles addysgwyr.
Anhwylderau Seicolegol ac Ymyriadau Therapiwtig (Dewisol)
Byddwn yn edrych ar anhwylderau clinigol, fel anhwylderau bwyta, gorbryder, anhwylderau datblygiadol a sgitsoffrenia, gan werthuso’r arferion diagnostig a’r triniaethau yn hyn o beth.
Cymhwyso Seicoleg Gymdeithasol (Dewisol)
Byddwn yn edrych ar hunaniaeth gymdeithasol a sut gellir defnyddio hyn i wella amgylchiadau negyddol, gan archwilio effaith yr amgylchedd ar hunaniaeth gymdeithasol a defnyddio hyn i hybu ymddygiad cyfrifol, yn ogystal â pherthnasau cymdeithasol ar-lein.
Niwrowyddoniaeth a Niwroseicoleg Wybyddol (Dewisol)
Byddwn yn edrych ar effaith niwed i’r ymennydd ar brosesau gwybyddol, gan archwilio sut byddwn yn ymchwilio i ranbarthau niwroanatomegol, a chan ystyried ffactorau amgylcheddol ar yr un pryd.
Seicoleg Fforensig (penodedig)
Byddwn yn canolbwyntio ar gymhwyso seicoleg fforensig gyfoes yn ymarferol, gan ystyried ymchwiliadau’r heddlu a gwasanaethau diogelwch, elfennau seicolegol y system cyfiawnder troseddol, ac elfennau seicolegol rheoli troseddwyr.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Byddwn yn rhoi addysg ddifyr y gallwch ymdrwytho ynddi, a hynny drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau, prosiectau, gweithgareddau grŵp, lleoliadau, podlediadau, a dysgu drwy efelychiad yng Nghanolfan Efelychu Hydra. Byddwn hefyd yn trefnu darlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn a’r rheini’n cael eu darparu gan academyddion o sefydliadau eraill a chan seicolegwyr sy’n gweithio ar hyn o bryd mewn meysydd amrywiol.
Rydym am i chi gael cyfle i ddysgu am seicoleg, troseddeg a chyfiawnder troseddol mewn ffyrdd newydd, gyda dulliau amrywiol o ddarparu ac asesu ein holl fodiwlau: un o’n nodweddion mwyaf cyffrous yw pa mor amrywiol yw’r dysgu ar ein cwrs! Bydd y gwaith cwrs yn cynnwys traethodau, adroddiadau ymarferol, cyflwyniadau llafar ac astudiaethau achos.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/71-study-spaces/student-life-study-spaces-treforest-psychology-44478.jpg)
Staff addysgu
- Laura Drummond, arweinydd y cwrs
Mae ein staff academaidd yn frwd dros seicoleg ac yn ymwneud yn helaeth â gwaith ymchwil presennol mewn amrywiaeth o feysydd seicoleg arbenigol. Byddwch felly yn cael eich addysgu gan staff sy’n flaenllaw yn eu meysydd ymchwil nhw. Mae’r tiwtoriaid yn arbenigo mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys anhwylderau datblygiadol dros rychwant oes, ymddygiad iechyd a seicoleg chwaraeon.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-staff-laura-drummond-psychology-53017.jpg)
Lleoliadau
Bydd cyfleoedd penodol i chi drwy gydol y cwrs i gymhwyso damcaniaeth seicolegol a deall sut mae’n berthnasol i’r gweithle. Bydd y modiwl ‘Ymarfer proffesiynol a chyflogadwyedd’ yn yr ail flwyddyn yn rhoi rhagor o bwyslais ar y cyfleoedd hyn. Gallwch hefyd ddewis gwirfoddoli am gyfnod hwy na’r oriau angenrheidiol yn y lleoliad a roddir i chi, neu wirfoddoli i helpu gydag amrywiaeth o weithgareddau mewn gwahanol leoliadau.
Rydym eisiau eich helpu i wella eich set sgiliau er mwyn agor cynifer o ddrysau â phosibl ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae amrywiaeth o opsiynau hefyd ar gael ar gyfer hyn drwy ein cynllun Psychology Plus.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/psychology/Psychology-_44524-(1).jpg)
Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau seicoleg yn cynnwys labordy sydd wedi’i adeiladu’n benodol at y diben, yn llawn cyfarpar o safon sy’n cael ei ddefnyddio yn y diwydiant, a bydd modd i chi ddefnyddio’r cyfarpar hwn drwy gydol eich astudiaethau. Ceir hefyd ystafelloedd cyfweld ac arsylwi sy’n eich galluogi chi, fel ymchwilydd, i arsylwi ymddygiad pobl mewn ffordd naturiol drwy sgrin unffordd.
Ar y radd BSc Seicoleg gyda Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol, byddwch hefyd yn defnyddio Canolfan Efelychu Hydra i ddysgu drwy senarios, gan ddefnyddio amrywiaeth o glipiau fideo, clipiau sain a thasgau ysgrifenedig i ymarfer eich gallu i wneud penderfyniadau a gweithredu, gan ymchwilio i oblygiadau eich penderfyniadau wedyn.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/162-glyntaff-facilities/Psychology-_44484.jpg)
Pam PDC?
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/161-treforest-facilities/campus-facilities-treforest-psychology-facilities-44384.jpg)
Gradd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain
Pam PDC?
Mae 94% o fyfyrwyr naill ai mewn swydd neu’n dilyn astudiaethau pellach bymtheg mis ar ôl graddio o PDC.
Gradd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 96 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: CCC i gynnwys pwnc perthnasol
- BTEC: Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol
- Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru: Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC Safon Uwch gyda phwnc perthnasol
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£9,535
fesul blwyddyn*£785
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
*Rhwymedig
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein
Cost: £64.74
Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.
Cost: £16
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliad fel rhan o fodiwlau ymarfer proffesiynol dalu costau sy'n gysylltiedig â theithio i leoliad.
Cost: Amrywiol
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
- Medi 2025 Gyda Blwyddyn Ryngosod
- Medi 2026 Gyda Blwyddyn Ryngosod
- Medi 2025 Rhan-amser
- Medi 2026 Rhan-amser
- Medi 2025 Llawn Amser
- Medi 2026 Llawn Amser
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.