Hyb Helpu Eich Hun
Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch llesiant meddyliol ond nad ydych chi'n barod i wneud apwyntiad, neu os ydych chi eisiau gallu cynnal eich hun wrth i chi aros am apwyntiad rhydd, edrychwch ar yr adnoddau isod.
Angen cymorth brys? Ewch i Cymorth Brys am restr o wefannau a llinellau cymorth hanfodol. Os yw bywyd yn y fantol, ffoniwch 999 ar unwaith.
Nid yw Prifysgol De Cymru’n gyfrifol am gynnwys unrhyw safle allanol.
Adnoddau Eraill
Camdriniaeth mewn Plentyndod
- The National Association for People Abused in Childhood – Elusen gofrestredig sy'n darparu cymorth a gwybodaeth i bobl sy'n cael eu cam-drin yn ystod plentyndod.
Cam-drin Domestig
- BAWSO – Sefydliad gwirfoddol Cymru gyfan, sy'n darparu gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr a phobl y mae Cam-drin Domestig a phob math o drais yn effeithio arnynt, neu eu bod mewn perygl o hynny; gan gynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod, Priodas dan Orfod, Trais ar Sail Anrhydedd a Masnachu Pobl.
- The Oasis Centre – Wedi'i leoli ym Mhontypridd, gwasanaeth nad yw'n benodol o ran rhywedd sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.
- Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru - Gwasanaeth cenedlaethol cymorth a gwybodaeth rhad ac am ddim i fenywod, plant a dynion yng Nghymru sy'n dioddef neu sydd wedi dioddef cam-drin gan rywun sy'n agos atynt. Llinell gymorth 0808 8010 800.
- Atal y Fro – Helpu teuluoedd i dorri'r cylch trais domestig. Mae’n darparu cymorth, cwnsela a lloches i fenywod a phlant ym Mro Morgannwg sydd wedi profi, neu sydd yn profi, trais domestig.
- galop - Yn cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT+) sy'n profi trais domestig.
- Respect – Cymorth i ddynion sydd eisiau rhoi'r gorau i ymddwyn yn sarhaus tuag at eu partner.
- The Hideout – mae Cymorth i Fenywod wedi creu’r gofod hwn i helpu plant a phobl ifanc ddeall cam-drin domestig, a sut i gymryd camau cadarnhaol os yw’n digwydd.
Priodas dan Orfod
- ForcedMarriage.net – Gwefan un stop sy'n rhoi gwybodaeth ymarferol a ffynonellau cyngor a chymorth ar briodas dan orfod.
- Uned Priodasau dan Orfod – Uned y Llywodraeth i gysylltu â hi os ydych yn ceisio atal priodas dan orfod neu os oes angen cymorth arnoch i adael priodas y’ch gorfodwyd iddi.
- Freedom Charity – Gwefan sefydliad sy'n bodoli i rymuso pobl ifanc i deimlo bod ganddynt yr offer, yr hyder a'r gefnogaeth ynghylch materion perthnasoedd teuluol a all arwain at briodas gynnar a gorfodol a thrais ar sail anrhydedd.
Cam-drin Rhywiol
- New Pathways – Yn darparu gwasanaeth cofleidiol, llawn cydymdeimlad, gofalgar a gwerth chweil i holl ddioddefwyr trais rhywiol, cam-drin rhywiol a thrawma. Defnyddir y gwasanaethau rhad ac am ddim gan gleientiaid ledled Cymru.
- The Calm Zone: Camdriniaeth – Anelir y ‘Campaign Against Living Miserably’ at ddynion ifanc rhwng 15 a 35 oed. Mae'r ymgyrch yn cynnig llinell gymorth, gwybodaeth a chyngor.
Pandora’s Project: Cam-drin rhywiol - Yn cynnig cymorth i gyfoedion i unrhyw un sydd wedi dioddef trais rhywiol a cham-drin rhywiol.
- Here to Help – Modiwl Rheoli Dicter.
- How to deal with anger – Canllaw i adnabod achosion dicter a'i drin yn dda ar gyfer gwell perthnasoedd a mwy o hunan-barch.
- Yn Bryderus am Gyflwyniadau? – Syniadau ac awgrymiadau gan y Gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio.
