Seicoleg gyda Chwnsela
Mae’r radd BSc (Anrh) Seicoleg gyda Chwnsela yn cyfuno seicoleg â dulliau cwnsela integreiddiol.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
3A8U
Dyddiad Cychwyn
Medi 2026
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Ffioedd
Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*
Côd UCAS
Dyddiad Cychwyn
Medi 2026
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Ffioedd
Myfyrwyr cartref: £804*
Côd UCAS
3A9U
Dyddiad Cychwyn
Medi 2026
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Ffioedd
Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*
Côd UCAS
3A8U
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Côd UCAS
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Côd UCAS
3A9U
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Trosolwg o'r Cwrs
Credwn fod agor meddyliau yn agor drysau. Dyna pam mae ein gradd arloesol BSc Seicoleg gyda Chwnsela, sydd wedi'i hachredu gan y BPS yn cyfuno dysgu ymarferol gydag amrywiaeth eang o gyfleoedd ar leoliad a phrosiectau mewn bywyd go iawn i roi'r profiad sydd ei angen ar ein graddedigion Seicoleg i gael dechrau llwyddiannus i’w gyrfaoedd.
Nid cwrs cwnsela integreiddiol proffesiynol yw hwn, ond yn hytrach cwrs sydd wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sy'n chwilio am radd seicoleg o safbwynt cwnsela integreiddiol.
Achredwyd gan
Wedi'i achredu gan Cymdeithas Seicolegol Prydain
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Byddwch yn dechrau edrych ar y meysydd Seicoleg craidd sy’n angenrheidiol ar gyfer achrediad y BPS, a bydd cyfle i chi brofi ymchwil seicolegol o lygad y ffynnon.
Byddwn hefyd yn dechrau eich cyflwyno i amrywiaeth o egwyddorion a dulliau gweithio therapiwtig, fel dulliau gwybyddol, dulliau ymddygiadol, a dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Cyflwyno prif safbwyntiau’r BPS ynghylch seicoleg (yn y meysydd biolegol, gwybyddol, cymdeithasol a datblygiadol) ac effaith gwahaniaethau unigol ar ymddygiad, gyda phwyslais ar y prif ddulliau damcaniaethol a sut mae’r rhain yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth.
Sut mae gwaith ymchwil seicolegol yn cael ei wneud? Byddwn yn edrych ar y dulliau o wneud gwaith ymchwil a gwaith dadansoddi meintiol ac ansoddol, ac yn edrych ar foeseg ymchwil ac effaith hynny ar seicoleg.
Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg.
Byddwn yn dechrau edrych ar y safbwyntiau therapiwtig a’r egwyddorion sy’n sail i therapïau, modelau a strategaethau cwnsela traddodiadol a chyfoes.
Yn eich ail flwyddyn, byddwn yn parhau i ehangu eich gwybodaeth am y meysydd seicoleg a chwnsela, a byddwch yn dechrau arbenigo mewn dulliau integreiddiol.
Bydd cymhwyso eich gwybodaeth yn thema yn eich ail flwyddyn wrth i chi ddechrau edrych ar gymhwyso egwyddorion therapiwtig a chymhwyso eich sgiliau yn y modiwl ‘Ymarfer proffesiynol a chyflogadwyedd’, lle byddwch yn cael cymorth i wneud cais am brofiad gwaith.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o draddodiad dyneiddiol egwyddorion therapiwtig, a byddwn yn eich helpu i gymhwyso’r wybodaeth hon i gyd-destun ehangach cwnsela a seicotherapi.
Bydd cyfle i chi gael profiad gwaith, yn ogystal â meithrin sgiliau trosglwyddadwy a thrafod sut i ddod o hyd i waith.
Byddwn yn edrych ar ddadansoddiadau ystadegol ac ansoddol manylach, gan ddatblygu ar y dulliau a gafodd sylw ym mlwyddyn gyntaf eich gradd.
Byddwn yn datblygu ar safbwyntiau beirniadol seicoleg a gafodd sylw yn eich blwyddyn gyntaf, gan edrych ar sut mae bioleg a’r ymennydd yn dylanwadu ar ymddygiad (e.e. sylw, cof, gwneud penderfyniadau), gan ystyried gwahaniaethau rhwng unigolion.
Byddwn yn datblygu eich safbwyntiau beirniadol mewn seicoleg, gan edrych ar y ffactorau cymdeithasol a datblygiadol sy’n dylanwadu ar ein hymddygiad (e.e. agweddau a phriodoli), a chan ystyried ffactorau unigol.
