Bywyd ACTif
Gall y cwrs eich helpu chi i gymryd mwy o reolaeth ar eich gweithredoedd, fel bod bywyd o ddydd i ddydd yn dod yn llai trallodus ac yn fwy pleserus. Byddwch yn dysgu ffyrdd ymarferol ac effeithiol o ddelio â meddyliau a theimladau a all fod yn peri trallod.
Datblygwyd y cwrs ar eich cyfer gan Dr Neil Frude a bydd yn eich helpu chi i ganfod yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i chi ac yn rhoi’r sgiliau i chi allu byw eich bywyd gyda mwy o hyder a mwy o ymdeimlad o bwrpas.
Dechreuwch y cwrs drwy glicio ar fideo ACT 1 isod. Mae pedwar fideo a phob un yn para tua 40 munud. Gallwch gael saib ar unrhyw adeg a dod yn ôl atynt os bydd angen i chi gael hoe. Rydym yn argymell cymryd diwrnod neu ddau rhwng pob fideo er mwyn ymarfer y dysgu. Ar gyfer pob un o'r fideos mae yna ganllaw y gallwch chi ei lawrlwytho, ei argraffu neu gymryd nodiadau arno, a hefyd mae rhai ymarferion sain y gallwch chi wrando arnyn nhw.
ACT 1 – Nid Chi yw Eich Meddwl
Dysgwch sut mae eich Meddwl yn gweithio - a sut mae'n aml yn gweithio yn eich erbyn. Ond trwy gymryd mwy o reolaeth, gallwch atal eich Meddwl rhag difetha pethau i chi.
Cliciwch yma am fersiwn BSL 'Sut mae eich meddwl yn gweithio'.
ACT 2 – Wynebu Eich Bywyd
Rydym yn aml yn gwneud ymdrech fawr i osgoi neu newid pethau na ellir eu newid, a gall hyn wneud pethau’n waeth i ni. Yn aml mae'n well Derbyn.
Cliciwch yma am fersiwn BSL 'Derbyn yr hyn na allwch ei newid'
ACT 3 – Bod yn Ystyriol
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ein galluogi i ganolbwyntio mwy ar y presennol – ac mae manteision hyn yn rymus iawn. Dysgwch sut i ymarfer y grefft o ‘ddim ond sylwi’.
Ymarferwch eich sgiliau gydag Ymarferion Sain:
ACT 4 – Byw’n Ddoeth, Byw’n Dda
Beth sy'n bwysig i chi? Beth ydych chi'n poeni amdano mewn gwirionedd?
Darganfyddwch sut y gall gweithredu yn unol â'ch gwerthoedd fod y ffordd orau i chi gael bywyd gwell.
Gobeithio bod y cwrs hwn wedi bod yn ddefnyddiol i chi. I gael rhagor o help gydag iechyd meddwl – gorbryder, straen, iselder neu unrhyw beth arall, siaradwch â’ch meddyg teulu neu gwnewch Apwyntiad Cyngor ar Lesiant.