- AnxietyUK – Mae AnxietyUK yn gweithio i leddfu a chefnogi'r rhai sy'n byw gydag anhwylderau gorbryder trwy ddarparu gwybodaeth, cymorth a dealltwriaeth trwy ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau therapi un-i-un.
- How to overcome fear and anxiety– Podlediad yn amlinellu ffyrdd o oresgyn ofn a phryder (hefyd ar gael fel llyfryn).
- No Panic – Elusen sy'n darparu cymorth i ddioddefwyr Pyliau o Banig, Ffobiâu, Anhwylder Obsesiynol- Gorfodaeth, Anhwylder Gorbryder Cyffredinol a Diddyfnu o Dawelyddion.
- Panic-attacks.co.uk – Tîm o therapyddion, seicolegwyr a hyfforddwyr, yn darparu adnoddau rhad ac am ddim yn ogystal â rhai sydd angen talu amdanynt.
- Anxiety Issues - Adnoddau Hunangymorth ar gyfer Problemau Iechyd Meddwl gan gynnwys llawer o faterion gorbryder.
- The National Autistic Society – Asperger Syndrome – Gwefan gynhwysfawr dda.
- Awtistiaeth Cymru - am wybodaeth a chyngor ar reoli awtistiaeth
- Cruse Bereavement Care – Mae'n cynnig gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan farwolaeth ac yn darparu cymorth a chwnsela un-i-un ac mewn grwpiau.
- Sands – Mae'n cynnig cymorth a chyngor i unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan farwolaeth baban yn dilyn marw-enedigaeth neu farwolaeth newyddenedigol. Mae ganddyn nhw linell gymorth, fforwm ar-lein a grwpiau cymorth lleol.
- 2 Wish Upon a Star – Mae’n cynnig cymorth a chefnogaeth yn dilyn marwolaeth sydyn neu drawmatig plentyn (hyd at 26 oed). Maent yn cynnig cwnsela un-i-un yn ogystal â grwpiau cymorth a digwyddiadau lleol.
- Miscarriage Association – Gwybodaeth a chymorth i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan gamesgoriad, beichiogrwydd ectopig neu feichiogrwydd molar. Maent yn cynnig llinell gymorth ffôn yn ogystal â gwasanaeth cymorth ar-lein trwy eu fforwm ar-lein, llinell gymorth e-bost a thudalennau Facebook.
- Army Families Federation – ar gyfer y rhai sydd wedi colli aelod o’r teulu yn y lluoedd arfog.
- Marie Curie - elusen gofal diwedd oes sy’n darparu amrywiaeth o gymorth i bobl sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i unrhyw salwch terfynol, gan gynnwys cwnsela, cymorth grŵp a chymorth ffôn 1:1.
- Bipolar UK – Elusen sy'n cael ei harwain gan ddefnyddwyr sy'n gweithio i alluogi pobl sydd wedi'u heffeithio gan anhwylder deubegynol / iselder manig i gymryd rheolaeth ar eu bywydau.
- Rethink: Bipolar Disorder – elusen iechyd meddwl genedlaethol, sy'n gweithio i helpu pawb y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt i wella ansawdd bywyd.
- The Chinese Mental Health Association – Yn cynrychioli materion iechyd meddwl Tsieineaidd – ffôn 0207 613 1008.
- Diverse Cymru – Sefydliad newydd arloesol yn y Trydydd Sector yng Nghymru, a grëwyd i gydnabod yr anawsterau a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl sy'n profi anghydraddoldeb yng Nghymru.
- Llinell Gymorth The Muslim Youth - Llinell gymorth gyfrinachol i Fwslimiaid ifanc – ffôn 0808 808 2008.
- Young Minds - Yn darparu cyngor a chymorth os ydych yn cael eich bwlio.
- Bully OnLine – Adnodd ar fwlio a materion cysylltiedig.
- Seiberfwlio – Gwybodaeth a chymorth ar gyfer bwlio ar-lein.
- Cyngor ar Bopeth yn darparu rhywfaint o wybodaeth os ydych yn cael eich bwlio neu’n dioddef aflonyddu yn y gwaith.
- The Recovery Letters - Llythyrau a ysgrifennwyd gan bobl sy'n gwella o iselder, wedi'u cyfeirio at y rhai sy'n dioddef ar hyn o bryd. Mae'r ysgrifenwyr llythyrau wedi profi gwahanol fathau o iselder gan gynnwys iselder clinigol/mawr, iselder deubegwn ac ôl-enedigol.
