Mae’r radd hon eisoes wedi rhoi amrywiaeth o sgiliau i mi yr wyf wedi gallu eu rhoi ar waith yn fy ngweithle.
Dewis astudio Seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru
Penderfynodd Isabel o Sir Benfro, sydd bellach wedi graddio, fynd i’r brifysgol pan oedd hi’n 20 oed.
“Wrth ymchwilio i gyrsiau mewn gwahanol brifysgolion, roedd y cwrs hwn yn sefyll allan. Cefais fy nenu ato i ddechrau oherwydd bod y fanyleb a'r modiwlau yn cyd-fynd yn union â’r hyn yr oeddwn wedi bod yn chwilio amdano... ac oherwydd nad oedd unrhyw arholiadau (ar wahân i 3 phrawf yn y dosbarth yn ystod y flwyddyn gyntaf), a oedd yn i mi gan fy mod yn tueddu i fynd yn eithaf nerfus yn y cyfnod cyn arholiadau.”
“Rwyf wastad wedi teimlo’n angerddol iawn am helpu eraill - yn enwedig plant - ac rwy'n credu'n gryf os ydych chi am wella'ch hun a chyflawni canlyniad cadarnhaol mewn rhywbeth yr ydych yn teimlo’n angerddol amdano, mae angen i chi weithio'n galed drosto. Yn y pen draw, dyma oedd fy nghymhelliant dros ddewis y cwrs penodol hwn. Rwyf wastad wedi dyheu am weithio gyda phlant, ac roeddwn yn teimlo bod fy ymrwymiad i ddysgu a deall y gwahanol agweddau ar y sector gofal plant, ynghyd â'm profiadau drwy gydol fy addysg cyn mynd i'r brifysgol, wedi gwneud i mi fod eisiau astudio’r pwnc hwn.”
“Mae amryw o fy sgiliau wedi datblygu yn ystod y cwrs hwn - yn academaidd ac mewn perthynas â gweithio gyda phlant. Roeddwn yn teimlo'n hyderus yn fy ngalluoedd a’m sgiliau yn ystod lleoliadau profiad gwaith, diolch i'r hyn yr oeddwn wedi’i ddysgu o ddarlithoedd. Yna roeddwn yn gallu atgyfnerthu'r wybodaeth hon yn barhaus ac yn y pen draw, gwella fy sgiliau."
Rwyf hefyd yn argymell yn fawr darllen yr adborth a gewch ar ôl pob aseiniad neu asesiad – fe wnaeth hynny fy helpu’n fawr! Drwy gydol y daith, byddwch yn dysgu mwy am yr hyn a ddisgwylir, y strwythur, a'r hyn y dylid ei gynnwys. Fe wnes i fethu traethawd ym Mlwyddyn 2, ac o’r diwrnod hwnnw ymlaen, roeddwn i’n benderfynol o beidio â gadael iddo ddigwydd eto, felly fe wnes i sicrhau bod darllen yr adborth yn flaenoriaeth i mi... ac wedyn cefais radd Dosbarth Cyntaf - felly rwy’n credu bod cymryd 10 munud ychwanegol i ddarllen a deall yr adborth yn sicr yn werth chweil!”
“Fy hoff elfen o’r brifysgol yn ddi-os yw cwrdd â ffrindiau oes ar fy nghwrs. Rydych chi i gyd yno am yr un rheswm ac yn rhannu’r profiad o’r daith hon gyda’ch gilydd.”
Dewch o hyd i'ch cwrsEdrych i’r dyfodol
“Rwy’n teimlo bod y cwrs hwn yn rhoi llawer o opsiynau i chi. Penderfynais ddilyn y llwybr addysg wrth ddewis fy modiwlau. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio mewn ysgol ac rwy’n bwriadu cwblhau TAR. Mae’r radd hon eisoes wedi rhoi amrywiaeth o sgiliau i mi yr wyf wedi gallu eu rhoi ar waith yn fy ngweithle.”
"Fy nghyngor i yw gwneud yr hyn sy'n teimlo'n iawn i chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yn llawn yr hyn y byddwch yn ei ddysgu ac a fydd yn eich arwain at y cam nesaf yn eich bywyd. Rwy'n credu'n gryf mai'r cwrs hwn oedd y dewis cywir i mi, gan ei fod yn cyd-fynd â'm hoffterau a'm diddordeb cryf yn y maes. Bydd yn heriol ar adegau – ond beth sydd ddim? Bydd y rhwystrau a wynebwch ar hyd y ffordd ond yn cryfhau eich cymhelliant i lwyddo os yw'n rhywbeth rydych chi wir ei eisiau. Peidiwch â gwrando ar eich amheuon cyn gwneud cais i’r brifysgol – credwch ynoch chi’ch hun ac yn yr hyn y gallwch ei wneud!”
“Mae tair blynedd o fy mywyd i wedi gwibio heibio ac am dair blynedd anhygoel oedden nhw!”
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Seicoleg?
Mae seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru yn agor drysau i fwy o yrfaoedd nag yr oeddech chi'n meddwl oedd yn bosibl, gan ganiatáu bod ein graddedigion yn gallu ystyried mwy na'r meysydd traddodiadol yn unig a gwneud gwahaniaeth yn y broses.