Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyfunwch ddamcaniaeth ag ymarfer mewn gradd sydd wedi'i chynllunio o amgylch proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw. Byddwch yn ennill y sgiliau, y profiad a'r mewnwelediad proffesiynol y mae cyflogwyr yn eu mynnu yn y maes deinamig a gwerth chweil hwn.
Gweld y Cyrsiau Archebu Diwrnod Agored
Byddwch chi'n dysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol ac yn cael y wybodaeth ymarferol i gefnogi unigolion, teuluoedd a chymunedau — gan rymuso pobl o bob oed i fyw bywydau iach, annibynnol a boddhaus.
Dod o hyd i'ch cwrs
Pwrpas ein gradd Astudiaethau Plentyndod yw archwilio plentyndod o safbwynt byd-eang er mwyn datblygu neu gryfhau eich dealltwriaeth o ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad cyfannol, iechyd a lles plant.
Trwy leoliadau gwaith, byddwch yn ennill profiad amhrisiadwy o’r byd go iawn ac yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau amrywiol. Yn y drydedd flwyddyn, cewch gyfle i arbenigo mewn meysydd fel plant, oedolion, neu iechyd meddwl, gan wella eich rhagolygon gwaith ymhellach.
Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Iechyd a Lles Cymunedol yn cynnig cyfle i brofi bywyd prifysgol, datblygu sgiliau astudio cryf ar gyfer addysg uwch, a dechrau cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol ar gyfer gyrfaoedd iechyd.
Mae gradd mewn rheoli iechyd, lles a gofal cymdeithasol yn helpu myfyrwyr i gydnabod yr angen i arwain gydag ysbrydoliaeth yn y sector hwn. Mae hefyd yn helpu darpar reolwyr i adnabod eu potensial i ddefnyddio dulliau medrus.
Adeiladwch hyder a sgiliau academaidd wrth archwilio iechyd, lles a gofal cymdeithasol, gan eich paratoi i symud ymlaen i'r radd lawn ac astudiaeth broffesiynol yn y dyfodol.
Oeddech chi'n gwybod?
Mae Gwaith Cymdeithasol yn PDC ar y brig yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr (Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2025)
- Mae Astudiaethau Iechyd yn PDC ar y brig yn y DU o ran Canlyniadau Graddedigion a rhagolygon Graddedigion ar y trywydd iawn (Complete University Guide 2027)
Oeddech chi'n gwybod?
Mae 95%
o raddedigion Iechyd a Gofal Cymdeithasol PDC mewn Cyflogaeth a/neu Astudiaeth Bellach 15 mis ar ôl graddio
(Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2022/23)Mae Gwaith Cymdeithasol yn PDC ar y brig yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr (Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2025)
Mae Astudiaethau Iechyd yn PDC ar y brig yn y DU o ran Canlyniadau Graddedigion a rhagolygon Graddedigion ar y trywydd iawn (Complete University Guide 2027)
Astudio yn Ne Cymru
Caiff ein cyrsiau CyIechyd a Gofal Cymdeithasol u haddysgu ar Gampws Pontypridd, sydd wedi'i leoli ymhlith Cymoedd hardd De Cymru, tra bod ein cyrsiau Gwaith Cymdeithasol yn cael eu cyflwyno yng Nghasnewydd, canolfan fodern ar lan yr afon mewn dinas fywiog. Mae gan bob campws ei gymeriad ei hun, ond mae'r ddau yn darparu cymuned groesawgar a chyfleoedd i archwilio, cysylltu a gwneud y gorau o'ch amser yn y brifysgol.
Eich Profiad Myfyrwyr
Diwrnodau Agored i ddod