Llesiant Meddyliol
Gall prifysgol fod yn gyffrous ond gall hefyd ddod â heriau. Gall pethau deimlo'n llethol, ac efallai y bydd angen cymorth arnoch gyda'ch lles a'ch iechyd meddwl. Rydyn ni yma i chi. Gall ein cynghorwyr siarad â chi i archwilio eich anghenion, eich cyfeirio at gymorth, a'ch cefnogi'n uniongyrchol. Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau i helpu i wella eich lles.
Angen cymorth brys? Ffurflen Pryder Lles Iechyd Meddwl
Cefnogaeth unigol – dechreuwch yma!
Y cam cyntaf er mwyn cael cymorth unigol gennym ni yw mynchu un o'n sesiynau galw heibio neu drefnu apwyntiad cyngor lles.
Mae ein sesiynau galw heibio cyngor lles ar gael ar draws pob campws yn ystod y tymor rhwng 1pm–4pm ar y diwrnodau canlynol:
- Campws Trefforest, bob dydd Mercher yn ystafell H014B
- Campws Caerdydd, bob dydd Iau yn ystafell CAA002
- Campws Casnewydd, bob dydd Iau cyntaf y mis yn llyfrgell, NCB12A
- Campws Glyn-taf, bob dydd Iau olaf y mis yn ystafell GTL003
Os na allwch fynychu unrhyw un o'r sesiynau galw heibio, gallwch drefnu apwyntiad cyngor lles.
Mae apwyntiadau cyngor ar lesiant yn sesiynau 30 munud a gynhelir wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein. Maen nhw’n gyfle diogel a chyfrinachol i drafod pa bynnag faterion sydd gennych chi. Byddwch chi’n cael cymorth ac atgyfeiriadau cymorth priodol os oes angen. Gallai cymorth gynnwys atgyfeiriadau at weithdai, cyrsiau byr, gweithgareddau, cyngor iechyd meddwl, neu gwnsela.
Archebwch apwyntiad cyngor Lles drwy Advice Zone Ar-lein.
Sylwer: ni allwch chi drefnu apwyntiad yn uniongyrchol gyda Chynghorydd Iechyd Meddwl neu Gwnselydd cyn cael apwyntiad cyngor ar lesiant.
Datganiad Preifatrwydd – mae PDC yn defnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein i wneud apwyntiadau a rhywfaint o ryngweithiadau cefnogi. Gweler yr Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnyddio Gwybodaeth Bersonol.