- Students Against Depression – Yn cynnig gwybodaeth gynhwysfawr a thrafodaeth i fyfyrwyr y DU am beth yw iselder a sut mae'n gweithio, ym mha gyd-destunau y mae iselder yn ffynnu, strategaethau hunangymorth ar gyfer mynd i'r afael ag iselder a sut i gael cymorth a help pellach.
- Dod o hyd i’ch ffordd - canllaw gan y Samariaid i unrhyw un sy’n cael trafferth ymdopi â’u hiechyd meddwl.
First Person Plural – Elusen a arweinir gan oroeswyr cam-drin sydd â phrofiad uniongyrchol o drallod datgysylltiol cymhleth. Mae aelodau'n cefnogi ei gilydd gydag awgrymiadau hunangymorth, gwybodaeth ac ati trwy gyfrwng y cylchlythyr a mynychu cyfarfodydd aelodau agored achlysurol.
- Beat – elusen ar gyfer pobl ag anhwylderau bwyta a'u teuluoedd.
- 'Men Get Eating Disorders Too'. Trwy gyfweliadau, mae naw dyn yn rhannu eu stori ysbrydoledig am ddewrder a gwydnwch, gan anfon neges o obaith i bob dioddefwr.
- Gamblers Anonymous UK – Pobl sydd wedi dod at ei gilydd i wneud rhywbeth am eu problem gamblo eu hunain ac i helpu gamblwyr cymhellol eraill i wneud yr un peth.
- Gamcare – Cymorth, gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sy'n dioddef o broblem gamblo.
- The Beaumont Society - Y grŵp cymorth mwyaf yn y DU. Trwy ei waith mae'n hybu gwell dealltwriaeth o amodau trawsrywioldeb, trawswisgo a dysfforia rhywedd.
- GIRES-Gender Identity Research and Education Society – Gwybodaeth i bobl traws, eu teuluoedd a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gofalu amdanynt.
- The Gender Trust – Yn cefnogi pawb y mae materion hunaniaeth rhywedd yn effeithio arnynt.
- Mermaids UK- Cymorth mewn argyfwng i bobl ifanc Trawsryweddol, anneuaidd ac amrywiol o ran rhywedd a’u teuluoedd.
- Tell Mama mesur troseddau casineb gwrth-Fwslimaidd ac aflonyddu
- Stop Hate UK yn cynnig cymorth i ddioddefwyr troseddau casineb
- Community Security Trust, elusen sy'n amddiffyn Iddewon Prydain rhag gwrth-semitiaeth a bygythiadau cysylltiedig.
- Hearing the Voice - Prosiect rhyngddisgyblaethol dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Durham sydd â'r nod o'n helpu i ddeall yn well ffenomen clywed llais na all neb arall ei glywed.
- Rhwydwaith Hearing Voices – Rhwydwaith o wrandawyr llais ac unigolion sydd â diddordeb yn y profiad o glywed lleisiau.
- Intervoice – Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Hyfforddiant, Addysg ac Ymchwil i Glywed Lleisiau.
The Mix – Elusen gofrestredig sy'n darparu taflenni ffeithiau ac erthyglau ar faterion allweddol sy'n wynebu pobl ifanc, gan gynnwys hiraeth.
Meetup.com - Gwefan ac ap sy'n eich helpu i gysylltu â phobl â diddordebau tebyg yn eich ardal leol.
- How to talk to your GP about your mental health – Fideo byr defnyddiol.
- Moodjuice – Safle a ddyluniwyd i gynnig gwybodaeth a chyngor i'r rhai sy'n profi meddyliau a theimladau trafferthus.
- Shout - Os ydych chi'n profi argyfwng personol, yn methu ag ymdopi ac angen cefnogaeth, tecstiwch Shout i 85258.
- Y Samariaid - darparu cymorth emosiynol i unrhyw un sydd mewn trallod emosiynol, sy’n cael trafferth ymdopi, neu sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Ffoniwch 116 123, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
- An introduction to Mindfulness – Podlediad sy'n rhoi cyflwyniad i chi i ymwybyddiaeth ofalgar a'i fanteision.
- Myfyrdodau Ymwybyddiaeth Ofalgar – Lawrlwythiadau myfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar am ddim.
- Ymwybyddiaeth ofalgar - gwybodaeth gan y Sefydliad Iechyd Meddwl. Yn cynnwys storïau, blogiau, clipiau fideo, podlediadau ac ati.
- OCD-UK – Elusen genedlaethol, sy'n gweithio'n annibynnol gyda phobl ag Anhwylder Obsesiynol-Gorfodaethol ac ar eu cyfer.
- Symptomau OCD – Gwefan sy'n darparu cyngor helaeth am achosion a thriniaeth Anhwylder Obsesiynol-Gorfodaethol.
How To Overcome Perfectionism – Adnodd ar Sut i Oresgyn Perffeithrwydd.
- BPDRecovery – Gwefan sy'n canolbwyntio ar wella o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol gan ddefnyddio offer sy'n canolbwyntio'n bennaf ar Therapi Gwybyddol-Ymddygiadol (CBT).
- BPD World – Gwefan sy’n anelu at ddarparu gwybodaeth am bob agwedd ar BPD – sut mae’n cael ei ddiffinio, damcaniaethau cyfredol o’r hyn all ei achosi, opsiynau triniaeth a manylion y newyddion, cynadleddau a mentrau diweddaraf yn y maes.
- Canllaw Nice ar gyfer BPD – Yn ymdrin â'r gofal, y driniaeth a'r cymorth y dylid eu cynnig i bobl yn y DU ag anhwylder personoliaeth ffiniol.
AnxietyUK – Elusen sy'n gweithio i leddfu a chefnogi'r rhai sy'n byw gydag anhwylderau gorbryder trwy ddarparu gwybodaeth, cymorth a dealltwriaeth.
Deall Anhwylder Straen Wedi Trawma – Gwybodaeth am beth yw PTSD, beth yw'r symptomau, beth sy'n ei achosi.
- New Pathways – Yn darparu gwasanaeth cofleidiol, llawn cydymdeimlad, gofalgar a gwerth chweil i holl ddioddefwyr trais rhywiol, cam-drin rhywiol a thrawma. Defnyddir gwasanaethau, a ddarperir yn rhad ac am ddim, gan gleientiaid ledled Cymru.
- Rape Crisis – Gwybodaeth, cymorth a chyngor i fenywod sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol mewn unrhyw ffordd, naill ai'n ddiweddar neu yn y gorffennol, wedi’u darparwyd gan Rape Crisis.
- Survivors UK – Yn darparu gwybodaeth, cymorth a chwnsela i ddynion sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol.
- The Havens- cymorth arbenigol i bobl sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Am gyngor ac apwyntiadau brys, ffoniwch 020 3299 6900.
- Solace - yn darparu cyngor a chefnogaeth i fenywod ar gyfer cam-drin domestig a thrais rhywiol.
- Stonewall – Nod Stonewall Cymru yw cyflawni cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru.
- Relate – Yn cynnig cwnsela perthynas ledled y DU drwy'r Rhyngrwyd, llinell gymorth dros y ffôn a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.
- Galop yn elusen sy’n cefnogi pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a cwiar sy’n cael eu heffeithio gan drais rhywiol a domestig.
Gwella Hunan-barch – Modiwlau i weithio drwyddynt a thaflenni gwybodaeth.
- Prosiect Amber - Yn darparu cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc (14-25) sydd â phrofiad o hunan-niweidio.
- LifeSIGNS – Sefydliad gwirfoddol a arweinir gan ddefnyddwyr sy'n creu dealltwriaeth o amgylch hunan-niwed.
- Fforwm Rhwydwaith Hunan-niwed Cenedlaethol – Fforwm sy’n darparu cymorth mewn argyfwng, gwybodaeth ac adnoddau, cyngor, trafodaethau a gwrthdyniadau.
- Gwrthdyniadau hunangymorth - Taflen ffeithiau gan y Rhwydwaith Hunan-niwed Cenedlaethol.
- Self injury Support – Sefydliad cenedlaethol sy'n darparu cefnogaeth i ferched a menywod yr effeithir arnynt gan hunan-anafu neu hunan-niwedio.