Bydd eich blwyddyn olaf yn cyflwyno modiwlau dewisol sy’n eich galluogi i sicrhau ymhellach bod eich astudiaethau a’ch uchelgeisiau gyrfa yn cyd-fynd â’i gilydd.
Byddwn hefyd yn edrych yn fanylach ar egwyddorion therapiwtig mewn cyd-destun cymdeithasol ac yn gwella eich sgiliau ymarfer myfyriol beirniadol yn y maes cwnsela. Byddwch hefyd yn cynnal prosiect ymchwil annibynnol, gan lunio traethawd hir am bwnc o’ch dewis chi.
Byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol, gan ddatblygu ar y sgiliau y gwnaethoch eu dysgu drwy gydol eich gradd. Byddwch yn edrych ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi, a chithau wedi’i ddewis gyda chymorth eich goruchwylwyr, sy’n arbenigo mewn amrywiaeth o feysydd.
Byddwn yn edrych ar effaith bioleg, seicoleg a ffactorau cymdeithasol ar iechyd corfforol (afiechyd, gofal iechyd ataliol a lles) ac yn ystyried sut mae hyn yn amrywio dros rychwant oes ac yn unol â lefelau cyfrifoldeb unigolion.
Byddwn yn canolbwyntio ar gymhwyso seicoleg yn ymarferol i addysg gyfoes, gan edrych ar dechnegau sy’n hybu llwyddiant academaidd a chan ystyried iechyd a lles addysgwyr.
Byddwn yn edrych ar anhwylderau clinigol, fel anhwylderau bwyta, gorbryder, anhwylderau datblygiadol a sgitsoffrenia, gan werthuso’r arferion diagnostig a’r triniaethau yn hyn o beth.
Byddwn yn edrych ar hunaniaeth gymdeithasol a sut gellir defnyddio hyn i wella amgylchiadau negyddol, gan archwilio effaith yr amgylchedd ar hunaniaeth gymdeithasol a defnyddio hyn i hybu ymddygiad cyfrifol, yn ogystal â pherthnasau cymdeithasol ar-lein.
Byddwn yn edrych ar effaith niwed i’r ymennydd ar brosesau gwybyddol, gan archwilio sut byddwn yn ymchwilio i ranbarthau niwroanatomegol, a chan ystyried ffactorau amgylcheddol ar yr un pryd.
Byddwn yn gwerthuso’n feirniadol gyfraniad seicoleg at bob elfen yn y systemau cyfiawnder troseddol a sifil, gan gynnwys ymchwiliadau’r heddlu a’r gwasanaethau diogelwch, a’r maes rheoli troseddwyr.
Gan ddatblygu ar y wybodaeth sydd gennych eisoes, byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl ac ymarfer myfyriol wrth gwnsela sy’n hynod o berthnasol i amrywiaeth eang o swyddi ymarferwyr.
Byddwn yn edrych ar amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl a seicobatholegol sy’n amlwg mewn cymdeithas heddiw, gan ddefnyddio ein dealltwriaeth bresennol i werthuso’r rhain o safbwyntiau therapiwtig.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Rydym am i chi gael cyfle i ddysgu am seicoleg mewn ffyrdd newydd, heb i unrhyw ddau fodiwl gael eu darparu neu eu hasesu yn yr un ffordd. Un o’n nodweddion mwyaf cyffrous yw pa mor amrywiol yw’r dysgu ar ein cwrs.
Mae ein cwrs BSc Seicoleg gyda Chwnsela yn darparu amgylchedd dysgu diddorol i chi lle gallwch ymgolli trwy weithdai, prosiectau, gweithgareddau grŵp, lleoliadau, a dysgu efelychu yn Ystafell Efelychu Hydra. Rydym hefyd yn trefnu darlithoedd gwadd trwy gydol y flwyddyn a gyflwynir gan academyddion o sefydliadau eraill a seicolegwyr ymarferol o wahanol feysydd.
Mae asesiadau wedi'u cynllunio i adeiladu eich gwybodaeth a'ch sgiliau gam wrth gam gan ddefnyddio amrywiaeth o fathau o asesu.
Byddwch yn symud o draethodau i brosiectau grŵp traethawd hir, gyda'r cyfle i weithio gyda'n partneriaid diwydiant sefydledig.
Fel gradd achrededig BPS, bydd eich asesiadau yn cynnwys adroddiadau ymchwil ochr yn ochr â heriau cymhwysol yn y byd go iawn, gyda'r cyfle i ddefnyddio ein cyfleusterau labordy seicoleg.
Sicrhawyd bod pob myfyriwr yn cael lleoliad 6 wythnos yn ein Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar ar y campws, gyda chyfleoedd i symud ymlaen i leoliadau Lefel 2 a 3.
