Canllawiau Cysylltiadau Argyfwng a Dibynadwy
Pan fyddwch yn cofrestru yn PDC am y tro cyntaf, ac ar ddechrau pob blwyddyn academaidd wedi hynny, gofynnir i chi ddarparu manylion cyswllt mewn argyfwng a manylion cyswllt dibynadwy.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich cyswllt mewn argyfwng yn rhiant, gwarcheidwad, partner, priod neu aelod agos arall o'r teulu (e.e. perthynas agosaf).
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai fod amgylchiadau lle nad yw'ch cyswllt mewn argyfwng yn y sefyllfa orau i gynnig cefnogaeth. Felly, mae gennych yr opsiwn i adnabod oedolyn cyfrifol arall fel cyswllt dibynadwy. Mae'n bwysig eich bod yn ystyried yn ofalus pwy rydych chi am ei enwebu fel eich cyswllt dibynadwy. Dylai'ch cyswllt dibynadwy fod:
- rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo gyda gwybodaeth sensitif am eich iechyd a'ch lles a fydd yn parchu eich preifatrwydd ac yn deall sut i ymdrin â chyfrifoldeb y rôl hon.
- rhywun sydd ag ymwybyddiaeth o'ch hanes meddygol, cymdeithasol a'ch profiad byw.
- rhywun a all fod ar gael a byddai'n gallu darparu cymorth os yw'n cael ei alw.
Dewis eich cysylltiadau mewn argyfwng a dibynadwy
Trwy ddarparu eich manylion cyswllt mewn argyfwng a dibynadwy, rydych chi'n cydsynio i'r Brifysgol gysylltu â'r unigolion a enwir os oes pryderon difrifol am eich iechyd neu les. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei storio'n ddiogel yn unol â Pholisi Diogelu Data’r Brifysgol.
Dylech roi gwybod i’ch cysylltiadau enwebedig eich bod wedi’u dewis i weithredu yn y rôl bwysig hon ac i gael eu caniatâd i rannu eu manylion cyswllt gyda'r brifysgol.
Efallai yr hoffech newid eich cysylltiadau mewn argyfwng neu ddibynadwy yn ystod eich astudiaethau wrth i berthnasoedd ac amgylchiadau newid. Gallwch ddiweddaru eich manylion trwy gydol y flwyddyn trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.
Pryd y gall y Brifysgol gysylltu â'ch cysylltiadau mewn argyfwng a dibynadwy
Gall y Brifysgol cysylltu â'ch cysylltiadau mewn argyfwng neu ddibynadwy lle mae pryderon difrifol am eich iechyd neu’ch les. Gallai hyn gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i achosion lle mae'n ofynnol i'r brifysgol gymryd camau rhesymol i atal gweithred anghyfreithlon a/neu lle byddwn yn dod yn ymwybodol:
- eich bod wedi bod (neu byddwch chi) yn yr ysbyty oherwydd argyfwng.
- eich bod wedi dioddef anaf difrifol (gallai hyn gynnwys hunan-niweidio; neu ddefnyddio cyffuriau a/neu alcohol mewn symiau neu gyfuniadau risg uchel).
- bod tystiolaeth o ddirywiad sylweddol yn eich iechyd corfforol neu feddyliol.
- mae gennych anghenion gofal a chymorth sy'n ymestyn y tu allan i gylch gwaith y Brifysgol fel darparwr addysg.
- rydych mewn perygl o ac/neu yn profi niwed, cam-drin neu esgeulustod ac mae gennym reswm i gredu nad ydych yn gallu amddiffyn eich hun.
- eich bod wedi rhoi'r gorau i ymgysylltu â'ch astudiaethau a/neu gymorth proffesiynol a/neu nad ydych yn ymateb i ymdrechion rhesymol i gysylltu â chi.
- mae risg i chi neu i rywun arall oherwydd eich gweithredoedd.
Mae pob amgylchiad yn cael ei ystyried fesul achos. Bydd penderfyniad i gysylltu â chyswllt mewn argyfwng a/neu ddibynadwy yn cael ei wneud mewn ymateb i'r wybodaeth sydd ar gael i ni ynglŷn â'ch amgylchiadau presennol a'r risg sy'n bresennol. Bydd y penderfyniad fel arfer yn cael ei wneud gan aelod o staff uwch a / neu gymwys yn y Brifysgol.
- Byddwn yn trafod ein bwriad i gysylltu â'ch cyswllt mewn argyfwng neu gyswllt dibynadwy gyda chi ac yn cael eich caniatâd oni bai nad yw'n bosibl gwneud hynny, byddai'n achosi oedi critigol, neu lle mae eich gallu i gydsynio wedi'i leihau neu ei ddileu'n sylweddol.
- Lle byddwch yn rhoi caniatâd i gysylltu, byddwn yn cytuno â chi pa wybodaeth y gellir ei rhannu. Ni fydd cyswllt ar gyfer un mater yn cael ei ystyried yn ganiatâd i gysylltu ar bryderon yn y dyfodol.
- Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Brifysgol gysylltu â’ch cyswllt mewn argyfwng neu gyswllt dibynadwy heb ganiatâd os ydym o’r farn ei bod yn eich buddiannau hanfodol i wneud hynny, gan gynnwys lle gallai fod risg i fywyd neu niwed difrifol.
- Gall y brifysgol rannu gwybodaeth gyswllt ddibynadwy gyda'r gwasanaethau statudol ac argyfwng os gofynnir iddo wneud hynny heb eich caniatâd penodol os yw amgylchiadau'n cyfiawnhau hyn. Gall hyn gynnwys lle rydym yn credu ei fod er eich budd hanfodol neu orau, lle gofynnir amdano fel rhan o ymchwiliad heddlu neu at ddibenion derbyn i'r ysbyty.