- The Calm Zone: Self Harm – Anelir The Campaign Against Living Miserably at ddynion ifanc rhwng 15 a 35 oed. Mae'r ymgyrch yn cynnig llinell gymorth, gwybodaeth a chyngor.
Rethink: Schizophrenia – Elusen iechyd meddwl genedlaethol, sy'n gweithio i helpu pawb y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt i wella ansawdd bywyd.
Adnoddau Straen gan y Sefydliad Iechyd Meddwl – Ystod o daflenni, erthyglau, profiadau personol a phodlediadau all eich helpu i ddeall a rheoli straen yn well.
- Barod – gwasanaeth camddefnyddio sylweddau sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim i unrhyw un yr effeithir arno gan ddefnyddio sylweddau. Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael i bobl bryderus eraill sy’n poeni am eu hanwyliaid yn defnyddio sylweddau, neu’n sy’n cael eu heffeithio ganddynt. Mae Barod yn gweithredu gwasanaeth gwe-sgwrsio byw cyfrinachol 7 diwrnod yr wythnos trwy ei wefan, sy'n darparu gwybodaeth a chymorth.
- SMART Recovery – Grŵp cydgymorth cyfrinachol sy'n helpu cyfranogwyr i benderfynu a oes ganddynt broblem, yn cynyddu eu cymhelliant i newid ac yn cynnig set o offer a thechnegau profedig i gefnogi adferiad. Mae Barod yn hwyluso cyfarfodydd SMART Recovery yn ardal Cwm Taf. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Barod Cwm Taf ar 0300 333 0000.
- Club Drug Clinic – Gwasanaeth cenedlaethol i bobl sydd wedi dechrau cael problemau gyda'u defnydd o gyffuriau hamdden.
- dan247 – Llinell gymorth am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau rhagor o wybodaeth neu gymorth yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol.
- Alcoholics Anonymous – Yn darparu ystod o wybodaeth, cyngor a sesiynau wyneb yn wyneb i helpu pobl i ymdopi â phroblemau sy'n ymwneud ag alcohol.
- Drinkaware – Gwybodaeth ac offer i'ch helpu i edrych yn agosach ar eich yfed.
- Adult children – Gwybodaeth a chymorth i'r rhai a gafodd eu magu mewn cartref alcoholig neu gartref camweithredol fel arall.
- Frank – Cyngor a gwybodaeth ymlaen llaw i bobl ifanc am gyffuriau. Yn cynnwys A-Z o gyffuriau, llinell gymorth gyfrinachol, ac adroddiadau.
- Angen cymorth yn syth? – Cymorth o brif wefan Students Against Depression sy’n canolbwyntio ar ddeall a goroesi meddyliau hunanladdol.
- Samariaid – Yn darparu cymorth emosiynol cyfrinachol i unrhyw berson sy'n profi anobaith, trallod, neu deimladau hunanladdol.
- The Calm Zone: Suicide – Anelir The Campaign Against Living Miserably at ddynion ifanc rhwng 15 a 35 oed. Mae'r ymgyrch yn cynnig llinell gymorth, gwybodaeth a chyngor.
- The Hopeline - Cyngor Cyfrinachol ar Atal Hunanladdiad Pobl Ifanc a ddarperir gan PAPYRUS, yr elusen genedlaethol sy'n ymroddedig i atal hunanladdiad pobl ifanc.
- How to help someone who is suicidal – Beth yw'r arwyddion rhybudd y gallai rhywun gyflawni hunanladdiad? Beth allwch chi ei wneud os ydych chi'n agos atynt? Mae'r llyfryn hwn yn ateb y cwestiynau hyn a llawer mwy.
Ap Stay Alive - Ap symudol sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl sy'n meddwl am hunanladdiad ac i bobl sy'n poeni am rywun arall.
- Combat Stress – elusen iechyd meddwl y Cyn-filwyr sy’n helpu cyn-filwyr a chyn-fyddinwragedd â phroblemau iechyd meddwl. Mae’n darparu amrywiaeth o driniaethau a chymorth arbenigol.
- GIG Cymru i Gyn-filwyr – Gwasanaeth arbenigol â blaenoriaeth i unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ar unrhyw adeg yn eu bywydau ac sy’n profi anawsterau iechyd meddwl sy’n ymwneud yn benodol â’u gwasanaeth milwrol.