Mae hyn yn rhoi profiad ymarferol i chi ac i allu cymhwyso'ch gwybodaeth seicolegol yn ymarferol.
Fel rhan o'ch gradd, byddwch yn cwblhau'r modiwl Ymarfer Proffesiynol a Chyflogadwyedd, lle byddwch yn deall ac yn cymhwyso theori seicolegol i'r gweithle ac yn cael eich cefnogi i gwblhau lleoliad o'ch dewis
Rydym am eich helpu i wella'ch set sgiliau i agor cymaint o ddrysau â phosibl ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol, ac gallwch hefyd ddod o hyd i amrywiaeth o opsiynau ar hyn trwy ein cynllun Seicoleg a Mwy, gan gynnwys gwirfoddoli, interniaethau a chyrsiau byr.
Mae ein labordy seicoleg pwrpasol yn llawn cyfarpar o safon diwydiant, a bydd modd i chi ddefnyddio’r cyfarpar hwn drwy gydol eich astudiaethau. Ceir hefyd ystafelloedd cyfweld ac arsylwi sy’n eich galluogi chi, fel ymchwilydd, i arsylwi ymddygiad pobl mewn ffordd naturiol drwy sgrin unffordd. Ymhlith y cyfarpar y byddwch yn ei ddefnyddio mae cyfarpar tracio llygaid, peiriannau Electroencephalograff (EEG), a systemau BIOPAC.Fel rhan o’n gofod seicoleg dynodedig, bydd cyfle i chi hefyd archebu lle i astudio’n dawel a defnyddio’r gofod dysgu cymdeithasol dynodedig lle ceir cyfrifiaduron a gwerslyfrau seicoleg.
Arweinydd y Cwrs
Dr James Greville
Mae Dr James Greville yn ddarlithydd mewn seicoleg ac yn arweinydd cwrs ar gyfer BSc Seicoleg gyda Chwnsela, cwrs achrededig BPS sy'n cyfuno dysgu academaidd a phrofiadol. Mae James yn cynnal ymchwil mewn i ddysgu achosol, perthynol a chysylltiol, a sut mae'r prosesau hyn yn gysylltiedig â seicoleg glinigol ac iechyd meddwl, er enghraifft mewn anhwylderau ofn a phryder. Treuliodd James sawl blwyddyn hefyd yn gwirfoddoli fel seicolegydd cynorthwyol yn y GIG, ac ar hyn o bryd mae'n cydweithio â phartneriaid allanol yn y diwydiant fel yr elusen "Plattform". Mae croeso i chi gysylltu â James am unrhyw fanylion pellach am y cwrs nei ei ddiddordebau ymchwil.
Gofynion Mynediad
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
CCC i eithrio astudiaethau cyffredinol
Bagloriaeth Cymru:
Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC Safon Uwch i eithrio astudiaethau cyffredinol
BTEC:
Teilyngdod Teilyngdod
Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS
Safon T:
P (C ac uwch)
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Ffioedd a Chyllid
Fesul blwyddyn
Fesul 20 credyd
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
DBS Manylach
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein
Cost: £64.74
Gwasanaeth diweddaru’r DBS
Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.
Cost: £16
Lleoliad
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliad fel rhan o fodiwlau ymarfer proffesiynol dalu costau sy'n gysylltiedig â theithio i leoliad.
Cost: Amrywiol
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
DBS Manylach
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein
Cost: £64.74
Gwasanaeth diweddaru’r DBS
Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.
Cost: £16
Lleoliad
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliad fel rhan o fodiwlau ymarfer proffesiynol dalu costau sy'n gysylltiedig â theithio i leoliad.
Cost: Amrywiol
Sut i Wneud Cais
Wedi cael eich canlyniadau? Gwnewch gais ar-lein neu ffoniwch ni heddiw ac, os ydych yn gymwys, sicrhewch eich Pecyn Clirio gyda buddion gwerth hyd at £3k i'ch helpu i ddechrau yn y brifysgol gyda mwy. Cymerwch y cam nesaf: GwnewcFfurflen Gais Clirioh gais drwy Clirio.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Seicoleg gyda Chwnsela
-
Gyda Blwyddyn Ryngosod, 4 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Seicoleg gyda Chwnsela
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Seicoleg gyda Chwnsela
-
Rhan-amser, 6 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Seicoleg gyda Chwnsela
-
Gyda Blwyddyn Ryngosod, 4 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Seicoleg gyda Chwnsela
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Seicoleg gyda Chwnsela
-
Rhan-amser, 6 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion